Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 16

16
1Daeth gair yr ARGLWYDD at Jehu fab Hanani yn erbyn Baasa, a dweud: 2“Codais di o'r llwch, a'th wneud yn dywysog ar fy mhobl Israel, ond dilynaist lwybr Jeroboam a pheraist i'm pobl Israel bechu er mwyn fy nigio â'u pechodau. 3Am hyn yr wyf yn difa olion Baasa a'i deulu a'u gwneud fel teulu Jeroboam fab Nebat. 4Bydd cŵn yn bwyta'r rhai o deulu Baasa a fydd farw yn y ddinas, ac adar rheibus yn bwyta'r rhai a fydd farw yn y wlad.” 5Ac onid yw gweddill hanes Baasa, ei hynt a'i wrhydri, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel? 6Pan fu farw Baasa, claddwyd ef yn Tirsa, a daeth ei fab Ela yn frenin yn ei le. 7Ond yr oedd gair yr ARGLWYDD wedi dod at Baasa a'i deulu drwy'r proffwyd Jehu fab Hanani am y drygioni a wnaeth yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy ei ddigio â'i weithredoedd, a dod yn debyg i deulu Jeroboam; a hefyd am iddo ddinistrio hwnnw.
Ela yn Frenin ar Israel
8Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Ela fab Baasa yn frenin ar Israel yn Tirsa, a theyrnasu am ddwy flynedd. 9Yna gwnaeth ei was Simri, capten hanner y cerbydau, gynllwyn yn ei erbyn. Pan oedd y brenin yn Tirsa yn feddw chwil yn nhŷ Arsa rheolwr y tŷ yn Tirsa, 10daeth Simri a'i daro'n farw; a daeth yn frenin yn ei le yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda. 11Pan esgynnodd i'r orsedd ar ddechrau ei deyrnasiad, lladdodd bob un o deulu Baasa, heb adael ohonynt yr un gwryw, na châr na chyfaill. 12Dinistriodd Simri holl dylwyth Baasa yn ôl gair yr ARGLWYDD wrth Baasa drwy'r proffwyd Jehu, 13oherwydd i Baasa a'i fab Ela bechu cymaint eu hunain a pheri i Israel bechu a digio ARGLWYDD Dduw Israel â'u heilunod. 14Ac onid yw gweddill hanes Ela, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
Simri yn Frenin ar Israel
15Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Simri'n frenin am saith diwrnod yn Tirsa. Yr oedd y bobl yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon, a oedd ym meddiant y Philistiaid; 16a phan glywsant fod Simri wedi cynllwyn a lladd y brenin, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll gwnaeth holl Israel Omri, capten y llu, yn frenin ar Israel. 17Yna aeth Omri i fyny o Gibbethon, a holl Israel gydag ef, a gwarchae ar Tirsa. 18A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei chipio, aeth i gaer tŷ'r brenin a llosgi tŷ'r brenin am ei ben, a bu farw. 19Digwyddodd hyn oherwydd y pechodau a gyflawnodd drwy wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD a dilyn llwybr Jeroboam, a'r pechod a wnaeth ef i beri i Israel bechu. 20Ac onid yw gweddill hanes Simri a'i gynllwyn wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
Omri yn Frenin ar Israel
21Yr adeg honno rhannwyd cenedl Israel yn ddwy, gyda hanner y genedl yn dilyn Tibni fab Ginath i'w godi'n frenin, a'r hanner arall yn dilyn Omri. 22Trechodd y bobl oedd yn dilyn Omri ddilynwyr Tibni fab Ginath, a phan fu Tibni farw, Omri oedd yn frenin.
23Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Omri yn frenin ar Israel, a theyrnasu am ddeuddeng mlynedd. 24Wedi teyrnasu am chwe blynedd yn Tirsa, prynodd Fynydd Samaria gan Semer am ddwy dalent o arian, ac adeiladu ar y mynydd ddinas, a alwodd yn Samaria ar ôl Semer perchennog y mynydd. 25Ond gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na phawb o'i flaen. 26Dilynodd holl lwybr a phechod Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu a digio ARGLWYDD Dduw Israel â'u heilunod. 27Ac onid yw gweddill hanes Omri, ei hynt a'r gwrhydri a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel? 28Pan fu farw Omri, claddwyd ef yn Samaria, a daeth ei fab Ahab yn frenin yn ei le.
Ahab yn Frenin ar Israel
29Daeth Ahab fab Omri yn frenin ar Israel yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, a theyrnasodd Ahab fab Omri ar Israel yn Samaria am ddwy flynedd ar hugain. 30Gwnaeth Ahab fab Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na phawb o'i flaen. 31Ac fel petai'n ddibwys ganddo rodio ym mhechodau Jeroboam fab Nebat, fe gymerodd yn wraig Jesebel, merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac yna addoli Baal ac ymgrymu iddo. 32Cododd Ahab allor i Baal yn nhŷ Baal, a adeiladodd yn Samaria, a hefyd fe wnaeth ddelw o Asera. 33Gwnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel o'i flaen. 34Yn ei adeg ef ailadeiladwyd Jericho gan Hiel o Fethel. Yr oedd ei sylfaenu wedi costio iddo Abiram, ei gyntafanedig, a gosod ei dorau wedi costio iddo Segub ei fab ieuengaf—yn unol â gair yr ARGLWYDD drwy Josua fab Nun.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 16: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda