Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 30

30
1Pan welodd Rachel nad oedd hi yn geni plant i Jacob, cenfigennodd wrth ei chwaer; a dywedodd wrth Jacob, “Rho blant i mi, neu byddaf farw.” 2Teimlodd Jacob yn ddig wrth Rachel, ac meddai, “A wyf fi yn safle Duw, yr hwn sydd wedi atal ffrwyth dy groth?” 3Dywedodd hithau, “Dyma fy morwyn Bilha; dos i gael cyfathrach â hi er mwyn iddi ddwyn plant ar fy ngliniau, ac i minnau gael teulu ohoni.” 4Felly rhoddodd ei morwyn Bilha yn wraig iddo; a chafodd Jacob gyfathrach â hi. 5Beichiogodd Bilha ac esgor ar fab i Jacob. 6Yna dywedodd Rachel, “Y mae Duw wedi fy marnu; y mae hefyd wedi gwrando arnaf a rhoi imi fab.” Am hynny galwodd ef Dan#30:6 H.y., Barnodd.. 7Beichiogodd Bilha morwyn Rachel eilwaith, ac esgor ar ail fab i Jacob. 8Yna dywedodd Rachel, “Yr wyf wedi ymdrechu'n galed yn erbyn fy chwaer, a llwyddo.” Felly galwodd ef Nafftali#30:8 H.y., Cyfrwys..
9Pan welodd Lea ei bod wedi peidio â geni plant, cymerodd ei morwyn Silpa a'i rhoi'n wraig i Jacob. 10Yna esgorodd Silpa morwyn Lea ar fab i Jacob, 11a dywedodd Lea, “Ffawd dda.” Felly galwodd ef Gad#30:11 H.y., Ffawd.. 12Esgorodd Silpa morwyn Lea ar ail fab i Jacob, 13a dywedodd Lea, “Dedwydd wyf! Bydd y merched yn fy ngalw yn ddedwydd.” Felly galwodd ef Aser#30:13 H.y., Dedwydd..
14Yn nyddiau'r cynhaeaf gwenith aeth Reuben allan a chael mandragorau yn y maes, a'u rhoi i Lea ei fam. Yna dywedodd Rachel wrth Lea, “Rho imi rai o fandragorau dy fab.” 15Ond dywedodd hithau wrthi, “Ai peth dibwys yw dy fod wedi cymryd fy ngŵr? A wyt hefyd am gymryd mandragorau fy mab?” Dywedodd Rachel, “o'r gorau, caiff Jacob gysgu gyda thi heno yn dâl am fandragorau dy fab.” 16Pan oedd Jacob yn dod o'r maes gyda'r nos, aeth Lea i'w gyfarfod a dweud, “Gyda mi yr wyt i gysgu, oherwydd yr wyf wedi talu am dy gael â mandragorau fy mab.” Felly cysgodd gyda hi y noson honno. 17A gwrandawodd Duw ar Lea, a beichiogodd ac esgor ar y pumed mab i Jacob. 18Dywedodd Lea, “Y mae Duw wedi rhoi fy nhâl am imi roi fy morwyn i'm gŵr.” Felly galwodd ef Issachar#30:18 H.y., Tâl.. 19Beichiogodd Lea eto, ac esgor ar y chweched mab i Jacob. 20Yna dywedodd Lea, “Y mae Duw wedi rhoi imi waddol da; yn awr, bydd fy ngŵr yn fy mharchu, am imi esgor ar chwech o feibion iddo.” Felly galwodd ef Sabulon#30:20 H.y., Parch.. 21Wedi hynny esgorodd ar ferch, a galwodd hi Dina. 22A chofiodd Duw Rachel, a gwrandawodd arni ac agor ei chroth. 23Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd, “Y mae Duw wedi tynnu ymaith fy ngwarth.” 24A galwodd ef Joseff#30:24 H.y., Fe ychwanega., gan ddweud, “Bydded i'r ARGLWYDD ychwanegu i mi fab arall.”
Tâl Laban i Jacob
25Wedi i Rachel esgor ar Joseff, dywedodd Jacob wrth Laban, “Gad imi ymadael, er mwyn imi fynd i'm cartref fy hun ac i'm gwlad. 26Rho imi fy ngwragedd a'm plant yr wyf wedi gweithio amdanynt, a gad imi fynd; oherwydd gwyddost fel yr wyf wedi gweithio iti.” 27Ond dywedodd Laban wrtho, “Os caf ddweud, yr wyf wedi dod i weld mai o'th achos di y mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i; 28noda dy gyflog, ac fe'i talaf.” 29Atebodd yntau, “Gwyddost sut yr wyf wedi gweithio iti, a sut y bu ar dy anifeiliaid gyda mi; 30ychydig oedd gennyt cyn i mi ddod, ond cynyddodd yn helaeth, a bendithiodd yr ARGLWYDD di bob cam. Yn awr, onid yw'n bryd i mi ddarparu ar gyfer fy nheulu fy hun?” 31Dywedodd Laban, “Beth a rof i ti?” Atebodd Jacob, “Nid wyt i roi dim i mi. Ond fe fugeiliaf dy braidd eto a'u gwylio, os gwnei hyn imi: 32gad imi fynd heddiw trwy dy holl braidd a didoli pob dafad frith a broc a phob oen du, a'r geifr brith a broc; a'r rhain fydd fy nghyflog. 33A chei dystiolaeth i'm gonestrwydd yn y dyfodol pan ddoi i weld fy nghyflog. Pob un o'r geifr nad yw'n frith a broc, ac o'r ŵyn nad yw'n ddu, bydd hwnnw wedi ei ladrata gennyf.” 34“O'r gorau,” meddai Laban, “bydded yn ôl dy air.” 35Ond y diwrnod hwnnw didolodd Laban y bychod brith a broc, a'r holl eifr brith a broc, pob un â gwyn arno, a phob oen du, a'u rhoi yng ngofal ei feibion, 36a'u gosod bellter taith tridiau oddi wrth Jacob; a bugeiliodd Jacob y gweddill o braidd Laban.
37Yna cymerodd Jacob wiail gleision o boplys ac almon a ffawydd, a thynnu oddi arnynt ddarnau o'r rhisgl, gan ddangos gwyn ar y gwiail. 38Gosododd y gwiail yr oedd wedi eu rhisglo yn y ffosydd o flaen y praidd, wrth y cafnau dŵr lle byddai'r praidd yn dod i yfed. Gan eu bod yn beichiogi pan fyddent yn dod i yfed, 39beichiogodd y praidd gyferbyn â'r gwiail, a bwrw ŵyn wedi eu marcio'n frith a broc. 40Byddai Jacob yn didol yr ŵyn, ond yn troi wynebau'r defaid tuag at y rhai brith a'r holl rai duon ymysg praidd Laban; gosodai ei braidd ei hun ar wahân, heb fod gyda phraidd Laban. 41Bob tro yr oedd y defaid cryfaf yn beichiogi, yr oedd Jacob yn gosod y gwiail yn y ffosydd gyferbyn â'r praidd, er mwyn iddynt feichiogi o flaen y gwiail, 42ond nid oedd yn eu gosod ar gyfer defaid gwan y praidd; felly daeth y gwannaf yn eiddo Laban, a'r cryfaf yn eiddo Jacob. 43Fel hyn cynyddodd ei gyfoeth ef yn fawr, ac yr oedd ganddo breiddiau niferus, morynion a gweision, camelod ac asynnod.

Dewis Presennol:

Genesis 30: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda