Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 15

15
Abeiam yn Frenin ar Jwda
2 Cron. 13:1—14:1
1Yn y ddeunawfed flwyddyn i'r Brenin Jeroboam fab Nebat, daeth Abeiam yn frenin ar Jwda. 2Teyrnasodd am dair blynedd yn Jerwsalem, a Maacha merch Abisalom oedd enw ei fam. 3Dilynodd yr holl bechodau a gyflawnodd ei dad o'i flaen, a'i galon heb fod yn berffaith gywir i'r ARGLWYDD ei Dduw fel yr oedd calon ei dad Dafydd. 4Ond er mwyn Dafydd rhoddodd yr ARGLWYDD ei Dduw lamp iddo yn Jerwsalem, a sefydlu ei fab ar ei ôl a sicrhau Jerwsalem, 5am fod Dafydd wedi gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb wyro oddi wrth ddim a orchmynnodd iddo drwy ei oes, ar wahân i achos Ureia'r Hethiad. 6Ond bu rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam ar hyd ei oes.
7Ac onid yw gweddill hanes Abeiam, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? Bu rhyfel hefyd rhwng Abeiam a Jeroboam. 8Pan fu farw Abeiam, claddwyd ef yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le.
Asa yn Frenin ar Jwda
2 Cron. 15:16—16:6
9Yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel y daeth Asa yn frenin Jwda. 10Teyrnasodd am un mlynedd a deugain yn Jerwsalem, a Maacha merch Abisalom oedd enw ei fam. 11Gwnaeth Asa yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Dafydd. 12Trodd buteinwyr y cysegr allan o'r wlad a symud ymaith yr eilunod a wnaeth ei ragflaenwyr. 13At hyn fe ddiswyddodd ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw a'i llosgi yn nant Cidron. 14Ni symudwyd yr uchelfeydd; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes. 15Dygodd i dŷ'r ARGLWYDD yr addunedau o arian, aur a llestri a addawodd ei dad ac yntau.
16Bu rhyfel rhwng Asa a Baasa brenin Israel ar hyd eu hoes. 17Aeth Baasa brenin Israel yn erbyn Jwda ac adeiladu Rama, rhag gadael i neb fynd a dod at Asa brenin Jwda. 18Yna cymerodd Asa'r holl arian ac aur a adawyd yn nhrysorfeydd tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a'u rhoi i'w weision a'u hanfon i Ben-hadad fab Tabrimon, fab Hesion, brenin Syria, a oedd yn byw yn Namascus, a dweud, 19“Bydded cyfamod rhyngof fi a thi, fel yr oedd rhwng fy nhad a'th dad. Rwy'n anfon atat rodd o arian ac aur; tor dy gyfamod gyda Baasa brenin Israel er mwyn iddo gilio'n ôl oddi wrthyf.” 20Gwrandawodd Ben-hadad ar y Brenin Asa, ac anfon swyddogion ei gatrodau yn erbyn trefi Israel, ac ymosod ar Ijon a Dan ac Abel-beth-maacha a Cinneroth i gyd, a holl wlad Nafftali. 21Pan glywodd Baasa, rhoddodd heibio adeiladu Rama ac ymsefydlodd yn Tirsa. 22Yna gorchmynnodd y Brenin Asa holl Jwda yn ddieithriad i gymryd meini a choed Rama, y bu Baasa yn ei hadeiladu; a defnyddiodd hwy i adeiladu Geba Benjamin a Mispa.
23Ac onid yw gweddill hanes Asa, ei holl wrhydri, y cwbl a wnaeth, a'r dinasoedd a adeiladodd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda, oddieithr iddo yn ei henaint ddioddef o glefyd yn ei draed? 24Pan fu farw, claddwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd; a daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le.
Nadab yn Frenin ar Israel
25Daeth Nadab fab Jeroboam yn frenin ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda, a theyrnasu am ddwy flynedd ar Israel. 26Gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybr a phechod ei dad, a barodd i Israel bechu. 27Gwnaeth Baasa fab Aheia o lwyth Issachar gynllwyn yn ei erbyn, a'i daro i lawr ger Gibbethon, a oedd ym meddiant y Philistiaid, gan fod Nadab yn gwarchae ar Gibbethon gyda holl Israel. 28Lladdodd Baasa ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda, a theyrnasodd yn ei le. 29Pan ddaeth yn frenin, trawodd holl deulu Jeroboam a'u difa, heb adael un perchen anadl i Jeroboam, yn unol â gair yr ARGLWYDD drwy ei was Aheia o Seilo. 30Digwyddodd hyn oherwydd y pechodau a wnaeth Jeroboam, a barodd i Israel bechu wrth ddigio yr ARGLWYDD, Duw Israel. 31Ac onid yw gweddill hanes Nadab, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel? 32Bu rhyfel rhwng Asa a Baasa brenin Israel ar hyd eu hoes.
Baasa yn Frenin ar Israel
33Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda daeth Baasa fab Aheia yn frenin ar Israel yn Tirsa, a theyrnasu am bedair blynedd ar hugain. 34Gwnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD a dilyn llwybr a phechod Jeroboam, a barodd i Israel bechu.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 15: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda