Luc 6
6
1-49Dy Sabbath wedd‑i a wedd‑e'n cered trw'r perci llafur, a we'i ddisgiblion e'n pigo brige'r llafur, in rhwto nhwy in u dwylo a'u bita. Gwedo rhei o'r Ffariseied, “Pam ŷch‑chi'n torri'r Dy Sabbath?” Atebo Iesu nhwy, “Senoch‑chi wedi darllen beth nâth Dafydd pan we ishe bwyd arno fe a'i ffrinds? Âth‑e miwn i Dŷ Duw, cwmrid i bara we wedi câl i roid mas o flân Duw, a chi'n gwbod bo'r Gifreth in gweud taw dim ond da'r ffeiradon ma hawl i fita hwnnw, a'i roi e i'w ffrinds.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Ma Crwt i Dyn i Arglwydd Dy' Sabbath.” Dy' Sabbath arall âth‑e i'r sinagog a disgu. We dyn fan 'ny we'i law dde wedi gwywo, We'r rhei we'n disgu'r Gifreth a'r Ffariseied in watsho Iesu i weld wedd‑e'n neud dinion in well dy' Sabath, fel gallen‑nhwy gâl rheswn i fynd ag o flân i well. Ond wedd‑e'n gwbod beth we in u meddile nhwy, a gwedodd‑e wrth i dyn â'r llaw we wedi gwywo, “Coda a saf in i canol.” Cododd‑e lan a sefyll fan 'ny. Gwedo Iesu wrthon nhwy, “Dw‑i'n holi hyn i chi, ody'r gifreth in gweud i bod hi'n iawn i neu da neu drwg ar ddy' Sabbath, i safio bowid neu i ddistrywo bowid?” Drichodd‑e rownd 'ddi nhwy i gyd a gweu 'th i dyn, “Mistyn di law mas.” Nâth‑e 'ny, a gâs i law e i gwella. Ond gethon‑nhwy u llenwi 'da casineb, a wen‑nhwy'n clebran 'da'i gily beth ddilen‑nhwy neud 'da Iesu.
A'r amser 'ny âth‑e mas i'r mini i weddïo, a halodd‑e'r nos i gyd in gweddïo ar Dduw. Pan ddâth‑i'n ddydd gweiddodd‑e ar i ddisgiblion ddwâd ato fe, a mas onyn nhwy dewishodd‑e ddouddeg a'u galw nhwy'n apostolion: Simon a alwodd in Pedr 'fyd, a Andreas i frawd, Iago a Ioan, Philip a Bartholomeus, Mathew a Tomos, Iago crwt Alffeus, Simon we'n câl i alw in Selot, Jwdas crwt Iago, a Jwdas Iscariot a droiodd in fradwr.
Âth Iesu lawr 'da nhwy a sefyll ar i rhos. We crowd mowr o'r disgiblion a lot o ddinion o Jwdea Jerwsalem a parte Tyrus a Sidon we wedi dod i gliwed e fan 'ny, a rhei we wedi dod i gâl i gwella; a we'r rhei we'n jodde achos isbrydion bowlyd in câl u gwella. We'r crowd i gyd in treial twtsh ag e, achos we nerth in dod mas ono fe a wedd‑e'n gwella nhwy i gyd.
Drichodd e lan ar i ddisgiblion, a gweud,
“Ŷch‑chi ddinion llwm in hapus; achos chi sy pia Teyrnas Dduw.
Ŷch‑chi sy'n llwgu nawr in hapus; achos gewch‑chi ddigon.
Ŷch‑chi sy'n llefen nawr in hapus; achos biddwch‑chi'n wherthin.
Ŷch‑chi'n hapus pan ma dinion in ich casáu chi, pan biddan nhwy'n codi rhwystre in ich erbyn chi, in gweud pethe cas wrthoch chi a ddim ishe gweu ich enw chi achos bo nhwy'n meddwl bo fe'n ddrwg, a hinny ar gownt Crwt i Dyn. Biddwch in llawen i dwarnod 'ny a jwpwch achos bo chi mor hapus; achos, credwch‑chi fi, ma'ch gwobor chi'n fowr in i nefodd. We'ch tade chi'n arfer neud 'run peth i'r proffwydi.
“Ond druens o chi ddinion abal; ma amser digonedd wedi mynd.
Druens o chi sy'n llawn nawr; achos biddwch chi'n llwgu.
Druens o chi sy'n wherthin nawr; achos biddwch chi'n mwrno a llefen.
Druens i chi pan ma dinion in gweud pethe neis amdanoch chi. We'ch tade chi'n arfer neud 'run peth i'r gau-broffwydi.
“Ond wi'n gweu thoch chi, sy'n grondo arna i: Carwch ich gelinion, newch beth sy'n dda i ddinion sy'n ich hêto chi, rhowch fendith i'r rhei sy'n diawlo chi, gweddïwch dros i dinion sy'n neud pethe cas ichi. Os bydd unrhyw un in di fwrw di ar fy foch cofia ginnig i llall iddyn nhwy 'fyd, a paid â stopo'r rhei sy'n mynd â di got os man‑nhwy'n treial mynd â di grys di 'fyd. Rhoia i bob un sy'n gofyn rhwbeth 'da ti, a paid gofyn am dy bethe di nôl os bydd rhiwun in mynd â nhwy. Newch‑chi i ddinion beth ŷch‑chi moyn i ddinion neud i chi. Os ŷch‑chi'n caru'r rhei sy'n ich caru chi, beth yw point 'na? Ma pechaduried in neud 'na. A os ŷch‑chi'n rhoi mentig i riwun in dishgwyl câl, pwy ddiolch ŷch‑chi'n mynd i gâl am 'na? Ma hyd 'n‑ôd pechaduried in mentig i bechaduried, fe bo nhwy'n câl gwmint nôl. Ond carwch‑chi'ch gelinion, newch in dda iddyn nhwy, a menitcwch iddyn nhwy in dishgwyl dim byd nôl; a fe gewch‑chi wobor fowr, a biddwch‑chi'n blant i'r Duw Mowr Uchel, achos mae‑e'n gredig wrth i rhei anniolchgar a'r drwg. Dangoswch drugaredd in gowr fel ma'ch Tad in dangos trugaredd.
“Peidwch barnu, a gewch‑chi ddim mo'ch barnu. Peidwch condemo neb a chewch‑chi ddim ich condemno whaith. Rhowch bardwn, a chewch‑chi bardwn. Rhowch, a bydd dinion erill in rhoi i chi; ceith ich cwêl i llewni, wedi'i wasgu lawr a'i shiglo nes i fod in rhedeg drosto; achos i mesur newch‑chi iwso i ddinion erill fydd in câl i iwso i chi in i diwedd.”
Wedyn wedodd e ddiareb wrthyn nhwy: “Ody dyn dall in galler arwen dyn dall arall? Seno'r ddou in mynd i gwmpo miwn i'r twll? Seno disgibl in fwy na'i fishtir; ond bydd pob disgibli, wedi 'ddo ddisgu, in debyg i'w athro.
“Pam wit‑ti'n drich ar i sbotyn dwst in lligad di frawd, a ddim in silwu bo stillen 'da ti in di ligad di unan? Shwt wit‑ti'n galler gweud wrth di frawd, “Frawd, gad ifi dinnu'r sbotyn dwst 'na mas o di ligad di”, a wedyn wit‑ti ddim in gweld i stillen in diligad di unan? Ragrithiwr, cwmra'r stillen mas o di ligad di huan ginta, a wedyn galli‑di weld in ddigon clir i dinnu'r sbotyn dwst mas o ligad di frawd.
“Sdim llwyn da in rhoi ffrwyth gwâl; sdim llwyn gwâl in rhoi ffrwyth da. Ŷn‑ni nabod llwyn wrth i ffrwyth sy arno; sdim dinion in pigo ffigs bant o lwyn drain, na'n pigo grêps ar ddraenen. Ma rhei da in dod â phethe da mas o drisordŷ u meddwl, a mae rhei drwg in dod mâs â pethe drwg o drisordŷ u meddwl. Ma'r rhiwun in i weud ind dod mas o'u meddilie nhwy.
“Pam ŷch‑chi'n gweud, 'Arglwidd, Arglwidd”, wrth sharad 'da fi, a wedyn weth senoch‑chi'n neud beth dw‑i'n gweu 'tho chi neud? Dangosa‑i i chi i bwy ma'r rhei sy'n dod ata i, in gorndo ar ing ngeirie, a'n neud fel man‑nhwy'n gweud in debyg. Man‑nhwy fel dyn sy'n codi tŷ, in cloddio'n ddwfwn, a neud in siŵr bo'r silfeini ar graig. Wedyn, pan ddâth llifogydd a'r afon in bwrw in erbyn i tŷ, nâth i tŷ ddim simud achos bo fe wedi câl i godi'n dda. Ond ma'r rhei sy'n cliwed beth dw‑i'n gwud a wedyn in neud dim byd in debyg i'r dyn sy'n codi tŷ ar i pridd, heb ddim silfeini. Pan ddâth llif ir afon a bwrw in i erbyn, fe gwmpodd ar unweth, a we siape ofnadw i tŷ 'na.”
Dewis Presennol:
Luc 6: DAFIS
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies