Marc 9
9
1Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai#9:1 Felly א B Brnd.; rhai o'r rhai sydd yn sefyll yma A C. yma o'r rhai sydd yn sefyll, ni phrofant angeu ddim, hyd oni welant Deyrnas Dduw wedi dyfod mewn gallu.
Trawsffurfiad Crist
[Mat 17:1–9; Luc 9:29–36]
2Ac wedi chwe diwrnod, y mae yr Iesu yn cymmeryd gyd âg ef Petr, ac Iago, ac Ioan, ac yn eu dwyn hwynt i fynydd uchel o'r neilldu, wrthynt eu hunain: ac efe a drawsffurfiwyd#9:2 metamorphoô, cyfnewid i ffurf arall, trawsffurfio. Y mae yn fwy na gweddgyfnewid, fel y mae y desgrifiad dylynol yn dangos, ac ystyr y gair yn profi. Golyga morphê, ffurf, sef yr hyn sydd arosol (“yn ffurf Duw,” Phil 2:6), a schêma, dull, yr hyn sydd gyfnewidiol (“a'i gael mewn dull fel dyn,” Phil 2:8). Yma llewyrchai y gogoniant yn Nghrist tu ag allan. Defnyddir y gair hefyd yn 2 Cor 3:18, “A newidir [drawsffurfir] i'r unrhyw ddelw,” ac yn Rhuf 12:2. “Ymnewidiwch [trawsffurfier chwi] trwy adnewyddiad eich meddwl.” yn eu gŵydd hwynt. 3A'i ddillad ef a aethant yn ddysglaer‐wych#9:3 Llachar, tanbaid, dysglaer. Defnyddia Plato y gair am oleuni y fellten, ac Aristotle am oleuni y ser sefydlog., yn gànaid iawn#9:3 fel eira A D; gad. א B C L Δ Brnd. (o Mat 28:3?), y fath ni fedr pànwr ar y ddaear felly#9:3 felly א B C L; gad. A. eu cànu. 4Ac ymddangosodd iddynt Elias, gyd â Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â'r Iesu. 5A Phetr a atebodd ac a ddywed wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a bydded#9:5 felly א B C L Brnd. i ni wneuthur tair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias. 6Canys ni wyddai efe beth i ateb#9:6 ateb א B L Brnd.; canys yr oeddynt yn llawn dychryn. 7Ac yr oedd cwmwl yn cysgodi drostynt a daeth llais allan o'r cwmwl#9:7 gan ddywedyd gad. prif‐law‐ysgrifau (ond A D L) a'r Brnd.,
Hwn yw fy anwyl Fab: gwrandêwch ef [[Salm 2:7, 12]]
8Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach, ond yr Iesu yn unig gyd â hwy eu hunain. 9Ac fel yr oeddynt yn dyfod i waered o'r mynydd, efe a orchymynodd iddynt na adroddent i neb y pethau a welsant, ond pan adgyfodai Mab y Dyn o feirw. 10A hwy a gadwasant#9:10 Llyth.: daliasant afael ar (gwel Heb 4:14; Dad 2:13, 25; 3:11). Hwy a gofiasant yn ffyddlon y gorchymyn. yn ffyddlon yr ymadrodd#9:10 Neu, a gadwasant y gair yn ffyddlon gyd â hwynt eu hunain, gan gyd‐ymholi beth, &c., gan gyd‐ymholi â hwy eu hunain beth yw yr adgyfodi o feirw.
Dau ddyfodiad Elias
[Mat 16:10–13]
11A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Yr#9:11 Y Phariseaid a'r Ysgrifenyddion א L Ti. Yr Ysgrifenyddion A B C D Brnd. ond Ti. Ysgrifenyddion a ddywedant fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf#9:11 Neu, Paham y dywed yr Ysgrifenyddion?. 12Ac efe a#9:12 Felly א A B C L Brnd. ddywedodd wrthynt, Elias yn wir, wedi dyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth#Mal 4:5, 6. A#9:12 Neu, â'r modd y mae yn ysgrifenedig. pha fodd y mae yn ysgrifenedig am Fab y Dyn? Y bydd iddo ddyoddef llawer, ac y dirmygid ef. 13Ond meddaf i chwi fod Elias hefyd wedi dyfod, a gwnaethant iddo pa beth bynag a fynasant, fel yr ysgrifenwyd am#9:13 Llyth.: arno. dano#Marc 6:14–29..
Bwrw allan gythraul: methiant y Dysgyblion
[Mat 17:14–21; Luc 9:37–43]
14A phan ddaethant#9:14 ddaethant … welsant א B L Δ Ti. Tr. WH. Diw. ddaeth efe … welodd A C D Al. at y Dysgyblion, hwy a welsant#9:14 ddaethant … welsant א B L Δ Ti. Tr. WH. Diw. ddaeth efe … welodd A C D Al. dyrfa fawr o'u hamgylch, ac Ysgrifenyddion yn cyd‐ymholi â hwynt. 15Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ei gwelsant ef, a lanwyd â syndod#9:15 Neu, a lanwyd â dychryn (gwel 14:33; 16:5)., ac a redasant tu ag ato, ac a'i cyfarchasant ef. 16Ac efe a ofynodd iddynt#9:16 iddynt (y bobl) א B D L Δ Brnd.; i'r Ysgrifenyddion A C., Pa gyd‐ymholi yr ydych â hwynt? 17Ac un o'r dyrfa a atebodd iddo#9:17 Felly, א B D L; ac a ddywedodd A C., Athraw, mi a ddygais fy mab atat, âg yspryd mud ynddo. 18A pha le bynag y cymmer afael arno, y mae yn ei daflu i lawr#9:18 Llyth.: rwygo, yna dirdynu., ac y mae efe yn malu ewyn, ac a ysgyrniga ddanedd, ac y mae yn dihoeni: a mi a ddywedais wrth dy Ddysgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan, ac nis gallasant. 19Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddywed, O genedlaeth anffyddiog! hyd pa bryd y byddaf gyd â#9:19 pros, mewn cymdeithas â chwi. chwi? hyd pa bryd y gwnaf gyd‐ddwyn â chwi? dygwch ef ataf fi. 20A hwy a'i dygasant ef ato: a phan welodd ef, yn ebrwydd yr yspryd a'i dirdynodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, gan falu ewyn. 21Ac efe a ofynodd i'w dâd ef, Pa gymmaint o amser sydd er#9:21 Llyth.: fel. y mae hyn wedi dygwydd iddo? Ac efe a ddywedodd, Er yn fachgenyn. 22A mynych y taflodd efe ef i'r tân, ac hefyd i'r dyfroedd, fel y dyfethai efe ef: ond, os gelli di ddim, cymmorth ni, gan gymmeryd tosturi arnom. 23A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Os#9:23 Os gelli! א A B C La. Ti. Tr. WH. Diw. Os gelli di gredu D [Al.] Yn llythyrenol, Y peth, Os gelli! h. y. Yr ymadrodd, Os gelli! gelli! pob peth a all fod i'r neb a gredo. 24Ac yn ebrwydd tâd y bachgenyn a lefodd allan#9:24 gyd â dagrau D. Gad. א A B C Brnd., ac a ddywedodd, Yr#9:24 Arglwydd D. Gad. א A B C Brnd. wyf yn credu: cymmorth fy anghrediniaeth. 25A phan welodd yr Iesu fod tyrfa yn cyd‐redeg tu ag ato, efe a geryddodd yr yspryd aflan, ac a ddywedodd wrtho, Tydi yspryd mud a byddar, yr wyf yn gorchymyn i ti, tyred allan o hono, ac na ddos mwyach iddo ef. 26Ac wedi llefain allan, a dirdynu#9:26 Llyth.: dryllio. llawer arno, efe a ddaeth allan, ac efe a aeth fel un marw, fel y dywedodd y llaweroedd#9:26 Neu, y rhan fwyaf. ei fod wedi marw. 27A'r Iesu a afaelodd yn#9:27 Felly א B D L Brnd.: a afaelodd ynddo gerfydd ei law A. ei law, ac a'i cyfododd ef, ac efe a safodd i fyny. 28Ac wedi iddo fyned i mewn i dŷ, ei Ddysgyblion a ofynasant iddo o'r neilldu, Paham#9:28 Neu, Ni allem ni ei fwrw ef allan. Ond golyga ho ti yma paham, ac y mae fwy nag ymglymair i ddwyn i mewn ddywediad y Dysgyblion. na allem ni ei fwrw ef allan? 29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all ddyfod allan trwy ddim ond trwy weddi#9:29 ac ympryd A C D L Tr. Al. Gad. א B Ti. WH. Diw..
Crist yn rhag‐fynegi yr ail waith ei farwolaeth
[Mat 17:22, 23; Luc 9:43–45]
30Ac wedi myned allan oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea; ac ni fynai efe i neb wybod. 31Canys yr oedd efe yn dysgu ei Ddysgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylaw dynion, a hwy a'i lladdant#9:31 Llyth.: a'i lladdant ef ymaith; fel y dywedir, a'i lladdant ef yn farw. ef, ac wedi ei ladd#9:31 Llyth.: a'i lladdant ef ymaith; fel y dywedir, a'i lladdant ef yn farw., ar#9:31 ar ol tridiau א B C D Brnd. y trydydd dydd A. ol tridiau efe a adgyfyd. 32Ond nid oeddynt hwy yn deall#9:32 Llyth. Yr oeddynt yn anwybodus o'r dywediad. yr ymadrodd, ac yr oeddynt yn ofni gofyn iddo.
Mawredd yn y Deyrnas: y plentyn bychan
[Mat 18:1–5; Luc 9:46–48]
33A hwy#9:33 hwy א B D Brnd. efe A C L. a ddaethant i Capernaum#9:33 Capharnaum yw darlleniad neu sillebiaeth yr hen law‐ysgrifau.: a phan ddaeth efe i'r tŷ, efe a ofynodd iddynt, Am beth yr oeddych yn ymresymu#9:33 Neu, ymddadleu.#9:33 yn eich plith eich hunain A. Gad. א B C D L Brnd. ar y ffordd? 34Ond hwy a dawsant â sôn; canys yn eu plith eu hunain yr ymddadleuasant#9:34 Neu, y cyd‐ymddiddanasant. ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf#9:34 Llyth. fwy.. 35Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y Deuddeg, ac a ddywed wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o bawb, a gwas#9:35 diakonos, gwas, yn enwedig yn ei berthynas â'i waith, gan ddynodi un gweithgar. i bawb. 36Ac efe a gymmerodd fachgenyn, ac a'u gosododd ef yn eu canol hwynt; ac wedi iddo ei gofleidio yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt, 37Pwy bynag a dderbynio un o'r cyfryw#9:37 Cyfryw blant A B D Al. Tr. WH.; y plant hyn א C Ti. blant bychain yn#9:37 Llyth.: ar; ar sail fy enw i; yn cael ei ddylanwadu gan barch i fy enw i. fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynag sydd#9:37 Felly א B L Brnd.; a'm derbynio A C D. yn fy nerbyn i, nid myfi y mae efe yn ei dderbyn, eithr yr Hwn a'm danfonodd i.
Gofyniad Ioan
[Mat 10:42; Luc 9:49, 50]
38Ioan a lefarodd#9:38 a lefarodd א B Δ Brnd, a atebodd A C D. wrtho, gan ddywedyd, Athraw#9:38 Neu, O Feistr., ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid#9:38 demoniaid. yn dy enw di#9:38 yr hwn nid yw yn ein canlyn ni A D Al. Tr. Gad. א B C D L Δ Ti. WH. Diw., ac ni a waharddasom iddo, am nad oedd yn ein canlyn ni. 39A'r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna weithred nerthol#9:39 Llyth.: gallu; yna gweithred nerthol. yn#9:39 Llyth.: ar: ar sail, o barch, o gariad, &c. fy enw i a all yn fuan roddi drygair i mi. 40Canys y neb nid yw i'n herbyn, o'n tu y mae. 41Canys pwy bynag a roddo i chwi i'w yfed gwpanaid o ddwfr yn#9:41 yn fy enw i א D Ti. yn [yr] enw A B C L Tr. Al. Diw. Felly, golyga yr ymadrodd: Yr hwn a roddo gwpanaid o ddwfr ar gyfrif yr enw a ddygwch, ar yr ystyriaeth eich bod yn perthyn i Grist. yr enw, sef o herwydd eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe o gwbl#9:41 Dau negydd yn y Groeg yn cryfhâu y dywediad. ei wobr. 42A phwy bynag a rwystro#9:42 a faglo, a achoso dramgwydd, a achlysuro dripio. un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof#9:42 ynof fi A B Tr. Diw. Gad. א Δ Al. Ti. WH. fi, gwell#9:42 Llyth.: da hytrach. yw iddo pe rhoddid maen#9:42 Llyth.: maen melin a droid gan asyn, ac felly yn llawer mwy a thrymach na'r maen a droïd gan wragedd yn y Dwyrain.#9:42 maen melin (o Luc 17:3); maen mawr melin [Llyth.: maen a droid gan asyn] א B C D Brnd. mawr melin am ei wddf, a'i daflu#9:42 Llyth.: a'i fod wedi ei daflu i'r môr. i'r môr. 43Ac os dy law a'th rwystra#9:43 a faglo, a achoso dramgwydd, a achlysuro dripio., tôr hi ymaith: gwell#9:43 Llyth.: da. i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag â dwy law genyt fyned ymaith i Gehenna#9:43 Gweler Mat 5:22., i'r tân anniffoddadwy. 44#9:44 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd. A D La. [Tr.] Al. (o adnod 48). Gad. א B C L Δ Ti. WH. Diw. 45Ac os dy droed a'th rwystra#9:45 a faglo, a achoso dramgwydd, a achlysuro dripio., tor hi ymaith: gwell#9:45 Llyth.: da. yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dwy droed genyt dy daflu i Gehenna#9:45 Gweler Mat 5:22.#9:45 i'r tân anniffoddadwy A D La. Al. Gad. א B C L Ti. Tr. WH. Diw.. 46#9:46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd. A D La. [Tr.] Al. (o adnod 48). Gad. א B C L Δ Ti. WH. Diw. 47Ac os dy lygad a'th rwystra#9:47 a faglo, a achoso dramgwydd, a achlysuro dripio., tyn#9:47 Llyth.: bwrw ef allan. ef allan: gwell#9:47 Llyth.: da. i ti fyned i mewn i Deyrnas Dduw yn un‐llygeidiog, nag â dau lygad genyt dy daflu i Gehenna#9:47 Gweler Mat 5:22.; 48lle nid yw eu pryf hwynt yn marw#9:48 Llyth.: yn dyfod i derfyn., na'r tân yn diffodd#Es 66:24. 49Canys pob un a helltir â thân#9:49 “Un o'r ymadroddion mwyaf dyrys yn y Beibl.” Golyga “pob un,” nid yn gymmaint yr anghredadyn, “yr hwn a helltir â thân y farn;” ond y credadyn, yr hwn a helltir (h. y., a gedwir yn bur rhag llygredigaeth, a bywyd yr hwn a arosa yn bersawrus) drwy dân poenus ond purol yspryd ymdrechgar hunan‐aberthol, yr hwn dân a gyneuir gan Yspryd Duw, ac a sycha i fyny ac a farweiddia chwantau y cnawd.#9:49 a phob aberth a helltir â halen [Lef 2:13] A C D (a'r rhan fwyaf o'r cyfieithiadau) La. [Tr.] Al. Gad. א B L Δ Ti. WH. Diw.. 50Da yw yr halen: ond os a yr halen yn ddihallt, â pha beth y pereiddiwch#9:50 Neu, y tymherwch. ef? Bydded fod genych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn â'ch gilydd.
Dewis Presennol:
Marc 9: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.