1 Brenhinoedd 1
1
Y Brenin Dafydd yn ei Henaint
1Yr oedd y Brenin Dafydd yn hen, mewn gwth o oedran; ni chynhesai, er pentyrru dillad drosto. 2A dywedodd ei weision wrtho, “Ceisier i'n harglwydd frenin forwyn ifanc i ofalu am y brenin, i'th ymgeleddu a gorwedd yn dy fynwes, fel y cynheso'r arglwydd frenin.” 3Yna ceisiwyd geneth deg trwy holl wlad Israel, a chafwyd Abisag y Sunamees a'i dwyn at y brenin. 4Yr oedd yn eneth brydferth iawn, a bu'n ymgeledd i'r brenin ac yn gofalu amdano; ond ni chafodd y brenin gyfathrach â hi.
Adoneia yn Hawlio'r Orsedd
5Ymddyrchafodd Adoneia fab Haggith gan ddweud, “Yr wyf fi am fod yn frenin.” A darparodd iddo'i hun gerbyd a marchogion, a hanner cant o wŷr i redeg o'i flaen. 6Nid oedd ei dad wedi gomedd dim iddo erioed na dweud, “Pam y gwnaethost fel hyn?” 7Yr oedd yntau hefyd yn hynod deg ei bryd; a ganed ef ar ôl Absalom. Bu'n trafod gyda Joab fab Serfia, ac Abiathar yr offeiriad; a rhoesant eu cefnogaeth i Adoneia. 8Ond nid oedd Sadoc yr offeiriad, Benaia fab Jehoiada, Nathan y proffwyd, Simei, Rei, na'r cedyrn oedd gan Ddafydd, o blaid Adoneia. 9Yna lladdodd Adoneia ddefaid a gwartheg a phasgedigion wrth faen Soheleth sydd gerllaw En-rogel; a gwahoddodd i'w wledd ei holl frodyr, meibion y brenin, a holl wŷr Jwda a oedd yn weision i'r brenin. 10Ond ni wahoddodd Nathan y proffwyd, na Benaia a'r cedyrn, na'i frawd Solomon.
Gwneud Solomon yn Frenin
11Dywedodd Nathan wrth Bathseba, mam Solomon, “Oni chlywaist ti fod Adoneia fab Haggith yn frenin, heb i'n harglwydd Dafydd wybod? 12Yn awr, felly, tyrd, rhoddaf iti gyngor fel y gwaredi dy fywyd dy hun a bywyd dy fab Solomon. 13Dos i mewn ar unwaith at y Brenin Dafydd a dywed wrtho, ‘Oni thyngaist, f'arglwydd frenin, wrth dy lawforwyn a dweud, “Solomon dy fab a deyrnasa ar fy ôl; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd”? Pam gan hynny y mae Adoneia yn frenin?’ 14Tra byddi yno'n siarad â'r brenin, dof finnau i mewn i gadarnhau dy eiriau.”
15Aeth Bathseba i mewn at y brenin i'r siambr. Yr oedd y brenin yn hen iawn, ac Abisag y Sunamees yn gofalu amdano. 16Ymostyngodd Bathseba ac ymgrymu i'r brenin, a dywedodd y brenin, “Beth sy'n bod?” 17Atebodd hithau, “F'arglwydd, ti dy hun a dyngodd trwy'r ARGLWYDD dy Dduw wrth dy lawforwyn: ‘Solomon dy fab a deyrnasa ar fy ôl; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd.’ 18Ond yn awr, y mae Adoneia'n frenin, a thithau, f'arglwydd frenin, heb wybod. 19Y mae wedi lladd llawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd holl feibion y brenin, Abiathar yr offeiriad a Joab, tywysog y llu; ond ni wahoddodd dy was Solomon. 20Yn awr y mae llygaid holl Israel arnat ti, f'arglwydd frenin, fel y mynegi iddynt pwy sydd i eistedd ar orsedd f'arglwydd frenin ar ei ôl. 21Onid e, pan fydd f'arglwydd frenin farw, cyfrifir fi a'm mab yn droseddwyr.”
22Tra oedd hi'n siarad â'r brenin, cyrhaeddodd y proffwyd Nathan, 23a hysbyswyd y brenin: “Dyma Nathan y proffwyd.” Daeth yntau gerbron y brenin, ac ymgrymu i'r brenin â'i wyneb i'r llawr. 24A dywedodd Nathan, “F'arglwydd frenin, a ddywedaist ti mai Adoneia sydd i deyrnasu ar dy ôl, ac i eistedd ar dy orsedd? 25Oblegid aeth i lawr heddiw, a lladdodd lawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd i'w wledd holl dylwyth y brenin, tywysog y llu ac Abiathar yr offeiriad. Y maent yn bwyta ac yn yfed yn ei ŵydd, ac yn ei gyfarch, ‘Byw fyddo'r brenin Adoneia!’ 26Ond nid yw wedi fy ngwahodd i, sy'n was i ti, na Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, na Solomon dy was. 27A wnaed y peth hwn trwy f'arglwydd frenin, heb i ti hysbysu dy was pwy sydd i eistedd ar orsedd f'arglwydd frenin ar ei ôl?”
28Atebodd y Brenin Dafydd, “Galwch Bathseba.” Daeth hithau i ŵydd y brenin a sefyll o'i flaen. 29Yna tyngodd y brenin a dweud, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a waredodd fy mywyd o bob cyfyngder, 30yn ddiau fel y tyngais i ti trwy'r ARGLWYDD, Duw Israel, mai Solomon dy fab a deyrnasai ar fy ôl, ac eistedd ar fy ngorsedd yn fy lle, felly yn ddiau y gwnaf y dydd hwn.” 31Ymostyngodd Bathseba â'i hwyneb i'r llawr ac ymgrymu i'r brenin, a dweud, “Boed i'm harglwydd, y Brenin Dafydd, fyw byth!”
32Dywedodd y Brenin Dafydd, “Galwch Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada.” 33Daethant i ŵydd y brenin, a dywedodd y brenin wrthynt, “Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi, a pheri i'm mab Solomon farchogaeth ar fy mules, a dewch ag ef i lawr i Gihon. 34Yno boed i Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ei eneinio ef yn frenin ar Israel; seiniwch yr utgorn a dywedwch, ‘Byw fyddo'r Brenin Solomon!’ 35Dewch chwithau i fyny ar ei ôl, a boed iddo eistedd ar fy ngorsedd; ef sydd i deyrnasu yn fy lle, a gorchmynnaf iddo fod yn dywysog ar Israel a Jwda.” 36Yna atebodd Benaia fab Jehoiada y brenin, a dweud, “Amen! Felly hefyd y dywedo'r ARGLWYDD, Duw fy arglwydd frenin. 37Fel y bu'r ARGLWYDD gyda'm harglwydd frenin, felly bydded gyda Solomon; a gwnaed ei orsedd yn uwch na gorsedd f'arglwydd, y Brenin Dafydd.” 38Aeth Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a'r Cerethiaid a'r Pelethiaid, i lawr, gan beri i Solomon farchogaeth ar fules y Brenin Dafydd, a dod ag ef i Gihon. 39Cymerodd Sadoc yr offeiriad y corn olew o'r babell, ac eneiniodd Solomon; yna seiniwyd yr utgorn, a dywedodd yr holl bobl, “Byw fyddo'r brenin Solomon!” 40Aeth yr holl bobl i fyny ar ei ôl dan ganu ffliwtiau a llawenhau'n orfoleddus, nes hollti'r ddaear â'u sŵn.
41Tra oeddent yn gorffen bwyta, clywodd Adoneia hyn, a'r holl wahoddedigion oedd gydag ef. A phan glywodd Joab sain yr utgorn dywedodd, “Pam y mae sŵn cynnwrf yn y ddinas?” 42Ar y gair, dyma Jonathan fab Abiathar yr offeiriad yn cyrraedd. Dywedodd Adoneia, “Tyrd i mewn; gŵr teilwng wyt ti, a newydd da sydd gennyt.” 43Ond atebodd Jonathan a dweud wrth Adoneia, “Nage'n wir! Y mae ein harglwydd, y Brenin Dafydd, wedi gwneud Solomon yn frenin, 44ac wedi anfon gydag ef Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd, Benaia fab Jehoiada, y Cerethiaid a'r Pelethiaid, a pheri iddo farchogaeth ar fules y brenin. 45Ac eneiniodd Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yn frenin yn Gihon, a daethant i fyny oddi yno dan lawenhau, a chynhyrfodd y ddinas. Dyna'r twrf a glywsoch. 46A mwy na hynny, y mae Solomon yn eistedd ar orsedd y frenhiniaeth; 47a daeth gweision y brenin ymlaen i gyfarch ein harglwydd, y Brenin Dafydd, a dweud, ‘Gwneled dy Dduw enw Solomon yn well na'th enw di, a dyrchafed ei orsedd ef yn uwch na'th orsedd di!’ Ac ymgrymodd y brenin ar ei wely. 48Fel hyn y dywedodd y brenin: ‘Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a roes heddiw un i eistedd ar fy ngorsedd, a'm llygaid innau'n gweld hynny.’ ”
49Cododd holl wahoddedigion Adoneia mewn dychryn a mynd bob un i'w ffordd. 50A chan fod Adoneia'n ofni rhag Solomon, cododd ac aeth i ymaflyd yng nghyrn yr allor. 51Mynegwyd i Solomon, “Edrych, y mae Adoneia'n ofni'r Brenin Solomon; ymaflodd yng nghyrn yr allor a dweud, ‘Tynged y Brenin Solomon wrthyf yn awr na fydd iddo ladd ei was â'r cledd.’ ” 52A dywedodd Solomon, “Os bydd yn ŵr teilwng, ni syrth un blewyn o'i wallt i lawr; ond os ceir drygioni ynddo, fe fydd farw.” 53Ac anfonodd y Brenin Solomon i'w gyrchu ef i lawr oddi wrth yr allor. Daeth yntau ac ymgrymu i'r Brenin Solomon; a dywedodd Solomon wrtho, “Dos i'th dŷ.”
Dewis Presennol:
1 Brenhinoedd 1: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004