Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 22

22
Yn Erbyn Jerwsalem
1Yr oracl am ddyffryn y weledigaeth:
Beth sy'n bod? Pam y mae pawb ohonoch
wedi dringo i bennau'r tai?
2Dinas yn llawn cynnwrf, un mewn terfysg, tref mewn berw!
Ni laddwyd dy laddedigion â'r cleddyf,
na'th feirwon mewn brwydr.
3Ffodd dy arweinwyr i gyd gyda'i gilydd,
fe'u daliwyd heb blygu bwa;
daliwyd dy filwyr praffaf#22:3 Felly Groeg. Hebraeg, dy filwyr a gafwyd ynot. i gyd gyda'i gilydd,
er iddynt ffoi ymhell i ffwrdd.
4Am hynny dywedais, “Trowch eich golwg oddi wrthyf,
gadewch i mi wylo'n chwerw;
peidiwch â cheisio fy niddanu
am ddinistr merch fy mhobl.”
5Oherwydd y mae gan yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,
ddiwrnod o derfysg, o fathru ac o ddryswch
yn nyffryn y weledigaeth,
diwrnod o falurio ceyrydd
ac o weiddi yn y mynyddoedd.
6Cododd Elam ei gawell saethau,
bachwyd meirch wrth gerbydau Aram#22:6 Tebygol. Hebraeg, dyn.,
dinoethodd Cir ei tharian.
7Aeth eich dyffrynnoedd dethol yn llawn cerbydau,
a'r gwŷr meirch yn gwarchae ar y pyrth;
8dinoethwyd amddiffynfa Jwda.
Yn y dydd hwnnw buoch yn archwilio'r
arfogaeth yn Nhŷ'r Goedwig,
9yn edrych y bylchau yn Ninas Dafydd
am eu bod yn niferus,
ac yn cronni dyfroedd y Llyn Isaf.
10Buoch hefyd yn rhifo tai Jerwsalem
a thynnu rhai i lawr i ddiogelu'r mur;
11gwnaethoch gronfa rhwng y ddau fur
i ddal y dyfroedd o'r Hen Lyn.
Ond ni roesoch sylw i'r un a'i gwnaeth,
nac ystyried yr hwn a'i lluniodd erstalwm.
12Yn y dydd hwnnw, fe alwodd yr Arglwydd,
ARGLWYDD y Lluoedd, am wylofain a galaru,
am eillio pen a gwregysu â sachliain;
13ond dyma lawenydd a gorfoledd,
lladd gwartheg a lladd defaid,
bwyta cig ac yfed gwin, a dweud,
“Gadewch inni fwyta ac yfed,
oherwydd yfory byddwn farw.”
14Datguddiodd ARGLWYDD y Lluoedd hyn yn fy nghlyw, a dweud,
“Yn wir, ni lanheir y drygioni hwn nes i chwi farw.”
Dyna a ddywedodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.
15Dyma'r hyn a ddywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd:
“Dos, a gofyn i'r swyddog hwn, Sebna, arolygydd y tŷ,
16‘Beth a wnei di yma, pwy sydd gennyt yma,
dy fod wedi torri bedd yma i ti dy hun,
gan dorri dy fedd ar le uchel
a naddu claddfa i ti dy hun mewn craig?
17Wele, bydd yr ARGLWYDD yn gafael yn dynn ynot
ac yn dy hyrddio i lawr, ŵr cryf;
18bydd yn dy chwyrlïo amgylch ogylch,
ac yn dy daflu fel pêl ar faes agored, llydan.
Yno y byddi farw, ac yno yr erys dy gerbydau mawreddog,
yn warth i dŷ dy feistr.
19Fe'th yrraf o'th swydd, ac fe'th fwrir o'th safle.’ ”
20“Yn y dydd hwnnw byddaf yn galw am fy ngwas Eliacim fab Hilceia, 21ac yn ei wisgo â'th fantell di, ac yn rhwymo dy wregys amdano, ac yn rhoi d'awdurdod di yn ei law. Bydd ef yn dad i drigolion Jerwsalem ac i bobl Jwda. 22Gosodaf allwedd tŷ Dafydd ar ei ysgwydd; beth bynnag y bydd yn ei agor, ni fydd neb yn gallu ei gau, a beth bynnag y bydd yn ei gau, ni fydd neb yn gallu ei agor. 23Byddaf yn ei osod yn sicr, fel hoelen yn ei lle; bydd yn orsedd ogoneddus yn nhŷ ei dad. 24Ef fydd yn cynnal holl bwys y teulu, yr hil a'r epil, sef yr holl lestri mân, yn gwpanau ac yn gawgiau. 25Yn y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “fe symudir yr hoelen a osodwyd yn sicr yn ei lle; fe'i torrir ac fe syrthia; dryllir hefyd y llwyth a oedd arni.” Llefarodd yr ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

Eseia 22: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda