Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 33

33
Jacob ac Esau yn Cyfarfod
1Cododd Jacob ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd Esau yn dod, a phedwar cant o ddynion gydag ef. Rhannodd Jacob y plant rhwng Lea a Rachel a'r ddwy forwyn, 2a gosododd y morynion a'u plant ar y blaen, yna Lea a'i phlant y tu ôl iddynt, a Rachel a Joseff yn olaf. 3Cerddodd yntau o'u blaen ac ymgrymu i'r llawr seithwaith wrth nesáu at ei frawd. 4Ond rhedodd Esau i'w gyfarfod, a'i gofleidio a rhoi ei freichiau am ei wddf a'i gusanu, ac wylodd y ddau. 5Yna cododd Esau ei olwg a gweld y gwragedd a'r plant, a gofynnodd, “Pwy yw'r rhain sydd gyda thi?” Atebodd yntau, “Dyma'r plant y mae Duw o'i ffafr wedi eu rhoi i'th was.” 6Yna nesaodd y morynion a'u plant, ac ymgrymu; 7nesaodd Lea hefyd a'i phlant, ac ymgrymu; ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu. 8Dywedodd Esau, “Beth a fwriedi gyda'r holl fintai hon a gyfarfûm?” Atebodd yntau, “Ennill ffafr yng ngolwg f'arglwydd.” 9Ond dywedodd Esau, “Y mae gennyf ddigon, fy mrawd; cadw'r hyn sydd gennyt i ti dy hun.” 10Yna dywedodd Jacob, “Na, os cefais ffafr yn d'olwg, cymer fy anrheg o'm llaw; y mae gweld dy wyneb fel gweld wyneb Duw, gan dy fod wedi fy nerbyn. 11Cymer yn awr fy rhodd a ddygwyd i ti, oherwydd bu Duw yn raslon i mi, ac y mae gennyf ddigon.” Ac am ei fod yn erfyn arno, cymerodd yntau'r rhodd.
12Yna dywedodd Esau, “Cychwynnwn ar ein taith, ac af finnau o'th flaen.” 13Ond dywedodd Jacob wrtho, “Y mae f'arglwydd yn gwybod fod y plant yn eiddil, a bod y defaid a'r gwartheg magu yn fy ngofal. Os cânt eu gyrru yn rhy galed un diwrnod, bydd yr holl braidd farw. 14Aed f'arglwydd o flaen ei was, a dilynaf finnau'n araf, yn ôl gallu'r anifeiliaid sydd o'm blaen a'r plant, nes dod at f'arglwydd i Seir.” 15A dywedodd Esau, “Gad imi drefnu i rai o'm dynion fynd gyda thi.” Ond atebodd yntau, “Pam, os wyf yn cael ffafr yng ngolwg f'arglwydd?” 16Yna dychwelodd Esau y diwrnod hwnnw ar ei ffordd i Seir. 17A theithiodd Jacob i Succoth, ac adeiladodd dŷ iddo'i hun a gwneud cytiau i'w anifeiliaid; am hynny enwodd y lle Succoth#33:17 H.y., Cytiau..
18Ar ei daith o Padan Aram, daeth Jacob yn ddiogel i ddinas Sichem yng ngwlad Canaan, a gwersyllodd ger y ddinas. 19Prynodd ddarn o dir gan feibion Hamor tad Sichem, am gant o ddarnau arian, 20ac wedi gosod ei babell yno, cododd allor a'i henwi El-elohe-israel.

Dewis Presennol:

Genesis 33: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda