Luc 5
5
1-39Wrth i'r crowd wasgu rownd 'ddo a grondo ar neges Duw, wedd‑e'n sefyll ar lan Llyn Gennesaret, a welodd e ddwy gwch ar lan i llyn. We'r pisgotwyr wedi mynd a'u gadel nhwy fel gallen‑nhwy olchi u rhwydi. Âth‑e miwn i un o'r cichod, Simon we pia i, a gofinodd‑e iddo fynd mas i'r llyn rhyw damed bach. Ishteddodd e lawr a disgu'r crowde o'r cwch. Pan fenodd‑e sharad gwedodd‑e wrth Simon, “Cer mas i'r dŵr dwfwn, a gad di rwydi lawr i ddala pisgod.” Atebo Simon, “Mishtir, nethon‑ni weitho trw'r nos a dala dim byd, ond os wit‑ti'n gweud 'ny 'na‑i adel i rhwydi lawr.” Pan nethon‑nhwy 'ny fe ddalon‑nhwy lot fowr o bisgod, fel dachreuo'u rhwydi nhwy dorri. Gethon‑nhwy silw i bois in i cwch arall i ddo a'u helpu nhwy. Dethon‑nhwy a llenwon‑nhwy'r ddwy gwch, nes bo nhwy'n dachre shinco. Pan welo Pedr hyn cwmpodd‑e wrth drâd Iesu, a gweud, “Cer bant wrtha i, Arglwidd, achos dw‑i'n ddyn llond pechod.” Achos wedd‑e a bobun we 'dag e in sinne at fain o bisgod wen‑nhwy wedi'u dala; nâth Iago a Ioan, crwts Sebedeus, a miwn busnes 'da Simon, sinnu 'fyd. Gwedo Iesu wrth Simon, “Paid câl ofon; o nawr mlân dala dinion fiddi‑di.” Dethon‑nhwy â'r cichod i'r lan, gadel popeth, a'i ddilyn e.
Shwrne, we Iesu in un o'r trefi pan ddâth dyn a crwen tost ofnadw ato fe. Cwpo'r dyn ar i wmed a begian arno. “Syr, os wit‑ti moyn, alli‑di in neud i in lân.” Mistinodd Iesu i law a twtsh ag e, a gweud, “'Na beth dw‑i moyn; bidda'n lân.” Gado'r salwch ar i crwen e ar unweth. Gwedodd‑e wrtho fe i beido gweud wrth neb. “Cer,” mynte fe, “a dangosa di unan i'r fferiad, a neud offrwm fel ma Moses wedi gweud wrthoch chi neud i ddangos di fod ti wedi câl di neud in well.” Ond âth i sôn amdano in gynt o le i le, a dâth crowde mowr i rondo arno fe a i gal u gwella os wen‑nhwy'n dost; ond wedd‑e'n arfer mynd bant i'r lle diffeth i weddïo.
Un dwarnod wedd‑e'n disgu. We Ffariseied a'r rhei wen disgu i Gifreth, rhei we wedi dod o bob pentre in Galilea a Jwdea a o Jerwsalem, in ishte fan 'ny; a we nerth ir Arglwyidd gidag e i wella dinion. I funud 'ny dâth dinion â dyn ar i wely we wedi'i barlisu, a dreion‑nhwy gario fe miwn a rhoi e o flân Iesu. Achos bo nhwy heb ffindo ffrodd o ddod ag e miwn achos i crowd, ethon‑nhwy lan i do'r tŷ a'i adel lawr ar fatras trw'r teils, reit miwn i'r canol o flân Iesu. Wrth weld u ffydd nhwy wedodd‑e wrth i dyn. “In ffrind, ma di bechode di wedi câl u madde.” Dachreuodd i rhei we'n disgu'r Gifreth a'r Ffariseied in dechrau dadle: “Pwy yw hwn sy'n cablu? Pwy gall fadde pechod ond Duw i hunan?” We Iesu'n diall u bod nhwy'n dadle a atebodd‑e nhwy, “Pam ŷch‑chi'n dadle in ich meddilie? Beth sy rwydda i neud: gweud 'Ma di bechode di wedi câl u madde', neu gweud, 'Coda a cerdda'? Ond dangosa‑i bo comands 'da Crwt i Dyn ar i ddeiar i fadde pechode.” Wedyn wedodd‑e wrth i dyn we wedi'i barlisu, “Gronda arna i: coda, cidja in di fatras a cer getre.” Safodd e lan ar unweth o'u bleine nhwy, codi beth wedd‑e wedi bod in gorwe arno, a mynd getre, in rhoi gogoniant i Dduw. We bob un arall in ddelff 'da sindod a rhoion‑nhwy ogoniant i Dduw 'fyd. A wen‑nhwy'n rhifeddu, a wedon‑nhwy, “Ŷn‑ni wedi gweld pethe mowr heddi.”
Wedyn âth‑e mas, a gweld dyn we'n casglu trethi in ishte in i offis; Lefi we'i enw fe. A gwedodd‑e wrtho, “Dilyna fi.” Gadodd‑e bopeth, codi, a'i ddilyn e.
Câs Lefi barti mowr in i dŷ, a we crowd mowr o ddinion we'n casglu trethi 'na a dinion erill in ishte rownd i ford 'da nhwy. Cintachodd i Ffariseied a'r rhei we'n disgu'r Gifreth wrth i ddisgiblion e, a gweud, “Pam ŷch‑chi'n bita a hifed 'da'r rhei sy'n casglu trethi a dinion sy'n dangos dim parch i grefydd o gwbwl?” Atebo Iesu nhwy, “Sdim ishe doctor ar ddinion sy'n iawn, ond i rhei sy ddim in iawn. Sena‑i wedi dod i alw pobl gifiawn, ond pechaduried i ddifaru.”
Gwedon‑nhwy wrtho fe, “Ma disgiblion Ioan in mind heb fwyd in amal fel part o'u cred a'n gweddïo, fel 'na ma'r Ffariseied 'fyd in i neud, ond bita a hifed ma di ddisgiblion di in i neud.” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Ŷch‑chi'n galler neud i ffrindie'r dyn sy'n mynd i briodi fynd heb fwyd pa ma'r dyn sy'n mynd i brioid 'da nhwy? Deith amser pan bydd e'n mynd wrthyn nhwy, wedyn bydd ir amser in dod iddyn nhwy fynd heb fwyd fel part o'u cred.”
Gwedodd‑e ddameg wrthyn nhwy: “Sneb in rhico pishyn o ddilledyn newy i roi e ar heb bilyn; os newn‑nhwy, byddan‑nwy'n rhico'r un newy, a bydd i pishyn o'r un newy ddim in matsho'r hen. Sneb in rhoi gwin newy mewn hen grwen; os newn‑nhwy bydd i gwin newy in bosto'r hen grwen. Bydd e gyd in rhedeg bant a'n distrywo'r crwen 'fyd. Na, ma gwin newy in câl i roi miwn crwen newy. A sneb ishe hifed gwin newy ar ôl hifed hen win, achos man‑nhwy'n gweud, “Ma'r hen in ardderchog.”
Dewis Presennol:
Luc 5: DAFIS
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies