Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Cronicl 4

4
Disgynyddion Jwda
1Meibion Jwda: Phares, Hesron, Carmi, Hur, Sobal. 2Reaia fab Sobal oedd tad Jahath; a Jahath oedd tad Ahumai a Lahad. Dyma dylwythau'r Sorathiaid. 3Meibion#4:3 Felly Groeg. Hebraeg, Dyma dad. Etam: Jesreel, Isma, Idbas; enw eu chwaer oedd Haselelponi. 4Penuel oedd tad Gedor, ac Eser oedd tad Husa. Y rhain oedd meibion Hur, cyntafanedig Effrata, tad Bethlehem. 5Yr oedd gan Asur tad Tecoa ddwy wraig, Hela a Naara. 6Naara oedd mam Ahusam, Heffer, Temeni, Hahastari; y rhain oedd meibion Naara. 7Meibion Hela: Sereth, Jesoar, Ethnan. 8Cos oedd tad Anub, Sobeba, a thylwythau Aharhel fab Harum.
9Yr oedd Jabes yn bwysicach na'i frodyr; galwodd ei fam ef yn Jabes am iddi, meddai, esgor arno mewn poen. 10Gweddïodd Jabes ar Dduw Israel, a dweud, “O na fyddit yn fy mendithio ac yn ehangu fy nherfynau! O na fyddai dy law gyda mi i'm hamddiffyn oddi wrth niwed rhag fy mhoeni!” Rhoddodd Duw ei ddymuniad iddo.
Achresi Eraill
11Celub brawd Sua oedd tad Mehir, tad Eston. 12Eston oedd tad Beth-raffa, Pasea, Tehinna tad Irnahas. Y rhain oedd dynion Recha. 13Meibion Cenas: Othniel a Seraia; a mab Othniel: Hathath. 14Meonothai oedd tad Offra; Seraia oedd tad Joab, tad Geharashim, canys crefftwyr oeddent. 15Meibion Caleb fab Jeffunne: Iru, Ela, Naam; mab Ela: Cenas. 16Meibion Jehaleleel: Siff, Siffa, Tiria, Asareel. 17Meibion Esra: Jether, Mered, Effer a Jalon. Bitheia, merch Pharo, gwraig Mered, oedd mam Miriam, Sammai, ac Isba tad Estemoa. 18Ei wraig Jehwdia oedd mam Jered tad Gedor, Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa. 19Meibion gwraig Hodeia, chwaer Naham, oedd tad Ceila y Garmiad, a thad Estemoa y Maachathiad. 20Meibion Simon: Amnon, Rinna, Ben-hanan, Tilon. Meibion Isi: Soheth a Ben-soheth. 21Meibion Sela fab Jwda: Er tad Lecha, Laada tad Maresa (tylwythau'r rhai o Beth-asbea oedd yn gwneud lliain main); 22Jocim, dynion Choseba, a Joas a Saraff, a fu'n arglwyddiaethu ar Moab cyn dychwelyd i Fethlehem. (Y mae'r hanesion hyn yn hen.) 23Y rhain oedd y crochenyddion oedd yn byw yn Netaim a Gedera; yr oeddent yn byw yno yng ngwasanaeth y brenin.
Disgynyddion Simeon
24Meibion Simeon: Nemuel, Jamin, Jarib, Sera, Saul; 25Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau. 26Meibion Misma: Hamuel, Saccur, Simei. 27Yr oedd gan Simei un ar bymtheg o feibion a chwech o ferched, ond ychydig o feibion oedd gan ei frodyr; er hynny nid oedd eu holl deulu hwy wedi cynyddu cymaint â meibion Jwda. 28Yr oeddent yn byw yn Beerseba, Molada, Hasar-sual, 29Bilha, Esem, Tolad, 30Bethuel, Horma, Siclag, 31Beth-marcaboth, Hasar-susim, Beth-birei a Saaraim. Y rhain oedd eu dinasoedd nes i Ddafydd ddod yn frenin. 32Eu trefi oedd Etam, Ain, Rimmon, Tochen, Asan; pump i gyd. 33Ac yr oedd ganddynt bentrefi o gwmpas y trefi hyn hyd at Baal. Yma yr oeddent yn byw, ac yr oeddent yn cadw rhestr o'u hachau: 34Mesobab, Jamlech, Josa fab Amaseia, 35Joel; Jehu fab Josibia, fab Seraia, fab Asiel; 36Elioenai, Jaacoba, Jesohaia, Asaia, Adiel, Jesimiel, Benaia; 37Sisa fab Siffi, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia. 38Aeth y rhai a enwyd uchod yn benaethiaid eu teuluoedd, ac fe gynyddodd eu tylwyth yn fawr iawn. 39Daethant i fwlch Gedor, i'r dwyrain o'r dyffryn, i geisio porfa i'w defaid. 40Fe gawsant borfa fras a da mewn gwlad eang, dawel a heddychol; oherwydd rhai o dylwyth Ham oedd yn byw yno o'r blaen. 41Yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, daeth y rhai a restrwyd ac ymosod ar bebyll Ham a'r pentrefi oedd ganddynt yno, a'u dinistrio'n llwyr hyd heddiw. Daethant i fyw yno yn eu lle am fod yno borfa i'w praidd. 42Aeth pum cant ohonynt, o lwyth Simeon, i Fynydd Seir, ac yn eu harwain yr oedd Pelatia, Nearia, Reffaia ac Ussiel, meibion Isi. 43Gorchfygasant weddill yr Amaleciaid, ac y maent yn dal i fyw yno hyd heddiw.

Dewis Presennol:

1 Cronicl 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda