Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 18

18
Yn Erbyn Ethiopia
1Gwae wlad yr adenydd chwim,
sydd tu draw i afonydd Ethiopia,
2ac yn anfon cenhadau dros y môr
mewn cychod o bapurfrwyn ar wyneb y dyfroedd.
Ewch, chwi negeswyr cyflym,
at genedl sy'n dal ac yn llyfn,
at bobl a ofnir ymhell ac agos,
cenedl gref sy'n mathru eraill,
a'i thir wedi ei rannu gan afonydd.
3Chwi, holl drigolion byd a phobl y ddaear,
edrychwch pan godir baner ar y mynyddoedd,
gwrandewch pan gân yr utgorn.
4Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf:
“Gwyliaf yn llonydd o'm trigfan,
yr un fath â thes yr haul
a chwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.”
5Canys cyn y cynhaeaf, pan dderfydd y blodau,
a'r tusw blodau yn troi'n rawnwin aeddfed,
torrir ymaith y brigau â chyllell finiog,
a thynnir i ffwrdd y cangau sydd ar led.
6Fe'u gadewir i gyd i adar rheibus y mynydd
ac i anifeiliaid gwylltion.
Yno bydd yr adar rheibus yn treulio'r haf,
a'r anifeiliaid gwylltion yn gaeafu.
7Yn yr amser hwnnw dygir rhoddion i ARGLWYDD y Lluoedd gan bobl dal a llyfn, pobl a ofnir ymhell ac agos, cenedl gref sy'n mathru eraill, a'i thir wedi ei rannu gan afonydd, i'r lle sy'n dwyn enw ARGLWYDD y Lluoedd, Mynydd Seion.

Dewis Presennol:

Eseia 18: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda