Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 29

29
Datganiad Job
1Aeth Job ymlaen â'i ddadl, gan ddweud:
2“O na byddwn fel yn yr amser gynt,
yn y dyddiau pan oedd Duw yn fy ngwarchod,
3pan wnâi i'w lamp oleuo uwch fy mhen,
a minnau'n rhodio wrth ei goleuni trwy'r tywyllwch;
4pan oeddwn yn nyddiau f'anterth,
a Duw'n cysgodi dros fy nhrigfan;
5pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi,
a'm plant o'm cwmpas.
6Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth,
ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi.
7“Awn allan i borth y ddinas,
ac eisteddwn yn fy sedd ar y sgwâr;
8a phan welai'r llanciau fi, cilient,
a chodai'r hynafgwyr ar eu traed;
9peidiai'r arweinwyr â llefaru,
a rhoddent eu llaw ar eu genau;
10tawai siarad y pendefigion,
a glynai eu tafod wrth daflod eu genau.
11“Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd,
a phan welai llygad, canmolai fi;
12oherwydd gwaredwn y tlawd a lefai,
a'r amddifad a'r diymgeledd.
13Bendith yr un ar ddarfod amdano a ddôi arnaf,
a gwnawn i galon y weddw lawenhau.
14Gwisgwn gyfiawnder fel dillad amdanaf;
yr oedd fy marn fel mantell a thwrban.
15Yr oeddwn yn llygaid i'r dall,
ac yn draed i'r cloff.
16Yr oeddwn yn dad i'r tlawd,
a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn.
17Drylliwn gilddannedd yr anghyfiawn,
a pheri iddo ollwng yr ysglyfaeth o'i enau.
18Yna dywedais, ‘Byddaf farw yn f'anterth,
a'm dyddiau mor niferus â'r tywod,
19a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd,
a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau,
20a'm hanrhydedd o hyd yn iraidd,
a'm bwa yn adnewyddu yn fy llaw.’
21“Gwrandawai pobl arnaf,
a disgwylient yn ddistaw am fy nghyngor.
22Wedi imi lefaru, ni ddywedent air;
diferai fy ngeiriau arnynt.
23Disgwylient wrthyf fel am y glaw,
ac agorent eu genau fel am law y gwanwyn.
24Pan wenwn arnynt, oni chaent hyder?
A phan lewyrchai fy wyneb, ni fyddent brudd.
25Dewiswn eu ffordd iddynt, ac eistedd yn ben arnynt;
eisteddwn fel brenin yng nghanol ei lu,
fel un yn cysuro'r galarus.”

Dewis Presennol:

Job 29: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda