Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 31

31
Jacob yn Ffoi oddi wrth Laban
1Clywodd Jacob fod meibion Laban yn dweud, “Y mae Jacob wedi cymryd holl eiddo ein tad, ac o'r hyn oedd yn perthyn i'n tad y mae ef wedi ennill yr holl gyfoeth hwn.” 2A gwelodd Jacob nad oedd agwedd Laban ato fel y bu o'r blaen. 3Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jacob, “Dos yn ôl i wlad dy dadau ac at dy dylwyth, a byddaf gyda thi.” 4Felly anfonodd Jacob a galw Rachel a Lea i'r maes lle'r oedd ei braidd; 5a dywedodd wrthynt, “Gwelaf nad yw agwedd eich tad ataf fel y bu o'r blaen, ond bu Duw fy nhad gyda mi. 6Gwyddoch fy mod wedi gweithio i'ch tad â'm holl egni; 7ond twyllodd eich tad fi, a newid fy nghyflog ddengwaith; eto ni adawodd Duw iddo fy niweidio. 8Pan ddywedai ef, ‘Y brithion fydd dy gyflog’, yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar frithion; a phan ddywedai ef, ‘Y broc fydd dy gyflog’, yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar rai broc. 9Felly cymerodd Duw anifeiliaid eich tad a'u rhoi i mi. 10Yn nhymor beichiogi'r praidd codais fy ngolwg a gweld mewn breuddwyd fod yr hyrddod oedd yn llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc. 11Yna dywedodd angel Duw wrthyf yn fy mreuddwyd, ‘Jacob.’ Atebais innau, ‘Dyma fi.’ 12Yna dywedodd, ‘Cod dy olwg ac edrych; y mae'r holl hyrddod sy'n llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc; yr wyf wedi gweld popeth y mae Laban yn ei wneud i ti. 13Myfi yw Duw Bethel, lle'r eneiniaist golofn a gwneud adduned i mi. Yn awr cod, dos o'r wlad hon a dychwel i wlad dy enedigaeth.’ ” 14Yna atebodd Rachel a Lea ef, “A oes i ni bellach ran neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad? 15Onid ydym ni'n cael ein cyfrif ganddo yn estroniaid? Oherwydd y mae wedi'n gwerthu, ac wedi gwario'r arian. 16Yr holl gyfoeth y mae Duw wedi ei gymryd oddi ar ein tad, ein heiddo ni a'n plant ydyw; yn awr, felly, gwna bopeth a ddywedodd Duw wrthyt.”
17Yna cododd Jacob a gosod ei blant a'i wragedd ar gamelod; 18a thywysodd ei holl anifeiliaid a'i holl eiddo#31:18 Felly Groeg. Hebraeg yn ychwanegu a gafodd, a'r anifeiliaid yn ei feddiant., a gafodd yn Padan Aram, i fynd i wlad Canaan at ei dad Isaac. 19Yr oedd Laban wedi mynd i gneifio'i ddefaid, a lladrataodd Rachel ddelwau'r teulu oedd yn perthyn i'w thad. 20Felly bu i Jacob dwyllo Laban yr Aramead trwy ffoi heb ddweud wrtho. 21Ffodd gyda'i holl eiddo, a chroesi'r Ewffrates, a mynd i gyfeiriad mynydd-dir Gilead.
Laban yn Ymlid Jacob
22Ymhen tridiau rhoed gwybod i Laban fod Jacob wedi ffoi. 23Cymerodd yntau ei berthnasau gydag ef, a'i ymlid am saith diwrnod a'i ganlyn hyd fynydd-dir Gilead. 24Ond daeth Duw at Laban yr Aramead mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, “Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.” 25Pan oddiweddodd Laban Jacob, yr oedd Jacob wedi lledu ei babell yn y mynydd-dir; ac felly, gwersyllodd Laban gyda'i frodyr ym mynydd-dir Gilead. 26A dywedodd Laban wrth Jacob, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud? Yr wyt wedi fy nhwyllo, a dwyn ymaith fy merched fel caethion rhyfel. 27Pam y ffoaist yn ddirgel a'm twyllo? Pam na roist wybod i mi, er mwyn imi gael dy hebrwng yn llawen â chaniadau a thympan a thelyn? 28Ni adewaist imi gusanu fy meibion a'm merched; yr wyt wedi gwneud peth ffôl. 29Gallwn wneud niwed i chwi, ond llefarodd Duw dy dad wrthyf neithiwr, a dweud, ‘Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.’ 30Diau mai am iti hiraethu am dŷ dy dad yr aethost ymaith, ond pam y lladrateaist fy nuwiau?” 31Yna atebodd Jacob Laban, “Ffoais am fod arnaf ofn, gan imi feddwl y byddit yn dwyn dy ferched oddi arnaf trwy drais. 32Ond y sawl sy'n cadw dy dduwiau, na chaffed fyw! Yng ngŵydd ein brodyr myn wybod beth o'th eiddo sydd gyda mi, a chymer ef.” Ni wyddai Jacob mai Rachel oedd wedi eu lladrata. 33Felly aeth Laban i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy forwyn, ond heb gael y duwiau. Daeth allan o babell Lea a mynd i mewn i babell Rachel. 34Yr oedd Rachel wedi cymryd delwau'r teulu a'u gosod yng nghyfrwy'r camel, ac yr oedd yn eistedd arnynt. Chwiliodd Laban trwy'r babell heb eu cael. 35A dywedodd Rachel wrth ei thad, “Peidied f'arglwydd â digio am na fedraf godi o'th flaen, oherwydd y mae arfer gwragedd arnaf.” Er iddo chwilio, ni chafodd hyd i ddelwau'r teulu.
36Yna digiodd Jacob ac edliw i Laban, a dweud wrtho, “Beth yw fy nhrosedd? Beth yw fy mhechod, dy fod wedi fy erlid? 37Er iti chwilio fy holl eiddo, beth a gefaist sy'n perthyn i ti? Gosod ef yma yng ngŵydd fy mrodyr i a'th frodyr dithau, er mwyn iddynt farnu rhyngom ein dau. 38Yr wyf bellach wedi bod ugain mlynedd gyda thi; nid yw dy ddefaid na'th eifr wedi erthylu, ac nid wyf wedi bwyta hyrddod dy braidd. 39Pan fyddai anifail wedi ei ysglyfaethu, ni ddygais mohono erioed atat ti, ond derbyniais y golled fy hun; o'm llaw i y gofynnaist iawn am ladrad, p'run ai yn y dydd neu yn y nos. 40Dyma sut yr oeddwn i: yr oedd gwres y dydd ac oerni'r nos yn fy llethu, a chiliodd fy nghwsg oddi wrthyf; 41bûm am ugain mlynedd yn dy dŷ; gweithiais iti am bedair blynedd ar ddeg am dy ddwy ferch, ac am chwe blynedd am dy braidd, a newidiaist fy nghyflog ddengwaith. 42Oni bai fod Duw fy nhad, Duw Abraham ac Arswyd Isaac o'm plaid, diau y buasit wedi fy ngyrru i ffwrdd yn waglaw. Gwelodd Duw fy nghystudd a llafur fy nwylo, a neithiwr ceryddodd di.”
43Atebodd Laban a dweud wrth Jacob, “Fy merched i yw'r merched, a'm plant i yw'r plant, a'm praidd i yw'r praidd, ac y mae'r cwbl a weli yn eiddo i mi. Ond beth a wnaf heddiw ynghylch fy merched hyn, a'r plant a anwyd iddynt? 44Tyrd, gwnawn gyfamod, ti a minnau; a bydd yn dystiolaeth rhyngom.” 45Felly cymerodd Jacob garreg a'i gosod i fyny'n golofn. 46Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig,” a chymerasant gerrig a'u gwneud yn garnedd; a bwytasant yno wrth y garnedd. 47Enwodd Laban hi Jegar-sahadwtha#31:47 Aramaeg, Carnedd y dystiolaeth. Hebraeg, Galeed yn gyfystyr., ond galwodd Jacob hi Galeed. 48Dywedodd Laban, “Y mae'r garnedd hon yn dystiolaeth rhyngom heddiw.” Am hynny, enwodd hi Galeed, 49a hefyd Mispa#31:49 H.y., Tŵr gwylio., oherwydd dywedodd, “Gwylied yr ARGLWYDD rhyngom, pan fyddwn o olwg ein gilydd. 50Os bydd iti gam-drin fy merched, neu gymryd gwragedd heblaw fy merched, heb i neb ohonom ni wybod, y mae Duw yn dyst rhyngom.” 51A dywedodd Laban wrth Jacob, “Dyma'r garnedd hon a'r golofn yr wyf wedi ei gosod rhyngom. 52Y mae'r garnedd hon yn dystiolaeth, ac y mae'r golofn hon yn dystiolaeth, na ddof heibio'r garnedd hon atat ti, ac na ddoi dithau heibio'r garnedd hon a'r golofn hon ataf fi, i wneud niwed. 53Boed i Dduw Abraham a Duw Nachor, Duw eu tadau, farnu rhyngom.” A thyngodd Jacob lw i Arswyd Isaac, ei dad, 54ac offrymodd Jacob aberth ar y mynydd, a galw ar ei berthnasau i fwyta bara; a bwytasant fara ac aros dros nos ar y mynydd.
Laban a Jacob yn Ymwahanu
55Cododd Laban yn gynnar drannoeth a chusanodd ei blant a'i ferched a'u bendithio; yna aeth ymaith a dychwelyd i'w fro ei hun.#31:55 Hebraeg, 32:1.

Dewis Presennol:

Genesis 31: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda