Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 18

18
1Wedi i Ddafydd orffen siarad â Saul, ymglymodd enaid Jonathan wrth enaid Dafydd, a charodd ef fel ef ei hun. 2Cymerodd Saul ef y dydd hwnnw, ac ni chaniataodd iddo fynd adref at ei dad. 3Gwnaeth Jonathan gyfamod â Dafydd am ei fod yn ei garu fel ef ei hun; 4tynnodd y fantell oedd amdano a'i rhoi i Ddafydd; hefyd ei arfau, hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i wregys. 5Llwyddodd Dafydd ym mhob gorchwyl a roddai Saul iddo, a gosododd Saul ef yn bennaeth ei filwyr, er boddhad i bawb, gan gynnwys swyddogion Saul. 6Un tro yr oeddent ar eu ffordd adref, a Dafydd yn dychwelyd ar ôl taro'r Philistiaid, a daeth y gwragedd allan ym mhob tref yn Israel i edrych; aeth y merched dawnsio i gyfarfod y Brenin Saul gyda thympanau a molawdau a thrionglau, 7ac yn eu llawenydd canodd y gwragedd:
“Lladdodd Saul ei filoedd,
a Dafydd ei fyrddiynau.”
8Digiodd Saul yn arw, a chafodd ei gythruddo gan y dywediad. Meddai, “Maent yn rhoi myrddiynau i Ddafydd, a dim ond miloedd i mi; beth yn rhagor sydd iddo ond y frenhiniaeth?” 9O'r diwrnod hwnnw ymlaen yr oedd Saul yn cadw llygad ar Ddafydd.
Saul yn Cenfigennu wrth Ddafydd
10Trannoeth meddiannwyd Saul gan yr ysbryd drwg, a pharablodd yn wallgof yng nghanol y tŷ, ac yr oedd Dafydd yn canu'r delyn yn ôl ei arfer. 11Yr oedd gan Saul waywffon yn ei law, a hyrddiodd hi, gan feddwl trywanu Dafydd i'r pared, ond osgôdd Dafydd ef ddwywaith. 12Cafodd Saul ofn rhag Dafydd oherwydd fod yr ARGLWYDD wedi troi o'i blaid ef ac yn erbyn Saul. 13Gyrrodd Saul ef i ffwrdd oddi wrtho, a'i wneud yn gapten ar fil o ddynion; ac ef oedd yn arwain y fyddin. 14Yr oedd Dafydd yn llwyddiannus ym mhopeth a wnâi, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef. 15Pan welodd Saul mor llwyddiannus oedd Dafydd, yr oedd arno fwy o'i ofn. 16Yr oedd Israel a Jwda i gyd yn ymserchu yn Nafydd am mai ef oedd yn arwain y fyddin.
Dafydd yn Priodi Merch Saul
17Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Dyma fy merch hynaf, Merab. Fe'i rhoddaf yn wraig i ti, ond i ti ddangos gwrhydri i mi ac ymladd brwydrau'r ARGLWYDD.” Meddwl yr oedd Saul, “Peidied fy llaw i â'i gyffwrdd, ond yn hytrach law y Philistiaid.” 18Atebodd Dafydd, “Pwy wyf fi, a beth yw tras llwyth fy nhad yn Israel, i mi fod yn fab-yng-nghyfraith i'w brenin?” 19Ond pan ddaeth yr amser i roi Merab ferch Saul i Ddafydd, rhoddwyd hi'n wraig i Adriel o Mehola.
20Syrthiodd Michal ferch Saul mewn cariad â Dafydd, a phan ddywedwyd wrth Saul, yr oedd hynny'n dderbyniol ganddo. 21Meddyliodd Saul, “Fe'i rhoddaf hi iddo; bydd hi'n fagl iddo, er mwyn i law y Philistiaid ei daro.” A dywedodd Saul wrth Ddafydd am yr eildro, “Yn awr cei fod yn fab-yng-nghyfraith imi.” 22Yna gorchmynnodd Saul i'w weision, “Dywedwch yn ddistaw bach wrth Ddafydd, ‘Y mae'r brenin, weli di, yn falch ohonot, a phawb o'i weision yn dy hoffi; yn awr, prioda ferch y brenin’.” 23Pan sibrydodd gweision Saul y pethau hyn yng nghlust Dafydd, dywedodd ef, “Ai dibwys o beth yn eich golwg yw priodi merch y brenin? Dyn tlawd a dinod wyf fi.” 24Aeth gweision Saul â'r neges yn ôl iddo, sut yr oedd Dafydd wedi dweud. 25Yna dywedodd Saul, “Dywedwch fel hyn wrth Ddafydd, ‘Nid yw'r brenin yn chwennych rhodd briodas heblaw cant o flaengrwyn Philistiaid, i dalu'r pwyth i elynion y brenin’.” Syniad Saul oedd peri i Ddafydd gwympo trwy law y Philistiaid. 26Cyflwynodd ei weision y neges hon i Ddafydd, ac ystyriodd y byddai'n dderbyniol iddo felly briodi merch y brenin. 27Cyn bod yr amser wedi dod i ben, cychwynnodd Dafydd allan gyda'i wŷr, ac aethant a lladd dau gant o ddynion y Philistiaid. Dygodd Dafydd eu blaengrwyn a'u cyflwyno i gyd i'r brenin, er mwyn cael priodi merch y brenin; a rhoddodd Saul ei ferch Michal yn wraig iddo. 28Wedi i Saul weld a sylweddoli bod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod ei ferch Michal yn ei garu, 29daeth arno fwy o ofn Dafydd nag o'r blaen, ac aeth yn elyn am oes iddo.
30Bob tro y dôi arweinwyr y Philistiaid allan i ymladd, byddai Dafydd yn fwy llwyddiannus na phawb arall o weision Saul, ac enillodd enwogrwydd mawr.

Dewis Presennol:

1 Samuel 18: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda