Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 9:8-21

Eseia 9:8-21 BCND

Anfonodd yr ARGLWYDD air yn erbyn Jacob, ac fe ddisgyn ar Israel. Gostyngir yr holl bobl— Effraim a thrigolion Samaria— sy'n dweud mewn balchder a thraha, “Syrthiodd y priddfeini, ond fe adeiladwn ni â cherrig nadd; torrwyd y prennau sycamor, ond fe rown ni gedrwydd yn eu lle.” Y mae'r ARGLWYDD yn codi gwrthwynebwyr yn eu herbyn; y mae'n cyffroi eu gelynion. Y mae Syriaid o'r dwyrain a Philistiaid o'r gorllewin yn ysu Israel a'u safnau'n agored. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law. Ond ni throdd y bobl at yr un a'u trawodd, na cheisio ARGLWYDD y Lluoedd; am hynny tyr yr ARGLWYDD ymaith o Israel y pen â'r gynffon, y gangen balmwydd a'r frwynen mewn un dydd; yr hynafgwr a'r anrhydeddus yw'r pen, y proffwyd sy'n dysgu celwydd yw'r gynffon. Y rhai sy'n arwain y bobl hyn sy'n peri iddynt gyfeiliorni; a'r rhai a arweiniwyd sy'n cael eu drysu. Am hynny nid arbed yr ARGLWYDD eu gwŷr ifainc, ac ni thosturia wrth eu hamddifaid na'u gweddwon. Y mae pob un ohonynt yn annuwiol a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law. Oherwydd y mae drygioni yn llosgi fel tân, yn ysu'r mieri a'r drain, yn cynnau yn nrysni'r coed, ac yn codi'n golofnau o fwg. Gan ddigofaint ARGLWYDD y Lluoedd y mae'r wlad ar dân; y mae'r bobl fel tanwydd, ac nid arbedant ei gilydd. Cipia un o'r dde, ond fe newyna; bwyta'r llall o'r chwith, ond nis digonir. Bydd pob un yn bwyta cnawd ei blant— Manasse Effraim, ac Effraim Manasse, ac ill dau yn erbyn Jwda. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.