Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 17

17
1“Llesgaodd fy ysbryd, ciliodd fy nyddiau;
beddrod fydd fy rhan.
2Yn wir y mae gwatwarwyr o'm cwmpas;
pyla fy llygaid wrth iddynt wawdio.
3“Gosod dy hun yn feichiau drosof;
pwy arall a rydd wystl ar fy rhan?
4Oherwydd iti gadw eu calon rhag deall,
ni fydd i ti eu dyrchafu.
5Pan fydd rhywun yn gwenieithu ei gyfeillion,
bydd llygaid ei blant yn pylu.
6“Gwnaeth fi'n ddihareb i'r bobl;
yr wyf yn un y maent yn poeri arno.
7Pylodd fy llygaid o achos gofid;
aeth fy nghorff i gyd fel cysgod.
8Synna'r cyfiawn at y fath beth,
a ffyrniga'r uniawn yn erbyn yr annuwiol.
9Fe geidw'r cyfiawn at ei ffordd,
a bydd y glân ei ddwylo yn ychwanegu nerth.
10Pe baech i gyd yn rhoi ailgynnig,
eto ni chawn neb doeth yn eich plith.
11“Ciliodd fy nyddiau; methodd f'amcanion
a dyhead fy nghalon.
12Gwnânt y nos yn ddydd—
dewisant weld goleuni er gwaethaf y tywyllwch.
13Pa obaith sydd gennyf? Sheol fydd fy nghartref;
cyweiriaf fy ngwely yn y tywyllwch;
14dywedaf wrth y pwll, ‘Ti yw fy nhad’,
ac wrth lyngyr, ‘Fy mam a'm chwaer’.
15Ble, felly, y mae fy ngobaith?
A phwy a wêl obaith imi?
16Oni ddisgyn y rhai hyn i Sheol?
Onid awn i gyd i'r llwch?”

Dewis Presennol:

Job 17: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda