Canys fel yr oedd dyddiau Noah, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn. Canys fel yr oeddent yn y dyddiau [hyny] o flaen y Diluw, yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noah i fewn i'r Arch, ac ni wybuant hyd oni ddaeth y Diluw a'u cymmeryd hwynt oll ymaith, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn.