Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 19

19
Yn Erbyn yr Aifft
1Yr oracl am yr Aifft:
Wele'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl buan,
ac yn dod i'r Aifft;
bydd eilunod yr Aifft yn crynu o'i flaen,
a chalon yr Eifftiaid yn toddi o'u mewn.
2“Gyrraf Eifftiwr yn erbyn Eifftiwr;
ymladd brawd yn erbyn brawd,
a chymydog yn erbyn cymydog,
dinas yn erbyn dinas,
a theyrnas yn erbyn teyrnas.
3Palla ysbryd yr Eifftiaid o'u mewn,
a drysaf eu cynlluniau;
ânt i ymofyn â'u heilunod a'u swynwyr,
â'u dewiniaid a'u dynion hysbys.
4Trosglwyddaf yr Aifft i feistr caled,
a theyrnasa brenin creulon arnynt,”
medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.
5Sychir dyfroedd y Neil,
bydd yr afon yn hesb a sych,
6y ffosydd yn drewi,
ffrydiau y Neil yn edwino gan sychder,
a'r brwyn a'r helyg yn gwywo;
7bydd lleiniau o dir moel wrth y Neil,
a bydd popeth a heuir gyda glan yr afon
yn crino ac yn diflannu'n llwyr.
8Bydd y pysgotwyr yn tristáu ac yn cwynfan,
pob un sy'n taflu bach yn y Neil;
bydd y rhai sy'n bwrw rhwydi ar y dyfroedd yn dihoeni.
9Bydd gweithwyr llin mewn trallod,
a'r cribwragedd a'r gwehyddion yn gwelwi.
10Bydd y rhai sy'n nyddu yn benisel
a phob crefftwr yn torri ei galon.
11O'r fath ffyliaid, chwi dywysogion Soan,
y doethion sy'n cynghori Pharo â chyngor hurt!
Sut y gallwch ddweud wrth Pharo, “Mab y doethion wyf fi,
o hil yr hen frenhinoedd”?
12Ble mae dy ddoethion?
Bydded iddynt lefaru'n awr, a'th ddysgu
beth a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd ynglŷn â'r Aifft.
13Gwnaed tywysogion Soan yn ffyliaid,
a thwyllwyd tywysogion Noff;
aeth penaethiaid ei llwythau â'r Aifft ar gyfeiliorn.
14Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd drygioni o'i mewn,
a gwneud i'r Aifft gyfeiliorni ym mhopeth a wna,
fel y bydd meddwyn yn ymdroi yn ei gyfog.
15Ni bydd dim y gellir ei wneud i'r Aifft gan neb,
na phen na chynffon, na changen na brwynen.
16Yn y dydd hwnnw bydd yr Eifftiaid fel gwragedd yn crynu gan ofn o flaen y llaw y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei hysgwyd yn eu herbyn. 17Bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft, a phob sôn amdano yn codi ofn arni, oherwydd y cynllun a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei herbyn.
18Yn y dydd hwnnw bydd pump o ddinasoedd yr Aifft yn siarad iaith Canaan, ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i ARGLWYDD y Lluoedd. Enw un ohonynt fydd Dinas yr Haul#19:18 Neu, Dinas Distryw..
19Yn y dydd hwnnw bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a cholofn i'r ARGLWYDD ar ei goror. 20Bydd yn arwydd ac yn dystiolaeth i ARGLWYDD y Lluoedd yng ngwlad yr Aifft; pan lefant ar yr ARGLWYDD oherwydd eu gorthrymwyr, bydd yntau yn anfon gwaredydd iddynt i'w hamddiffyn a'u hachub. 21Bydd yr ARGLWYDD yn ei wneud ei hun yn adnabyddus i'r Eifftiaid, a byddant hwythau'n cydnabod yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn ei addoli ag aberth a bwydoffrwm, ac yn addunedu i'r ARGLWYDD ac yn talu eu haddunedau iddo. 22Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft, yn ei tharo ac yn ei gwella; pan ddychwelant at yr ARGLWYDD bydd yntau'n gwrando arnynt ac yn eu hiacháu. 23Yn y dydd hwnnw bydd priffordd o'r Aifft i Asyria; fe â'r Asyriaid i'r Aifft a'r Eifftiaid i Asyria, a bydd yr Eifftiaid yn addoli gyda'r#19:23 Neu, yn weision i'r. Asyriaid.
24Yn y dydd hwnnw bydd Israel yn un o dri, gyda'r Aifft ac Asyria, ac yn gyfrwng bendith yng nghanol y byd. 25Bendith ARGLWYDD y Lluoedd fydd, “Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy nwylo, ac ar Israel, f'etifeddiaeth.”

Dewis Presennol:

Eseia 19: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda