Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 6:1-13

Eseia 6:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn y flwyddyn y buodd y Brenin Wseia farw, gwelais y Meistr yn eistedd ar orsedd uchel, ac ymylon ei wisg yn llenwi’r deml. Roedd seraffiaid yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio’i wyneb, dwy i guddio’i goesau, a dwy i hedfan. Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud, “Sanctaidd! Sanctaidd! Mor sanctaidd ydy’r ARGLWYDD hollbwerus! Mae ei ysblander yn llenwi’r ddaear gyfan!” Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a’r neuadd yn llenwi gyda mwg. Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i’n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda’m llygaid fy hun – yr ARGLWYDD hollbwerus.” Yna dyma un o’r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi’i gymryd oddi ar yr allor mewn gefel. Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a thalwyd iawn am dy bechod.” Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i’n mynd i’w anfon? Pwy sy’n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi’n dweud, “Dyma fi; anfon fi.” Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma: ‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall; edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’ Gwna nhw’n ystyfnig, tro eu clustiau’n fyddar, a chau eu llygaid – rhag iddyn nhw weld â’u llygaid, clywed â’u clustiau, deall go iawn, a throi a chael eu hiacháu.” Dyma fi’n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe’n ateb: “Nes bydd trefi wedi’u dinistrio a neb yn byw ynddyn nhw: tai heb bobl ynddyn nhw, a’r tir wedi’i ddifetha a’i adael yn ddiffaith.” Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru’r boblogaeth i ffwrdd – a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy’r wlad. Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl, fydd honno eto’n cael ei llosgi? “Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi’i thorri i lawr, a dim ond boncyff ar ôl. Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd, fel had sanctaidd.”

Eseia 6:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Usseia, gwelais yr ARGLWYDD. Yr oedd yn eistedd ar orsedd uchel, ddyrchafedig, a godre'i wisg yn llenwi'r deml. Uwchlaw yr oedd seraffiaid i weini arno, pob un â chwech adain, dwy i guddio'r wyneb, dwy i guddio'r traed, a dwy i ehedeg. Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall, “Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd; y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.” Ac fel yr oeddent yn galw, yr oedd sylfeini'r rhiniogau'n ysgwyd, a llanwyd y tŷ gan fwg. Yna dywedais, “Gwae fi! Y mae wedi darfod amdanaf! Dyn a'i wefusau'n aflan ydwyf, ac ymysg pobl a'u gwefusau'n aflan yr wyf yn byw; ac eto, yr wyf â'm llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd.” Ond ehedodd un o'r seraffiaid ataf, a dwyn yn ei law farworyn a gymerodd mewn gefel oddi ar yr allor; ac fe'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, a dweud, “Wele, y mae hwn wedi cyffwrdd â'th enau; symudwyd dy ddrygioni, a maddeuwyd dy bechod.” Yna clywais yr ARGLWYDD yn dweud, “Pwy a anfonaf? Pwy a â drosom ni?” Atebais innau, “Dyma fi, anfon fi.” Dywedodd, “Dos, dywed wrth y bobl hyn, ‘Clywch yn wir, ond peidiwch â deall; edrychwch yn wir, ond peidiwch â dirnad.’ Brasâ galon y bobl, trymha eu clustiau, cau eu llygaid; rhag iddynt weld â'u llygaid, clywed â'u clustiau, deall â'u calon, a dychwelyd i'w hiacháu.” Gofynnais innau, “Pa hyd, ARGLWYDD?” Atebodd, “Nes y bydd dinasoedd wedi eu hanrheithio heb drigiannydd, a'r tai heb bobl, a'r wlad yn anrhaith anghyfannedd; nes y bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru pawb ymhell, a difrod mawr yng nghanol y wlad. Ac os erys y ddegfed ran ar ôl ynddi, fe'i llosgir drachefn; fel llwyfen neu dderwen fe'i teflir ymaith, fel boncyff o'r uchelfa. Had sanctaidd yw ei boncyff.”

Eseia 6:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr ARGLWYDD yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml. Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai. A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw ARGLWYDD y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef. A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg. Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, ARGLWYDD y lluoedd. Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel: Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod. Clywais hefyd lef yr ARGLWYDD yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi. Ac efe a ddywedodd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Gan glywed clywch, ond na ddeellwch; a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch. Brasâ galon y bobl hyn, a thrymha eu clustiau, a chae eu llygaid; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, a’u meddyginiaethu. Yna y dywedais, Pa hyd, ARGLWYDD? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd, Ac i’r ARGLWYDD bellhau dynion, a bod ymadawiad mawr yng nghanol y wlad. Ac eto bydd ynddi ddegwm, a hi a ddychwel, ac a borir; fel y llwyfen a’r dderwen, y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt: felly yr had sanctaidd fydd ei sylwedd hi.