Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 17

17
Goliath yn Herio'r Israeliaid
1Casglodd y Philistiaid eu lluoedd i ryfel, ac ymgynnull yn Socho, a oedd yn perthyn i Jwda, a gosod eu gwersyll rhwng Socho ac Aseca yn Effes-dammim. 2Ymgynullodd Saul a'r Israeliaid hefyd, a gwersyllu yn nyffryn Ela a pharatoi i frwydro yn erbyn y Philistiaid. 3Safai'r Philistiaid ar dir uchel o un tu, ac Israel ar dir uchel o'r tu arall, gyda dyffryn rhyngddynt. 4O wersyll y Philistiaid daeth allan heriwr o'r enw Goliath, dyn o Gath, ac yn chwe chufydd a rhychwant o daldra. 5Yr oedd ganddo helm bres am ei ben, ac yr oedd wedi ei wisgo mewn llurig emog o bres, yn pwyso pum mil o siclau. 6Yr oedd coesarnau pres am ei goesau a chrymgledd pres rhwng ei ysgwyddau. 7Yr oedd paladr ei waywffon fel carfan gwehydd, a'i blaen yn chwe chan sicl o haearn. Yr oedd cludydd tarian yn cerdded o'i flaen. 8Safodd Goliath a gweiddi ar rengoedd Israel a dweud wrthynt, “Pam y dewch allan yn rhengoedd i frwydro? Onid Philistiad wyf fi, a chwithau'n weision i Saul? Dewiswch un ohonoch i ddod i lawr ataf fi. 9Os medr ef ymladd â mi a'm trechu, fe fyddwn ni yn weision i chwi; ond os medraf fi ei drechu ef, chwi fydd yn weision i ni, ac yn ein gwasanaethu.” 10Ychwanegodd y Philistiad, “Yr wyf fi heddiw yn herio rhengoedd Israel; dewch â gŵr, ynteu, inni gael ymladd â'n gilydd.” 11Pan glywodd Saul a'r Israeliaid y geiriau hyn gan y Philistiad, yr oeddent wedi eu parlysu gan ofn.
Dafydd yng Ngwersyll Saul
12Yr oedd Dafydd yn fab i Effratead o Fethlehem Jwda. Jesse oedd enw hwnnw, ac yr oedd ganddo wyth mab, ac erbyn dyddiau Saul yr oedd yn hen iawn.#17:12 Felly Groeg. Hebraeg, yr oedd ymysg dynion. 13Yr oedd ei dri mab hynaf wedi dilyn Saul i'r rhyfel. Enwau'r tri o'i feibion a aeth i'r rhyfel oedd Eliab yr hynaf, Abinadab yr ail, a Samma y trydydd; 14Dafydd oedd yr ieuengaf. Aeth y tri hynaf i ganlyn Saul; 15ond byddai Dafydd yn mynd a dod oddi wrth Saul i fugeilio defaid ei dad ym Methlehem. 16Bob bore a hwyr am ddeugain diwrnod bu'r Philistiad yn dod ac yn sefyll i herio.
17Dywedodd Jesse wrth ei fab Dafydd, “Cymer effa o'r crasyd yma i'th frodyr, a'r deg torth hyn, a brysia â hwy i'r gwersyll at dy frodyr. 18Dos â'r deg cosyn gwyn yma i'r swyddog, ac edrych sut y mae hi ar dy frodyr, a thyrd â rhyw arwydd yn ôl oddi wrthynt.” 19Yr oedd Saul a hwythau ac Israel gyfan yn nyffryn Ela yn ymladd â'r Philistiaid.
20Trannoeth cododd Dafydd yn fore, a gadael y praidd gyda gofalwr, a chymryd ei bac a mynd fel yr oedd Jesse wedi gorchymyn iddo. Cyrhaeddodd y gwersyll fel yr oedd y fyddin yn mynd i'w rhengoedd ac yn bloeddio'r rhyfelgri. 21Yr oedd Israel a'r Philistiaid wedi trefnu eu lluoedd, reng am reng. 22Gadawodd Dafydd ei bac gyda gofalwr y gwersyll, a rhedeg i'r rheng a mynd i ofyn sut yr oedd ei frodyr. 23Tra oedd yn ymddiddan â hwy, dyna'r heriwr o'r enw Goliath, y Philistiad o Gath, yn dod i fyny o rengoedd y Philistiaid ac yn llefaru yng nghlyw Dafydd yr un geiriau ag o'r blaen. 24Pan welodd yr Israeliaid y dyn, ffoesant i gyd oddi wrtho mewn ofn, 25a dweud, “A welwch chwi'r dyn yma sy'n dod i fyny? I herio Israel y mae'n dod. Pe byddai unrhyw un yn ei ladd, byddai'r brenin yn ei wneud yn gyfoethog iawn, ac yn rhoi ei ferch iddo, ac yn rhoi rhyddfraint Israel i'w deulu.” 26Yna gofynnodd Dafydd i'r dynion oedd yn sefyll o'i gwmpas, “Beth a wneir i'r sawl fydd yn lladd y Philistiad acw, ac yn symud y sarhad oddi ar Israel? Oherwydd pwy yw'r Philistiad dienwaededig hwn, ei fod yn herio lluoedd y Duw byw?” 27Dywedodd y bobl yr un peth wrtho: “Fel hyn y gwneir i'r sawl fydd yn ei ladd ef.” 28Clywodd ei frawd hynaf Eliab ef yn siarad â'r dynion, a chollodd ei dymer â Dafydd a dweud, “Pam y daethost ti i lawr yma? Yng ngofal pwy y gadewaist yr ychydig ddefaid yna yn y diffeithwch? Mi wn dy hyfdra a'th fwriadau drwg—er mwyn cael gweld y frwydr y daethost ti draw yma.” 29Dywedodd Dafydd, “Beth wnes i? Onid gofyn cwestiwn?” 30Trodd draw oddi wrtho at rywun arall, a gofyn yr un peth, a'r bobl yn rhoi'r un ateb ag o'r blaen iddo.
31Rhoddwyd sylw i'r geiriau a lefarodd Dafydd, a'u hailadrodd wrth Saul, ac anfonodd yntau amdano. 32Ac meddai Dafydd wrth Saul, “Peidied neb â gwangalonni o achos hwn; fe â dy was ac ymladd â'r Philistiad yma.” 33Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Ni fedri di fynd ac ymladd â'r Philistiad hwn, oherwydd llanc wyt ti ac yntau'n rhyfelwr o'i ieuenctid.” 34Ond dywedodd Dafydd wrth Saul, “Bugail ar ddefaid ei dad yw dy was; 35pan fydd llew neu arth yn dod ac yn cipio dafad o'r ddiadell, byddaf yn mynd ar ei ôl, yn ei daro, ac yn achub y ddafad o'i safn. Pan fydd yn codi yn fy erbyn i, byddaf yn cydio yn ei farf, yn ei drywanu, ac yn ei ladd. 36Mae dy was wedi lladd llewod ac eirth, a dim ond fel un ohonynt hwy y bydd y Philistiad dienwaededig hwn, am iddo herio byddin y Duw byw.” 37Ac ychwanegodd Dafydd, “Bydd yr ARGLWYDD a'm gwaredodd o afael y llew a'r arth yn sicr o'm hachub o afael y Philistiad hwn hefyd.” Dywedodd Saul, “Dos, a bydded yr ARGLWYDD gyda thi.”
Dafydd yn Trechu Goliath
38Rhoddodd Saul ei wisg ei hun am Ddafydd: rhoi helm bres ar ei ben, ei wisgo yn ei lurig, a gwregysu Dafydd â'i gleddyf dros ei wisg. 39Ond methodd gerdded, am nad oedd wedi arfer â hwy. Dywedodd Dafydd wrth Saul, “Ni fedraf gerdded yn y rhain, oherwydd nid wyf wedi arfer â hwy.” A diosgodd hwy oddi amdano. 40Yna cymerodd ei ffon yn ei law, dewisodd bum carreg lefn o'r nant a'u rhoi yn y bag bugail oedd ganddo fel poced, a nesaodd at y Philistiad â'i ffon dafl yn ei law, 41Daeth hwnnw allan i gyfarfod Dafydd, gyda chludydd ei darian o'i flaen. 42A phan edrychodd y Philistiad a gweld Dafydd, dirmygodd ef am ei fod yn llencyn gwritgoch, golygus. 43Ac meddai'r Philistiad wrth Ddafydd, “Ai ci wyf fi, dy fod yn dod ataf â ffyn?” A rhegodd y Philistiad ef yn enw ei dduw, 44a dweud wrtho, “Tyrd yma, ac fe roddaf dy gnawd i adar yr awyr ac i'r anifeiliaid gwyllt.” 45Ond dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, “Yr wyt ti'n dod ataf fi â chleddyf a gwaywffon a chrymgledd; ond yr wyf fi'n dod atat ti yn enw ARGLWYDD y Lluoedd, Duw byddin Israel, yr wyt ti wedi ei herio. 46Y dydd hwn bydd yr ARGLWYDD yn dy roi yn fy llaw; lladdaf di a thorri dy ben i ffwrdd, a rhoi celanedd llu'r Philistiaid heddiw i adar yr awyr a bwystfilod y ddaear, er mwyn i'r byd i gyd wybod fod Duw gan Israel, 47ac i'r holl gynulliad hwn wybod nad trwy gleddyf na gwaywffon y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu, oherwydd yr ARGLWYDD biau'r frwydr, ac fe'ch rhydd chwi yn ein llaw ni.”
48Yna pan gychwynnodd y Philistiad tuag at Ddafydd, rhedodd Dafydd yn chwim ar hyd y rheng i gyfarfod y Philistiad; 49rhoddodd ei law yn y bag a chymryd carreg allan a'i hyrddio, a tharo'r Philistiad yn ei dalcen nes bod y garreg yn suddo i'w dalcen; syrthiodd yntau ar ei wyneb i'r llawr. 50Felly trechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl a charreg, a'i daro'n farw, heb fod ganddo gleddyf. 51Yna rhedodd Dafydd a sefyll uwchben y Philistiad; cydiodd yn ei gleddyf ef a'i dynnu o'r wain, a rhoi'r ergyd olaf iddo a thorri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr yn farw, ffoesant; 52a chododd gwŷr Israel a Jwda a bloeddio rhyfelgri ac ymlid y Philistiaid cyn belled â Gath#17:52 Felly Groeg. Hebraeg, dyffryn. a phyrth Ecron. A chwympodd celanedd y Philistiaid ar hyd y ffordd o Saaraim i Gath ac Ecron. 53Yna dychwelodd yr Israeliaid o ymlid y Philistiaid, ac ysbeilio eu gwersyll. 54Cymerodd Dafydd ben y Philistiad a'i ddwyn i Jerwsalem, ond gosododd ei arfau yn ei babell ei hun.
Cyflwyno Dafydd i Saul
55Pan welodd Saul Ddafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten ei lu, “Mab i bwy yw'r bachgen acw, Abner?” Atebodd Abner, “Cyn wired â'th fod yn fyw, O frenin, ni wn i ddim.” 56A dywedodd y brenin, “Hola di mab i bwy yw'r llanc ifanc.” 57Felly pan gyrhaeddodd Dafydd yn ôl wedi iddo ladd y Philistiad, cymerodd Abner ef a'i ddwyn at Saul gyda phen y Philistiad yn ei law. 58Gofynnodd Saul, “Mab pwy wyt ti, fachgen?” A dywedodd Dafydd, “Mab dy was Jesse o Fethlehem.”

Dewis Presennol:

1 Samuel 17: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda