1 Cronicl 3
3
Disgynyddion y Brenin Dafydd
1Dyma feibion Dafydd. Ganwyd iddo yn Hebron: y cyntafanedig, Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles; 2y trydydd, Absalom, mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur, y pedwerydd, Adoneia, mab Haggith; 3y pumed, Seffateia, o Abital; y chweched, Ithream, o'i wraig Egla. 4Ganwyd y chwech yma iddo yn Hebron, lle bu'n teyrnasu am saith mlynedd a chwe mis. 5Teyrnasodd yn Jerwsalem am dair blynedd ar ddeg ar hugain, ac yno fe anwyd y rhain iddo: Simea, Sobab, Nathan a Solomon; Bathsua ferch Ammiel oedd mam y pedwar. 6Hefyd naw arall, sef Ibhar, Elisama, Eliffelet, 7Noga, Neffeg, Jaffia, 8Elisama, Eliada, Eliffelet, naw. 9Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd; Tamar oedd eu chwaer.
Disgynyddion y Brenin Solomon
10Rehoboam oedd mab Solomon; Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; Jehosaffat ei fab yntau; 11Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau; 12Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau; 13Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau; 14Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau. 15Meibion Joseia: Johanan, y cyntafanedig; yr ail, Joacim; y trydydd, Sedeceia; y pedwerydd, Salum. 16Meibion Joacim: Jechoneia a Sedeceia.
Disgynyddion y Brenin Jechoneia
17Meibion Jechoneia'r carcharor: Salathiel, 18Malciram, Pedaia, Senasar, Jecameia, Hosama, Nedabeia. 19Meibion Pedaia: Sorobabel a Simei. Meibion Sorobabel: Mesulam a Hananeia; Selomith oedd eu chwaer hwy, 20ac yna Hasuba, Ohel, Berecheia, Hasadeia, Jusab-hesed, pump. 21Meibion Hananeia: Pelatia a Jesaia. Meibion Reffaia: Arnan, Obadeia, Sechaneia. 22Mab Sechaneia: Semaia. Meibion Semaia: Hattus, Igal, Bareia, Nearia, Saffat, chwech. 23Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, Asricam, tri. 24Meibion Elioenai: Hodaia, Eliasib, Pelaia, Accub, Johanan, Dalaia, Anani, saith.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 3: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004