Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 19

19
1Atebodd Job:
2“Am ba hyd y blinwch fi,
a'm dryllio â geiriau?
3Yr ydych wedi fy ngwawdio ddengwaith,
ac nid oes arnoch gywilydd fy mhoeni.
4Os yw'n wir imi gyfeiliorni,
onid arnaf fi fy hun y mae'r bai?
5Os ydych yn wir yn eich gwneud eich hunain yn well na mi,
ac yn fy nghondemnio o achos fy ngwarth,
6ystyriwch yn awr mai Duw sydd wedi gwneud cam â mi,
ac wedi taflu ei rwyd o'm hamgylch.
7Os gwaeddaf, ‘Trais’, ni chaf ateb;
os ceisiaf help, ni chaf farn deg.
8Caeodd fy ffordd fel na allaf ddianc,
a gwnaeth fy llwybr yn dywyll o'm blaen.
9Cipiodd f'anrhydedd oddi arnaf,
a symudodd y goron oddi ar fy mhen.
10Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf;
diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.
11Enynnodd ei lid yn f'erbyn,
ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.
12Daeth ei fyddinoedd ynghyd;
gosodasant sarn hyd ataf,
ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.
13“Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf,
ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.
14Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod,
ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision.
15Fel dieithryn y meddylia fy morynion amdanaf;
estron wyf yn eu golwg.
16Galwaf ar fy ngwas, ond nid yw'n fy ateb,
er i mi erfyn yn daer arno.
17Aeth fy anadl yn atgas i'm gwraig,
ac yn ddrewdod i'm plant fy hun.
18Dirmygir fi hyd yn oed gan blantos;
pan godaf ar fy nhraed, y maent yn troi cefn arnaf#19:18 Neu, y maent yn cega arnaf..
19Ffieiddir fi gan fy nghyfeillion pennaf;
trodd fy ffrindiau agosaf yn f'erbyn.
20Y mae #19:20 Hebraeg yn ychwanegu fy nghroen. fy nghnawd yn glynu wrth fy esgyrn,
a dihengais â chroen fy nannedd.
21“Cymerwch drugaredd arnaf, fy nghyfeillion,
oherwydd cyffyrddodd llaw Duw â mi.
22Pam yr erlidiwch fi fel y gwna Duw?
Oni chawsoch ddigon ar ddifa fy nghnawd?
23O na fyddai fy ngeiriau wedi eu hysgrifennu!
O na chofnodid hwy mewn llyfr,
24wedi eu hysgrifennu â phin haearn a phlwm,
a'u naddu ar garreg am byth!
25Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw,
ac y saif o'm plaid yn y diwedd;
26ac wedi i'm croen ddifa fel hyn,
eto o'm cnawd caf weld Duw#19:26 Hebraeg yn aneglur iawn..
27Fe'i gwelaf ef o'm plaid;
ie, fy llygaid fy hun a'i gwêl, ac nid yw'n ddieithr.
Y mae fy nghalon yn dyheu o'm mewn.
28“Os dywedwch, ‘Y fath erlid a fydd arno,
gan fod gwreiddyn y drwg ynddo,’
29yna arswydwch rhag y cleddyf,
oherwydd daw cynddaredd â chosb y cleddyf,
ac yna y cewch wybod fod barn.”

Dewis Presennol:

Job 19: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda