Matthew 24
24
Rhagfynegu Dinystr y Deml a'r rhagarwyddion
[Marc 13:1–13; Luc 21:5–19]
1A'r Iesu gan ddyfod allan oedd yn myned ymaith oddiwrth y Deml: a'i Ddysgyblion a ddaethant i ddangos iddo adeiladau y Deml. 2Ac#24:2 Iesu C X.; Gad. א B D L Brnd. Efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni#24:2 Felly א B C Brnd.; a welwch, &c., D L X. welwch chwi y rhai hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, ni adewir yma garreg ar garreg a'r ni ddattodir.
Arwyddion Cyffredinol.
3Ac Efe yn eistedd ar fynydd yr Olew‐wydd, y Dysgyblion a ddaethant ato o'r neilldu, gan ddywedyd, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? A pha beth fydd arwydd dy Ddyfodiad#24:3 Parousia. Llyth., presennoldeb (2 Cor 10:10); yna presennoldeb un sydd yn dyfod, felly dyfodiad (1 Cor 16:17). Yn y T.N., fel rheol, dynoda Ddychweliad Crist o'r Nefoedd i godi'r meirw, &c. (1 Thess 3:13; 4:15; 5:23, &c.). ac o Ddiwedd y byd#24:3 Neu orpheniad yr oes (Aiôn, oes, byd, gweler Mat 12:32).? 4A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch na fyddo i neb eich camarwain chwi. 5Canys llawer a ddeuant yn#24:5 Llyth., “Ar fy enw I,” gan wneyd defnydd o fy enw fel sylfaen i'w ymhoniadau. fy Enw I, gan ddywedyd, Myfi yw y Crist, ac a gamarweiniant laweroedd. 6A bydd i chwi glywed am ryfeloedd a son#24:6 Throos, dadwrdd, crochlefain, cri a beri ddychryn. am ryfeloedd: edrychwch#24:6 Edrychwch i fyny [byddwch wyliadwrus, ond na ddychryner chwi.], na ddychryner chwi, canys rhaid iddynt#24:6 Oll C.; Gad. א B D L Brnd. fod, ond nid yw y diwedd etto.
7Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newynoedd#24:7 A pläau [loimoi, nodau, heintiau,] C.; Gad. א B D Brnd.; pläau a newynoedd L., a daeargrynfeydd mewn amryw fanau#24:7 Kata topous, “ar hyd manau,” “yma a thraw.”. 8Y pethau hyn oll ydynt ddechreuad gwewyr esgor#24:8 Nid gofidau (gweler 1 Thess 5:2), “Nid yw yr holl bethau hyn ond arwydd o adenedigaeth, o amser gwell. Marwolaeth yr Hen Oruchwyliaeth yw adeg genedigaeth y Newydd.”. 9Yna y'ch traddodant chwi i orthrymder, ac a'ch lladdant; a chwi a gasheir gan yr holl genedloedd o herwydd fy enw I. 10Ac yna y rhwystrir#24:10 Y meglir, y tramgwydda, y llithra, gweler Mat 5:29. llawer, ac a draddodant i fyny eu gilydd, ac a gashant eu gilydd. 11A gau-broffwydi lawer a godant ac a gamarweiniant lawer. 12Ac o herwydd yr amlha annghyfiawnder#24:12 Llyth., annghyfreithder (tor cyfraith)., fe oera#24:12 Oeri drwy chwythu arno. cariad y llaweroedd#24:12 Neu y mwyrif.. 13Ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig. 14Ac Efengyl hon#24:14 Sef yr hyn a gynnwysir yn adn. 13. y Deyrnas a bregethir yn yr holl fyd preswyliedig, er tystiolaeth i'r holl genedloedd; ac yna y daw y diwedd.
Arwyddion neillduol: Dinystr Jerusalem
[Marc 13:14–23; Luc 21:20–24]
15Pan gan hyny y gwelwch ffieiddbeth#24:15 Bdelugma, ffieiddbeth o herwydd ei ddrygsawr. Defnyddir y gair yn enwedig am eilunod ac eilunaddoliaeth (1 Br 11:6; Dad 17:4). Lled debyg y cyfeirir yma at ryw ddygwyddiad yn yr hwn yr halogwyd y Deml, megys (1) presennoldeb yr Eryrod Rhufeinig, neu (2) cerflun Titus a osodwyd yno, neu (3) y cerflun Ymherodrol a osododd Pilat i fyny, neu (4) ymddygiad gwarthus y Zelotiaid. yr annghyfannedd-dra#Dan 9:27; 11:31; 12:11 a ddywedwyd trwy Daniel y Proffwyd, yn sefyll yn y lle Sanctaidd (y neb a ddarlleno, ystyried#24:15 Neu dealled.). 16Yna y rhai a fyddant yn Judea, bydded iddynt ffoi i'r mynyddoedd#24:16 Sef Mynyddoedd Peraea.. 17Yr hwn a fyddo ar nen‐y‐tŷ, na ddisgyned i gymmeryd y#24:17 Y pethau B L Z Brnd.; unrhyw beth D.; peth א. pethau allan o'i dy. 18A'r hwn fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei#24:18 Ei gochl א B D L Z Brnd.; ei ddillad Δ E. gochl#24:18 Neu fantell.. 19A gwae i'r beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronau, yn y dyddiau hyny. 20Ond gweddiwch fel na fyddo eich ffoedigaeth yn y Gauaf nac ar ddydd Sabbath. 21Canys y pryd hwnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni fu o ddechreu y byd hyd yn awr, ac ni fydd chwaith#Dan 12:1. 22A phe na fyrhawyd y dyddiau hyny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll; ond er mwyn yr Etholedigion, fe fyrheir y dyddiau hyny.
Yr hyn a ddygwydd rhwng Dinystr Jerusalem a'r Farn Olaf.
23Yna os dywed neb wrthych, Wele, yma y mae y Crist, neu, Yma, na chredwch. 24Canys cyfyd gau‐Gristiau a gau-broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, fel ag i gamarwain, os yn bosibl, hyd y nod yr Etholedigion. 25Wele, yr wyf wedi rhagfynegu i chwi. 26Am hyny, os dywedant wrthych, Wele, y mae Efe yn y Diffaethwch, nac ewch allan; Wele, yn yr ystafelloedd#24:26 Tameion, ystorfa, yna ystafell, yn enwedig ystafell fewnol neu ddirgel. dirgel, na chredwch. 27Canys fel y daw y fellten allan o'r Dwyrain, ac a welir#24:27 Neu a oleua. hyd y Gorllewin; felly#24:27 Hefyd Δ; Gad. א B Brnd. y bydd Dyfodiad Mab y Dyn. 28Pa#24:28 Canys Δ E; Gad. א B D L Brnd. le bynag bydd y gelain, yno yr ymgasgl yr Eryrod.
Diwedd y Byd
[Marc 13:24–31; Luc 21:25–33]
29Yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hyny, yr haul a dywyllir, a'r lleuad ni rydd ei llewyrch; a'r sêr a syrthiant o'r Nef, a galluoedd y Nefoedd a ysgydwir. 30Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y Nef: ac yna y galara#24:30 Llyth., “Ac yna holl lwythau y ddaear a gurant eu bronau.” holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y Dyn yn dyfod ar gymmylau y Nef, gyda gallu a gogoniant mawr. 31Ac Efe a ddenfyn ei Angelion gydag udgorn#24:31 Udgorn o sain uchel [neu sain mawr udgorn] B X. Tr. Al. WH. Diw.; udgorn mawr א L Δ Ti. o sain uchel, a hwy a gasglant ei Etholedigion ef o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y Nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt#Es 34:4; Dan 7:13.
Sydynrwydd y Farn.
32Ond dysgwch y ddammeg oddiwrth y ffigysbren: Pan yw ei gangen eisioes yn dyner, ac yn bwrw allan ddail, chwi a wyddoch fod yr Haf yn agos. 33Felly chwithau hefyd, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. 34Yn wir meddaf i chwi, Nid ä y genedlaeth hon heibio ddim hyd oni wneler hyn oll. 35Y Nef a'r ddaear a ânt heibio, ond fy ngeiriau I nid ânt heibio ddim. 36Ond am y dydd hwnw a'r awr nis gŵyr neb, nac Angelion y Nefoedd, na'r#24:36 Na'r Mab א B D Brnd. ond Tr. Mab#24:36 Meddylia rhai i'r ymadrodd gael ei ddwyn i fewn o Marc 13:32., ond y#24:36 Y Tad א B D L Brnd.; fy Nhad E. Tad yn unig. 37Canys#24:37 Canys B D La. Tr. WH.; ac א L Δ Al. Ti. Diw. fel yr oedd dyddiau Noah#Gen 7, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn. 38Canys fel yr oeddent yn y dyddiau [hyny#24:38 [Hyny] B D La. [Tr.] [WH.] Diw.; Gad. א L Ti. Al.] o flaen y Diluw, yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noah i fewn i'r Arch, 39ac ni wybuant hyd oni ddaeth y Diluw a'u cymmeryd#24:39 Llyth., eu cymmeryd i fyny; h.y., gan y dyfroedd chwyddedig. hwynt oll ymaith, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn. 40Yna y bydd dau yn y maes: un#24:40 Un [heis] א B D L Brnd.; y naill [ho heis] E. a gymmerir#24:40 Llyth., a gymmerir at (un arall). Yma yn debyg at ei Arglwydd. Gweler Ioan 14:3, “A'ch cymmeraf ataf fy hun.” ac un#24:40 Un [heis] א B D L Brnd.; y naill [ho heis] E. a adewir. 41Dwy yn malu wrth y maen melin: un a gymmerir ac un a adewir. 42Gwyliwch gan hyny, canys ni wyddoch ar ba ddydd#24:42 Ddydd א B D Δ Brnd.; awr L. y mae eich Arglwydd yn dyfod. 43Eithr gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gwr y ty ar ba wyliadwriaeth y mae y lleidr yn dyfod, efe a wyliasai, ac ni oddefasai i'w dy gael ei gloddio trwodd. 44O herwydd hyn, byddwch chwithau hefyd barod, canys yn yr awr ni thybioch y mae Mab y Dyn yn dyfod.
Y ddyledswydd o ffyddlondeb.
[Luc 12:41–46]
45Pwy gan hyny yw y gwas ffyddlawn a doeth#24:45 Phronimos, call, synwyrol, pwyllog., yr hwn a osododd ei arglwydd dros ei wasanaethyddion#24:45 Wasanaethyddion [oiketeia, corff o wasanaethyddion] B L Δ Brnd.; weision [therapeia], [gweinyddwyr] D.; dŷ א, i roddi iddynt fwyd#24:45 Llyth., y bwyd neu gynnaliaeth, yr hyn sydd ddigonol a phriodol. mewn pryd? 46Dedwydd fydd y gwas hwnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly. 47Yn wir meddaf i chwi, Dros ei holl feddiannau y gesyd efe ef. 48Ond os dywed y gwas drwg hwnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi#24:48 Dyfod C D.; Gad. א B Brnd.; 49a dechreu curo ei gydweision#24:49 Mae y gair gwas neu gweision yma yn dynodi caethwas, caethweision., a bwyta ac yfed gyda'r meddwon, 50arglwydd y gwas hwnw a ddaw mewn dydd nad yw efe yn ei ddysgwyl, ac mewn awr nis gŵyr efe; 51ac a'i fflangella yn erwin#24:51 Dichotomeô, tori yn ddau, hollti. Y mae yma gyfeiriad naill ai at y gosp greulon o dori y troseddwyr yn ddau â llif, cleddyf, &c., neu at dori eu cnawd drwy fflangellu, &c., ac a esyd ei ran ef gyda'r rhagrithwyr#24:51 Neu, drygionus., yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.
Dewis Presennol:
Matthew 24: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.