Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Cronicl 15

15
Paratoi i Symud Arch y Cyfamod
1Adeiladodd Dafydd dai iddo'i hun yn Ninas Dafydd, a pharatoi lle i arch Duw a gosod pabell iddi. 2Yna dywedodd, “Nid oes neb i gario arch Duw ond y Lefiaid, oherwydd hwy a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD i'w chario ac i'w wasanaethu ef am byth.” 3Cynullodd Dafydd Israel gyfan i Jerwsalem, i ddod ag arch yr ARGLWYDD i fyny i'r lle yr oedd wedi ei baratoi iddi. 4Casglodd feibion Aaron a'r Lefiaid: 5o feibion Cohath, Uriel y pennaeth a chant ac ugain o'i frodyr; 6o feibion Merari, Asaia y pennaeth a dau gant ac ugain o'i frodyr; 7o feibion Gersom, Joel y pennaeth a chant a thri deg o'i frodyr; 8o feibion Elisaffan, Semaia y pennaeth a dau gant o'i frodyr; 9o feibion Hebron, Eliel y pennaeth a phedwar ugain o'i frodyr; 10o feibion Ussiel, Amminadab y pennaeth a chant a deuddeg o'i frodyr. 11Yna galwodd Dafydd am Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, Uriel, Asaia, Joel, Semaia, Eliel ac Amminadab, 12a dywedodd wrthynt, “Chwi yw pennau-teuluoedd y Lefiaid. Sancteiddiwch eich hunain, chwi a'ch brodyr, i fynd ag arch ARGLWYDD Dduw Israel i'r lle a baratoais iddi. 13Am nad oeddech chwi gyda ni y tro cyntaf, ac na fuom ninnau yn ymgynghori ag ef ynglŷn â'i drefn, fe dorrodd yr ARGLWYDD ein Duw allan i'n herbyn.” 14Felly sancteiddiodd yr offeiriaid a'r Lefiaid eu hunain i ddod ag arch ARGLWYDD Dduw Israel i fyny. 15Ac fe gludodd y Lefiaid arch Duw ar eu hysgwyddau â pholion, fel y gorchmynnodd Moses yn ôl gair yr ARGLWYDD.
16Rhoddodd Dafydd orchymyn i benaethiaid y Lefiaid osod eu brodyr yn gerddorion i ganu mawl yn llawen gydag offer cerdd, sef nablau, telynau a symbalau. 17Felly etholodd y Lefiaid Heman fab Joel ac, o'i frodyr, Asaff fab Berecheia; a hefyd Ethnan fab Cusaia o blith eu brodyr, meibion Merari. 18A chyda hwy eu brodyr o'r ail radd: y porthorion Sechareia#15:18 Felly llawysgrifau a Groeg. Cymh. adn. 20. TM yn ychwanegu Ben, a., Jaasiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom a Jehiel. 19Heman, Asaff ac Ethan, y cerddorion, oedd i seinio'r symbalau pres. 20Sechareia, Asiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Maaseia a Benaia oedd i ganu nablau ar Alamoth. 21Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom, Jehiel ac Asaseia oedd i ganu'r telynau ac arwain ar Seminith. 22Chenaneia, pennaeth y Lefiaid, oedd yn gofalu am y canu, ac ef oedd yn ei ddysgu i eraill am ei fod yn hyddysg ynddo. 23Berecheia ac Elcana oedd i fod yn borthorion i'r arch. 24Sebaneia, Jehosaffat, Nathaneel, Amisai, Sechareia, Benaia ac Elieser, yr offeiriaid, oedd i ganu'r trwmpedau o flaen arch Duw; yr oedd Obed-edom a Jeheia hefyd i fod yn borthorion i'r arch.
Symud Arch y Cyfamod i Jerwsalem
2 Sam. 6:12–22
25Felly aeth Dafydd a henuriaid Israel a phenaethiaid y miloedd i ddod ag arch cyfamod yr ARGLWYDD i fyny o dŷ Obed-edom mewn llawenydd. 26Ac am i Dduw gynorthwyo'r Lefiaid oedd yn cario arch cyfamod yr ARGLWYDD, aberthasant saith o fustych a saith o hyrddod. 27Yr oedd Dafydd wedi ei wisgo mewn lliain main, ac felly hefyd yr holl Lefiaid oedd yn cario'r arch, a'r cerddorion a'u pennaeth Chenaneia. Yr oedd gan Ddafydd effod liain hefyd. 28Yr oedd holl Israel yn hebrwng arch cyfamod yr ARGLWYDD â banllefau a sain utgorn, ac yn canu trwmpedau, symbalau, nablau a thelynau.
29Pan gyrhaeddodd arch cyfamod yr ARGLWYDD Ddinas Dafydd, yr oedd Michal merch Saul yn edrych drwy'r ffenestr, a gwelodd y Brenin Dafydd yn dawnsio ac yn gorfoleddu, a dirmygodd ef yn ei chalon.

Dewis Presennol:

1 Cronicl 15: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda