Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 20

20
Neges y Proffwyd Noeth
1Yn y flwyddyn pan ddaeth y cadfridog#20:1 Neu, pan ddaeth Tartan., a anfonwyd gan Sargon brenin Asyria, i Asdod ac ymladd yn ei herbyn a'i hennill, 2dyna'r pryd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth#20:2 Felly Groeg. Hebraeg, trwy. Eseia fab Amos, “Dos, datod y sachliain oddi am dy lwynau, a thyn dy sandalau oddi am dy draed.” Fe wnaeth hynny, a cherddodd o amgylch heb ddillad ac yn droednoeth. 3Dywedodd yr ARGLWYDD, “Fel y mae fy ngwas Eseia wedi bod yn cerdded heb ddillad ac yn droednoeth am dair blynedd, yn arwydd a rhybudd yn erbyn yr Aifft ac Ethiopia, 4felly y bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid yn gaeth ac Ethiopia i gaethglud, yn ifanc a hen, heb ddillad, yn droednoeth ac yn dinnoeth, yn gywilydd i'r Aifft. 5Bydd pawb mewn arswyd a dryswch o achos Ethiopia, eu gobaith, a'r Aifft, eu balchder. 6Bydd pawb sy'n trigo ar y traethau hyn yn y dydd hwnnw yn dweud, ‘Dyma sydd wedi digwydd i'r rhai yr oeddem ni'n gobeithio ynddynt ac yn dibynnu arnynt#20:6 Felly Sgrôl A. TM, yn ffoi atynt. am help a gwaredigaeth o afael brenin Asyria. Sut felly y dihangwn?’ ”

Dewis Presennol:

Eseia 20: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda