Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 6:1-13

Eseia 6:1-13 BCND

Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Usseia, gwelais yr ARGLWYDD. Yr oedd yn eistedd ar orsedd uchel, ddyrchafedig, a godre'i wisg yn llenwi'r deml. Uwchlaw yr oedd seraffiaid i weini arno, pob un â chwech adain, dwy i guddio'r wyneb, dwy i guddio'r traed, a dwy i ehedeg. Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall, “Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd; y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.” Ac fel yr oeddent yn galw, yr oedd sylfeini'r rhiniogau'n ysgwyd, a llanwyd y tŷ gan fwg. Yna dywedais, “Gwae fi! Y mae wedi darfod amdanaf! Dyn a'i wefusau'n aflan ydwyf, ac ymysg pobl a'u gwefusau'n aflan yr wyf yn byw; ac eto, yr wyf â'm llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd.” Ond ehedodd un o'r seraffiaid ataf, a dwyn yn ei law farworyn a gymerodd mewn gefel oddi ar yr allor; ac fe'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, a dweud, “Wele, y mae hwn wedi cyffwrdd â'th enau; symudwyd dy ddrygioni, a maddeuwyd dy bechod.” Yna clywais yr ARGLWYDD yn dweud, “Pwy a anfonaf? Pwy a â drosom ni?” Atebais innau, “Dyma fi, anfon fi.” Dywedodd, “Dos, dywed wrth y bobl hyn, ‘Clywch yn wir, ond peidiwch â deall; edrychwch yn wir, ond peidiwch â dirnad.’ Brasâ galon y bobl, trymha eu clustiau, cau eu llygaid; rhag iddynt weld â'u llygaid, clywed â'u clustiau, deall â'u calon, a dychwelyd i'w hiacháu.” Gofynnais innau, “Pa hyd, ARGLWYDD?” Atebodd, “Nes y bydd dinasoedd wedi eu hanrheithio heb drigiannydd, a'r tai heb bobl, a'r wlad yn anrhaith anghyfannedd; nes y bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru pawb ymhell, a difrod mawr yng nghanol y wlad. Ac os erys y ddegfed ran ar ôl ynddi, fe'i llosgir drachefn; fel llwyfen neu dderwen fe'i teflir ymaith, fel boncyff o'r uchelfa. Had sanctaidd yw ei boncyff.”

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Eseia 6:1-13