Marc 12
12
Dammeg y llafurwyr drwg
[Mat 21:33–46; Luc 20:9–19]
1Ac efe a ddechreuodd lefaru wrthynt mewn dammegion: Gwr a blanodd winllan, ac a ddododd gae#12:1 Neu, glawdd. o'i hamgylch, ac a gloddiodd win‐gafn#12:1 Hupolênion [hupo, dan; lênon, gwin‐wasg]. Y llestr neu y derbynle a dorid allan mewn craig i dderbyn y gwin o'r gwin‐wasg. Ni ddefnyddir y gair ond yma yn y T. N., ac a adeiladodd dŵr, ac a'i rhoddodd allan i lafurwyr#12:1 Llyth.: trinwyr y tir., ac a aeth oddi cartref#12:1 Llyth.: ac a aeth oddiwrth ei bobl ei hun.. 2Ac efe a anfonodd at y llafurwyr, yn y tymhor, ei was#12:2 Llyth.: caethwas., fel y derbyniai oddiwrth y llafurwyr o ffrwythau#12:2 ffrwythau א B C L Brnd.: ffrwyth A D. y winllan. 3A hwy a'i daliasant, ac a'i curasant, ac a'i danfonasant ymaith yn wag. 4A thrachefn yr anfonodd efe atynt was#12:4 Llyth.: caethwas. arall#12:4 ac at hwnw y taflasant geryg A C X; gad. א B D L Brnd., a hwy a archollasant ei ben, ac a'i anmharchasant#12:4 ac a'i gyrasant ymaith yn anmharchus A C; ac a'i anmharchasant א B D L Brnd.. 5Ac efe#12:5 thrachefn A X; gad. א B C D L Brnd. a anfonodd un arall; a hwnw hwy a laddasant: a llawer eraill; gan guro rhai, a lladd y lleill. 6Yr oedd ganddo eto un mab, ei anwylyd: efe a'i danfonodd ef atynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant#12:6 Llyth.: hwy a droant arnynt eu hunain, h. y. hwy a deimlant gywilydd; yna hwy a ymddygant yn wylaidd neu yn barchus. fy mab i. 7Ond y llafurwyr hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a'n heiddo ni fydd yr etifeddiaeth. 8A hwy a'i daliasant, ac a'i lladdasant, ac a'i bwriasant allan o'r winllan. 9Beth gan hyny a wna Arglwydd y winllan? Efe a ddaw, ac a ddyfetha y llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill. 10Ai ni ddarllenasoch yr Ysgrythyr hon, —
Y maen a wrthododd#12:10 Llyth.: a anghymeradwyodd. yr adeiladwyr, —
Hwn a wnaed yn ben congl:
11O'r Arglwydd y bu#12:11 Neu, y daeth. hyn#12:11 Y mae y gwreiddiol am hyn yn y rhyw fenywaidd. Tybia rhai ei fod yn cyfeirio at, ac yn cyduno â'r gair pen; ond, yn fwy tebyg, ei ystyr yw, y peth hwn.,
A rhyfedd yw yn ein golwg ni?#Salm 118:22, 23.
12Ac yr oeddynt yn ceisio ei ddal ef; ac a ofnasant y dyrfa; canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y llefarodd efe y ddammeg: a hwy a'i gadawsant ef, ac a aethant ymaith.
Eiddo Cesar ac eiddo Duw
[Mat 22:15–22; Luc 20:20–26]
13Ac y maent yn danfon ato rai o'r Phariseaid ac o'r Herodianiaid, fel y rhwydent#12:13 dal, maglu (yn enwedig anifeiliaid gwylltion; o agra, helwriaeth.) ef drwy ei ymadrodd. 14Ac wedi eu dyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Athraw, ni a wyddom dy fod di yn ddidwyll#12:14 Llyth.: gwirioneddol, gonest, geirwir., ac nad wyt yn gofalu rhag neb; canys nid wyt ti yn edrych ar#12:14 Llyth.: i. wyneb dynion; ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn#12:14 Llyth.: ar, ar sylfaen gwirionedd. gwirionedd: Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged#12:14 kênsos, treth a osodid ar unigolion, ac a delid yn flynyddol. i Cesar, ai nid yw? 15A roddwn ni, ai ni roddwn? Ond efe yn gwybod eu rhagrith#12:15 Neu, ddrygioni, annuwioldeb. hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? Dygwch i mi ddenarion#12:15 Gweler Mat 18:28., fel ei gwelwyf. 16A hwy a'i dygasant. Ac efe a ddywed wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r darlleniad? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar. 17A'r Iesu a#12:17 a ddywedodd א B C L Δ Brnd.; a atebodd ac a ddywedodd A X. ddywedodd wrthynt, Talwch eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu#12:17 rhyfeddu yn ddirfawr א B Tr. Diw. rhyfeddu A C D Al. WH. yn ddirfawr a wnaethant.
Y Saduceaid a'r Adgyfodiad
[Mat 22:23–33; Luc 20:27–38]
18Ac y mae Saduceaid yn dyfod ato, y rhai a ddywedant nad oes Adgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd, 19Athraw#12:19 Neu, O Feistr., Moses a ysgrifenodd i ni,
O fydd marw brawd neb, a gadael#12:19 Kataleipo, gadael i lawr, gadael ar ol. gwraig ar ei ol, ac heb adael#12:19 Aphiêmi, anfon ymaith, taflu i fyny, gadael. plant, bydded i'w frawd gymmeryd ei#12:19 y wraig א B C L Δ Brnd. ei wraig A D. wraig, a chodi hâd i'w frawd#Deut 25:5.
20Yr oedd#12:20 gan hyny D. Gad. א B C L Brnd. saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig; a phan fu farw, ni adawodd#12:20 Aphiêmi, anfon ymaith, taflu i fyny, gadael. hâd. 21A'r ail a'i cymmerodd hi, ac a fu farw heb adael#12:21 Kataleipo, gadael i lawr, gadael ar ol.#12:21 gadael ar ol א B C L Brnd. gadael A D. hâd ar ei ol; a'r trydydd yr un modd. 22A'r saith#12:22 Felly א B C L Δ Brnd. A hwy a'i cymmerasant hi ill saith, ac adawsant hâd. D E. ni adawsant hâd. Yn ddiweddaf o'r oll bu farw y wraig hefyd. 23Yn yr Adgyfodiad#12:23 gan hyny A. Gad. א B C L Brnd., i#12:23 pan adgyfodant A X. Gad. א B C D L Brnd. ba un o honynt y bydd hi yn wraig? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig. 24A'r Iesu a#12:24 a ddywedodd א B C L Δ a atebodd ac a ddywedodd A X. ddywedodd wrthynt, Ai nid o herwydd hyn yr ydych yn cyfeiliorni#12:24 Llyth.: crwydro., sef, na wyddoch yr Ysgrythyrau, na gallu Duw? 25Canys pan adgyfodant o feirw, nid ydynt yn priodi, nac yn cael eu rhoddi mewn priodas#12:25 Llyth.: Yn cael eu priodi., ond y maent fel Angelion#12:25 angelion A C D Brnd. Yr angelion B.#12:25 y rhai ydynt A B Al. [Tr.] Gad. C D L Δ. yn y Nefoedd. 26Ond ynghylch y meirw, eu bod yn cael eu cyfodi, oni ddarllenasoch yn Llyfr Moses, yn yr adran am#12:26 Llyth.: Yn Llyfr Moses ar y Berth, h. y. y lle neu yr adran, lle y cyfeiria at y Berth [Gr. epi Batou]. Felly gelwir galarnad Dafydd ar ol Saul a Jonathan [2 Sam 1:17–27] y “Bwa,” ac Esec 1:15–28. Y “Cerbyd.” Gwel hefyd Rhuf 11:2, “am Elias.” y Berth, y#12:26 Felly א B C L Δ Brnd. Y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth A D. modd y llefarodd Duw wrtho, gan ddywedyd,
Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob#Ex 3:6.
27Nid yw efe Dduw rhai meirw, ond#12:27 ond Duw E. Gad. A B C D L X Δ Brnd. rhai byw. Yr ydych#12:27 gan hyny A D X. Gad. א B C L Δ Brnd. yn cyfeiliorni yn fawr.
Y Gorchymyn penaf
[Mat 22:34–40; Luc 20:39–40]
28Ac un o'r Ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn cyd‐ymholi, a gweled#12:28 gweled C D L Tr. gwybod A X Δ Al. iddo eu hateb yn dda, ac a ofynodd iddo, O ba natur yw y Gorchymyn Cyntaf o'r oll? 29A'r Iesu a atebodd iddo, y cyntaf yw#12:29 o'r holl orchymynion E F G H. Gad. א B L Δ Brnd.,
Clyw Israel!
Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw:
30A thi a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th#12:30 Llyth.: allan o'th. holl galon, ac â'th#12:30 Llyth.: allan o'th. holl enaid, ac â'th#12:30 Llyth.: allan o'th. holl feddwl, ac â'th holl nerth#Deut 6:4, 5.#12:30 Hwn yw y gorchymyn cyntaf A D X Tr. Gad. א B E L Al. WH. Diw.
31Yr ail#12:31 yw hwn א B L Δ Brnd. (ond Tr.); sydd gyffelyb iddo A X Tr. yw hwn
Ti a geri dy gymydog fel ti dy hun#Lef 19:18.
Mwy na'r rhai hyn nid oes orchymyn arall. 32A'r Ysgrifenydd a ddywedodd wrtho, Da, Athraw#12:32 Neu, O Feistr., mewn gwirionedd y dywedaist#12:32 Neu, mewn gwirionedd y dywedaist: canys Un yw efe. mai Un yw efe#12:32 mai Un yw א A B L Brnd. mai un Duw sydd E G H., ac nad oes arall heblaw efe; 33a'i garu ef â'r#12:33 Llyth.: allan o'th. holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth, a charu y cymydog fel efe ei hun, sydd lawer amgenach na'r holl boeth‐offrymau cyfain ac#12:33 [dim nodyn.] aberthau. 34A'r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddiwrth Deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb o hyn allan osod gofyniadau iddo.
Mab ac Arglwydd Dafydd
[Mat 22:41–46; Luc 20:41–44]
35A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, pan yn dysgu yn y Deml, Pa fodd y dywed yr Ysgrifenyddion fod y Crist yn fab Dafydd? 36Dafydd ei hun a ddywedodd yn yr Yspryd Glân:—
Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd,
Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion
Yn droedfainc i'th draed#Salm 110:1.
37Y mae Dafydd ei hun yn#12:37 gan hyny A X. Gad. א B D L Brnd. ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A'r dyrfa fawr#12:37 Llyth.: lawer; rhai a gyfieithant, a'r bobl gyffredin. a'i gwrandawent ef gydâ blas#12:37 Llyth.: gydâ melusder, yna, gydâ hyfrydwch..
Rhybudd yn erbyn balchder a ffug‐weddiau
[Mat 23:1–7; Luc 20:45–47]
38Ac yn ei ddysgeidiaeth efe a ddywedodd, Ymogelwch rhag yr Ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn llaes‐wisgoedd, a'r cyfarchiadau yn y marchnadoedd 39a'r prif‐gadeiriau yn y Synagogau, a'r prif‐eistedd‐leoedd yn y swperau. 40Y rhai sydd yn llwyr‐fwyta tai y gweddwon, ac mewn rhith yn hir‐weddio, — y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth lymach#12:40 Llyth.: helaethach..
Y weddw dlawd haelfrydig
[Luc 21:1–4]
41Ac efe#12:41 Yr Iesu A X. a eisteddodd gyferbyn a'r Drysorfa#12:41 Gazaphulakion, o Gaza, gair Persiaidd am Drysorfa frenhinol, a phulakê, y weithred o gadw neu wylio. Yr oedd yn nghynteddoedd y Deml dri ar ddeg o flychau pres, y rhai a elwid udgyrn, o herwydd eu ffurf, i dderbyn rhoddion y bobl., ac a ddaliodd sylw pa fodd yr oedd y dorf yn bwrw arian#12:41 Llyth.: Copr. i'r Drysorfa; a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. 42Ac un wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling#12:42 Gr. lepton, y darn lleiaf o arian yn mhlith yr Iuddewon, gwerth tua haner ein hatling ni., yr hyn yw ffyrling. 43A'r Iesu a alwodd ei Ddysgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na'r rhai oll a fwriant#12:43 a fwriant, Yr holl brif‐law, a'r Brnd. i'r Drysorfa. 44Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant i mewn o'u gor‐lawnder sydd ganddynt; ond hon o'i hangen a fwriodd i mewn yr oll, pa beth bynag a feddai, ei holl gynaliaeth.
Dewis Presennol:
Marc 12: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.