Genesis 32
32
1Aeth Jacob i'w daith, a chyfarfu angylion Duw ag ef; 2a phan welodd hwy, dywedodd Jacob, “Dyma wersyll Duw.” Felly enwodd y lle hwnnw Mahanaim#32:2 H.y., Dau wersyll..
Jacob yn Paratoi i Gyfarfod ag Esau
3Yna anfonodd Jacob negeswyr o'i flaen at ei frawd Esau i wlad Seir yn nhir Edom, 4a gorchymyn iddynt, “Dywedwch fel hyn wrth f'arglwydd Esau: ‘Fel hyn y mae dy was Jacob yn dweud: Bûm yn aros gyda Laban, ac yno y bûm hyd yn awr; 5y mae gennyf ychen, asynnod, defaid, gweision a morynion, ac anfonais i fynegi i'm harglwydd, er mwyn imi gael ffafr yn dy olwg.’ ” 6Dychwelodd y negeswyr at Jacob a dweud, “Daethom at dy frawd Esau, ac y mae ef yn dod i'th gyfarfod gyda phedwar cant o ddynion.” 7Yna daeth ofn mawr ar Jacob, ac yr oedd mewn cyfyngder; rhannodd y bobl oedd gydag ef, a'r defaid, ychen a chamelod, yn ddau wersyll, 8gan feddwl, “Os daw Esau at y naill wersyll a'i daro, yna caiff y llall ddianc.” 9A dywedodd Jacob, “O Dduw fy nhadau, Duw Abraham a Duw Isaac, O ARGLWYDD, dywedaist wrthyf, ‘Dos yn ôl i'th wlad ac at dy dylwyth, a gwnaf i ti ddaioni.’ 10Nid wyf yn deilwng o gwbl o'r holl ymlyniad a'r holl ffyddlondeb a ddangosaist tuag at dy was; oherwydd deuthum dros yr Iorddonen hon heb ddim ond fy ffon, ond yn awr yr wyf yn ddau wersyll. 11Achub fi o law fy mrawd, o law Esau; y mae arnaf ei ofn, rhag iddo ddod a'n lladd, yn famau a phlant. 12Yr wyt ti wedi addo, ‘Yn ddiau gwnaf ddaioni i ti, a bydd dy hil fel tywod y môr, sy'n rhy niferus i'w rifo.’ ”
13Arhosodd yno y noson honno, a chymerodd o'r hyn oedd ganddo anrheg i'w frawd Esau: 14dau gant o eifr ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid ac ugain o hyrddod, 15deg ar hugain o gamelod magu a'u llydnod, deugain o wartheg a deg o deirw, ugain o asennod a deg asyn. 16Rhoes hwy yng ngofal ei weision, bob gyr ar ei phen ei hun, a dywedodd wrth ei weision, “Ewch o'm blaen, a gadewch fwlch rhwng pob gyr a'r nesaf.” 17Gorchmynnodd i'r cyntaf, “Pan ddaw fy mrawd Esau i'th gyfarfod a gofyn, ‘I bwy yr wyt yn perthyn? I ble'r wyt ti'n mynd? A phwy biau'r rhain sydd dan dy ofal?’ 18yna dywed, ‘Dy was Jacob biau'r rhain; anfonwyd hwy'n anrheg i'm harglwydd Esau, ac y mae Jacob ei hun yn ein dilyn.’ ” 19Rhoes yr un gorchymyn i'r ail a'r trydydd, ac i bob un oedd yn canlyn y gyrroedd, a dweud, “Yr un peth a ddywedwch chwithau wrth Esau pan ddewch i'w gyfarfod, 20‘Y mae dy was Jacob yn ein dilyn.’ ” Hyn oedd yn ei feddwl: “Enillaf ei ffafr â'r anrheg sy'n mynd o'm blaen; wedyn, pan ddof i'w gyfarfod, efallai y bydd yn fy nerbyn.” 21Felly anfonodd yr anrheg o'i flaen, ond treuliodd ef y noson honno yn y gwersyll.
Jacob yn Ymgodymu yn Penuel
22Yn ystod y noson honno cododd Jacob a chymryd ei ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un mab ar ddeg, a chroesi rhyd Jabboc. 23Wedi iddo'u cymryd a'u hanfon dros yr afon, anfonodd ei eiddo drosodd hefyd. 24Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr. 25Pan welodd y gŵr nad oedd yn cael y trechaf arno, trawodd wasg ei glun, a datgysylltwyd clun Jacob wrth iddo ymgodymu ag ef. 26Yna dywedodd y gŵr, “Gollwng fi, oherwydd y mae'n gwawrio.” Ond atebodd yntau, “Ni'th ollyngaf heb iti fy mendithio.” 27“Beth yw d'enw?” meddai ef. Ac atebodd yntau, “Jacob.” 28Yna dywedodd, “Ni'th elwir Jacob mwyach, ond Israel#32:28 H.y., Yr un sy'n ymdrechu â Duw, neu, Duw sy'n ymdrechu., oherwydd yr wyt wedi ymdrechu â Duw a dynion, ac wedi gorchfygu.” 29A gofynnodd Jacob iddo, “Dywed imi dy enw.” Ond dywedodd yntau, “Pam yr wyt yn gofyn fy enw?” A bendithiodd ef yno. 30Felly enwodd Jacob y lle Penuel#32:30 Felly Fersiynau. Hebraeg, Peniel. H.y., Wyneb Duw., a dweud, “Gwelais Dduw wyneb yn wyneb, ond arbedwyd fy mywyd.” 31Cododd yr haul arno fel yr oedd yn mynd heibio i Penuel, ac yr oedd yn gloff o'i glun. 32Dyna pam nad yw plant Israel yn bwyta giewyn gwasg y glun hyd heddiw, oherwydd trawo gwasg clun Jacob i fyw y giewyn.
Dewis Presennol:
Genesis 32: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004