Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Cronicl 16

16
1Daethant ag arch Duw a'i gosod yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau o flaen Duw. 2Wedi iddo orffen aberthu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd Dafydd y bobl yn enw'r ARGLWYDD, 3a rhannodd i bob un o'r Israeliaid, yn wŷr a gwragedd, dorth o fara, darn o gig a swp o rawnwin. 4Penododd rai o'r Lefiaid i wasanaethu o flaen arch yr ARGLWYDD, i goffáu a moliannu a chlodfori ARGLWYDD Dduw Israel: 5Asaff yn gyntaf, ac ar ei ôl ef Sechareia, Jeiel, Semiramoth, Jehiel, Matitheia, Eliab, Benaia ac Obed-edom. Yr oedd gan Jeiel nablau a thelynau, ac yr oedd Asaff yn canu'r symbalau. 6Yr oedd yr offeiriaid Benaia a Jahasiel i chwythu trwmpedau yn barhaus o flaen arch cyfamod Duw.
Emyn o Fawl
Salm. 105:1–15; 96:1–13; 106:1, 47–48
7Y pryd hwnnw y rhoddodd Dafydd am y tro cyntaf i Asaff a'i frodyr y moliant hwn i'r ARGLWYDD:
8Diolchwch i'r ARGLWYDD! Galwch ar ei enw,
gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
9Canwch iddo, moliannwch ef,
dywedwch am ei holl ryfeddodau.
10Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd,
llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
11Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth,
ceisiwch ei wyneb bob amser.
12Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth,
ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,
13chwi ddisgynyddion Israel, ei was,
chwi blant Jacob, ei etholedig.
14Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw,
ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.
15Cofiwch ei gyfamod dros byth,
gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
16sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham,
a'i lw i Isaac,
17yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob,
ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
18a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaan
yn gyfran eich etifeddiaeth.”
19Pan oeddech yn fychan o rif,
yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
20yn crwydro o genedl i genedl,
ac o un deyrnas at bobl eraill,
21ni adawodd i neb eich darostwng,
ond ceryddodd frenhinoedd o'ch achos,
22a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,
na gwneud niwed i'm proffwydi.”
23Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear,
cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth.
24Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,
ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
25Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;
y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
26Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,
ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
27Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,
nerth a llawenydd yn ei fangre ef.
28Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,
rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;
29rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw,
dygwch offrwm a dewch o'i flaen.
Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
30Crynwch o'i flaen, yr holl ddaear;
yn awr y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir.
31Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear,
a dywedent ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin.”
32Rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,
llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.
33Yna bydd prennau'r goedwig yn canu'n llawen
o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear.
34Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,
ac y mae ei gariad hyd byth.
35Dywedwch, “Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth;
cynnull ni ac arbed ni o blith y cenhedloedd,
inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd
ac ymhyfrydu yn dy fawl.”
36Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
A dywedodd yr holl bobl, “Amen”, a moli'r ARGLWYDD.
Addoli yn Jerwsalem a Gibeon
37A gadawodd Dafydd Asaff a'i frodyr o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD i wasanaethu yno'n barhaol yn ôl gofynion pob dydd. 38Gadawodd yno hefyd Obed-edom gyda'i#16:38 Felly Fersiynau. Hebraeg, gyda'u. wyth brawd a thrigain; Obed-edom fab Jeduthun, a Hosa, oedd i fod yn borthorion. 39Ond gadawodd ef Sadoc yr offeiriad, a'i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD yn yr uchelfa yn Gibeon, 40i aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor y poethoffrwm yn gyson fore a hwyr fel sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, a orchmynnodd ef i Israel. 41Gyda hwy yr oedd Heman, Jeduthun a'r rhai eraill oedd wedi eu hethol a'u henwi i foliannu'r ARGLWYDD am fod ei gariad hyd byth. 42Heman a Jeduthun oedd yn gofalu am yr trwmpedau a'r symbalau a'r offerynnau cerdd cysegredig ar gyfer y cantorion. A meibion Jeduthun oedd yn gofalu am y porth.
43Yna aeth pawb adref a dychwelodd Dafydd i gyfarch ei deulu.

Dewis Presennol:

1 Cronicl 16: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda