Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 24:15-25

2 Samuel 24:15-25 BCND

Felly dewisodd Dafydd yr haint. Yr oedd yn dymor y cynhaeaf gwenith, ac anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel o'r bore hyd derfyn y cyfnod penodedig. Bu farw deng mil a thrigain o'r bobl o Dan i Beerseba. Ond pan estynnodd yr angel ei law yn erbyn Jerwsalem i'w dinistrio, edifarhaodd yr ARGLWYDD am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn distrywio'r bobl, “Digon bellach! Atal dy law.” Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebusiad. Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Myfi sydd wedi pechu, a myfi sydd wedi gwneud drwg; ond am y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? Bydded dy law yn f'erbyn i a'm teulu.” Daeth Gad at Ddafydd y diwrnod hwnnw a dweud wrtho, “Dos, a chyfod allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.” Felly, ar air Gad, fe aeth Dafydd fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD. Pan edrychodd Arafna a gweld y brenin a'i weision yn dod tuag ato, aeth allan a moesymgrymu i'r brenin â'i wyneb i'r llawr. Ac meddai Arafna, “Pam y daeth f'arglwydd frenin at ei was?” Atebodd Dafydd, “I brynu gennyt y llawr dyrnu, i godi allor i'r ARGLWYDD er mwyn atal y pla sydd ar y bobl.” Yna dywedodd Arafna wrth Ddafydd, “Cymered f'arglwydd frenin ef ac offrymu'r hyn a fyn; edrych, dyma'r ychen ar gyfer y poethoffrwm, a'r sled ddyrnu ac iau'r ychen yn danwydd.” Rhoddodd Arafna'r cwbl i'r brenin, a dweud wrtho, “Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw yn fodlon arnat.” Ond dywedodd y brenin wrth Arafna, “Na, rhaid imi ei brynu gennyt am bris. Nid wyf am aberthu i'r ARGLWYDD fy Nuw boethoffrwm di-gost.” Felly prynodd Dafydd y llawr dyrnu a'r ychen am hanner can sicl o arian; a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Derbyniodd yr ARGLWYDD ymbil ar ran y wlad, ac ataliwyd y pla oddi ar Israel.