Gwae'r rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ,
sy'n chwanegu cae at gae
nes llyncu pob man,
a'ch gadael chwi'n unig yng nghanol y tir.
Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd yn fy nghlyw,
“Bydd plastai yn anghyfannedd,
a thai helaeth a theg heb drigiannydd.
Bydd deg cyfair o winllan yn dwyn un bath,
a homer o had heb gynhyrchu dim ond un effa.”
Gwae'r rhai sy'n codi'n fore
i ddilyn diod gadarn,
ac sy'n oedi hyd yr hwyr
nes i'r gwin eu cynhyrfu.
Yn eu gwleddoedd fe geir y delyn a'r nabl,
y tabwrdd a'r ffliwt a'r gwin;
ond nid ystyriant waith yr ARGLWYDD
nac edrych ar yr hyn a wnaeth.
Am hynny, caethgludir fy mhobl
o ddiffyg gwybodaeth;
bydd eu bonedd yn trengi o newyn
a'u gwerin yn gwywo gan syched.
Am hynny, lledodd Sheol ei llwnc,
ac agor ei cheg yn ddiderfyn;
fe lyncir y bonedd a'r werin,
ei thyrfa a'r sawl a ymffrostia ynddi.
Darostyngir gwreng a bonedd,
a syrth llygad y balch;
ond dyrchefir ARGLWYDD y Lluoedd mewn barn,
a sancteiddir y Duw sanctaidd mewn cyfiawnder.
Yna bydd ŵyn yn pori fel yn eu cynefin,
a'r mynnod geifr yn bwyta ymysg yr adfeilion.
Gwae'r rhai sy'n tynnu drygioni â rheffynnau oferedd,
a phechod megis â rhaffau men,
y rhai sy'n dweud, “Brysied,
prysured gyda'i orchwyl, inni gael gweld;
doed pwrpas Sanct Israel i'r golwg, inni wybod beth yw.”
Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg,
sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch,
sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw.
Gwae'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain,
ac yn gall yn eu tyb eu hunain.
Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin,
ac yn gryfion wrth gymysgu diod gadarn,
y rhai sy'n cyfiawnhau'r euog am wobr,
ac yn gwrthod cyfiawnder i'r cyfiawn.
Am hynny, fel yr ysir y sofl gan dafod o dân
ac y diflanna'r mân us yn y fflam,
felly y pydra eu gwreiddyn
ac y diflanna eu blagur fel llwch;
am iddynt wrthod cyfraith ARGLWYDD y Lluoedd,
a dirmygu gair Sanct Israel.
Am hynny enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl,
ac estynnodd ei law yn eu herbyn, a'u taro;
fe grynodd y mynyddoedd,
a gorweddai'r celanedd fel ysgarthion ar y strydoedd.
Er hynny ni throdd ei lid ef,
ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
Fe gyfyd faner i genhedloedd pell,
a chwibana arnynt o eithaf y ddaear,
ac wele, fe ddônt yn fuan a chwim.
Nid oes neb yn blino nac yn baglu,
nid oes neb yn huno na chysgu,
nid oes neb a'i wregys wedi ei ddatod,
nac a charrai ei esgidiau wedi ei thorri.
Y mae eu saethau'n llym
a'u bwâu i gyd yn dynn;
y mae carnau eu meirch fel callestr,
ac olwynion eu cerbydau fel corwynt.
Y mae eu rhuad fel llew;
rhuant fel llewod ifanc,
sy'n chwyrnu wrth afael yn yr ysglyfaeth
a'i dwyn ymaith, heb neb yn ei harbed.
Rhuant arni yn y dydd hwnnw,
fel rhuad y môr;
ac os edrychir tua'r tir, wele dywyllwch a chyfyngdra,
a'r goleuni yn tywyllu gan ei gymylau.