Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 18

18
1Yna atebodd Bildad y Suhiad:
2“Pa bryd y rhowch derfyn#18:2 Felly Groeg. Hebraeg, rhowch faglau. ar eiriau?
Ystyriwch yn bwyllog, yna gallwn siarad.
3Pam yr ystyrir ni fel anifeiliaid,
ac y cyfrifir ni'n hurt yn eich golwg?
4Un yn ei rwygo'i hun yn ei lid!
A wneir y ddaear yn ddiffaith er dy fwyn di?
A symudir y graig o'i lle?
5“Fe ddiffydd goleuni'r drygionus,
ac ni chynnau fflam ei dân.
6Fe dywylla'r goleuni yn ei babell,
a diffydd ei lamp uwch ei ben.
7Byrhau a wna'i gamau cryfion,
a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio.
8Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun;
y mae'n sangu ar y rhwydwaith.
9Cydia'r trap yn ei sawdl,
ac fe'i delir yn y groglath.
10Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear,
ac y mae magl ar ei lwybr.
11Y mae ofnau o bob tu yn ei ddychryn,
ac yn ymlid ar ei ôl.
12Pan ddaw pall ar ei gryfder,
yna y mae dinistr yn barod am ei gwymp.
13Ysir ei groen gan glefyd,
a llyncir ei aelodau gan Gyntafanedig Angau;
14yna cipir ef o'r babell yr ymddiriedai ef ynddi,
a'i ddwyn at Frenin Braw.
15Bydd estron yn trigo yn ei babell,
a gwasgerir brwmstan ar ei annedd.
16“Crina'i wraidd oddi tanodd,
a gwywa'i ganghennau uwchben.
17Derfydd y cof amdano o'r tir,
ac nid erys ei enw yn y wlad.
18Fe'i gwthir o oleuni i dywyllwch,
ac erlidir ef o'r byd.
19Ni bydd disgynnydd na hil iddo ymysg ei bobl,
nac olynydd iddo yn ei drigfan.
20Synnant yn y Gorllewin o achos ei dynged,
ac arswydant yn y Dwyrain.
21Yn wir dyma drigfannau'r anghyfiawn;
hwn yw lle'r un nad yw'n adnabod Duw.”

Dewis Presennol:

Job 18: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda