Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 21

21
Yn Erbyn Babilon
1Yr oracl am anialwch y môr:
Fel corwynt yn chwyrlïo dros y Negef,
felly y daw dinistr o'r anialwch, o wlad ofnadwy.
2Mynegwyd gweledigaeth greulon i mi:
bradwr yn bradychu, anrheithiwr yn anrheithio.
Cod, Elam! I'r gwarchae, Fediaid!
Rhof daw ar bob griddfan a achoswyd.
3Am hynny llanwyd fy lwynau â gofid,
cydiwyd ynof gan wewyr, fel gwraig wrth esgor;
cythryblwyd fi wrth ei glywed,
brawychais wrth ei weld.
4Y mae fy meddwl yn drysu, a braw yn fy nirdynnu;
trodd yr hwyrddydd a ddymunais yn ddychryn imi.
5Huliant fwrdd, taenant y lliain,
y maent yn bwyta ac yfed.
Codwch, chwi dywysogion, gloywch eich tarian.
6Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf:
“Dos, gosod wyliwr i fynegi'r hyn a wêl.
7Os bydd yn gweld cerbyd gyda phâr o feirch,
marchog ar asyn neu farchog ar gamel,
y mae i sylwi'n ddyfal, ddyfal.”
8Yna fe lefodd y gwyliwr#21:8 Felly Sgrôl ac un Fersiwn. TM, llew.,
“Rwyf wedi sefyll ar y tŵr ar hyd y dydd, O Arglwydd,
ac rwyf wedi cadw gwyliadwriaeth am nosau cyfan;
9a dyma a ddaeth—gŵr mewn cerbyd gyda phâr o feirch,
yn dweud, ‘Y mae wedi syrthio! Y mae Babilon wedi syrthio,
a holl ddelwau ei duwiau wedi eu dryllio i'r llawr.’ ”
10Chwi, fy eiddo a fu dan y dyrnwr ac a nithiwyd,
mynegais i chwi yr hyn a glywais
gan ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel.
Yn Erbyn Edom
11Yr oracl am Duma:
Geilw un arnaf o Seir,
“O wyliwr, beth am y nos?
O wyliwr, beth am y nos?”
12Atebodd y gwyliwr,
“Daw bore, a nos hefyd.
Os ydych am ofyn, gofynnwch,
a dewch yn ôl eto.”
Yn Erbyn Arabia
13Yr oracl am Arabia:
Yn llwyni Arabia y lletywch,
chwi garafanau Dedanim;
14dewch â diod i gyfarfod y rhai sychedig.
Chwi drigolion Tema,
ewch i gyfarfod y fföedigion â bara;
15oherwydd ffoesant rhag y cleddyf, rhag y cleddyf noeth
a'r bwa anelog, a rhag pwys y frwydr.
16Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf: “O fewn blwyddyn, yn ôl tymor gwas cyflog, daw diwedd ar holl ogoniant Cedar; 17ychydig o saethwyr bwa o blith gwŷr grymus Cedar a fydd yn weddill.” Llefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel.

Dewis Presennol:

Eseia 21: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda