Ioan 9
9
Dyn Dall o'i enedigaeth yn cael ei olwg.
1Ac wrth fyned heibio, efe a welodd ddyn dall o'i enedigaeth. 2A'i Ddysgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn#9:2 ai hwn? Sut yr oedd ef wedi pechu cyn ei enedigaeth? Y mae olion mewn Iuddewiaeth ddiweddar o grediniaeth yn rhag‐fodolaeth neu trawsfudiad eneidiau., ai ei rieni, fel y ganwyd ef yn ddall? 3Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith: ond ganwyd ef yn ddall fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. 4Rhaid i ni#9:4 i ni א B D L Ti. Tr. WH. Diw.: i mi A C X La. Al. weithio gweithredoedd yr hwn a'm#9:4 a'm hanfonodd i A B C D Brnd. ond Ti. a'n hanfonodd ni א L Ti. hanfonodd i#9:4 Y mae Crist yn ystyried ei hun yn un â'r Dysgyblion yn y gwaith o droi y byd at Dduw, ond yn gwahanu ei hun oddi wrthynt yn y genadaeth a dderbyniodd oddi wrth y Tâd: y maent yn un yn gwynebu ar y byd; y maent yn ddau yn eu perthynas â Duw: “Fy Nhâd i a'ch Tâd chwithau,” &c., tra yr ydyw hi yn ddydd: dyfod y mae nos pan na ddichon neb weithio. 5Pa bryd bynag#9:5 Golyga hotan nid cyhyd ag, tra, ond pa bryd bynag. Gwna hyn y frawddeg yn gynwysfawr a'r dadganiad yn bell‐gyrhaeddol. Crist cyn ei Ymgnawdoliad fel Jehofa yr Hen Destament, ar ol ei Ymgnawdoliad hyd ei Esgyniad, ac o hyny hyd yn awr drwy bresenoldeb a gweithrediadau ei Yspryd, — efe yw Goleuni y byd. yr wyf yn y byd, yr wyf Oleuni#9:5 Nid yw y frawddeg hon yn hollol yr un â'r dadganiad nodedig yn 8:2. Yma y mae y fannod yn absenol, a thynir sylw, nid yn gymaint at ei Berson Dwyfol ag at ei waith yn rhoddi goleuni i'r byd trwy amlygu ei hun trwy eraill hefyd. i'r byd. 6Wedi iddo ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai#9:6 neu bridd gwlyb. o'r poeryn, ac a eneiniodd#9:6 Felly א A D L Brnd.; a osododd B C. ei#9:6 ei glai ef [neu. y clai o hono, sef, o'r hyn a wnaeth yn glai] א A B L Brnd. glai ef ar y llygaid#9:6 y dall A C. Gad. א B L Brnd., 7ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, ac ymolch#9:7 Sef golch ymaith y clai, neu dy lygaid. Golyga niptô golchi rhan o'r corff (11:15; 13:5–14; Mat 6:17; 15:2; Marc 7:3; 1 Tim 5:10). Louô yw y ferf a ddynoda golchi yr holl gorff (13:10; Act 9:37; Heb 10:22; 2 Petr 2:22; Dad 1:5). Baptizô a ddefnyddir am dansuddo mewn ystyr grefyddol, a plunô am olchi pethau difywyd. yn Llyn Siloam#9:7 Neu, Dos ymaith i Lyn Siloam, ac ymolch. (yr hyn a gyfieithir, Anfonedig#9:7 Heb. Shiloach, anfonedig. Yr oedd Bryn y Deml yn anfon allan ffrydlif o ddwfr. Felly yr oedd y darddell neu y llyn yn arwyddlun o Grist, Anfonedig y Tâd [Gweler Neh 3:15; Es 8:6].). Efe a aeth ymaith gan hyny, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.
Ei gyfaddefiad.
8Gan hyny ei gymydogion a'r rhai oeddynt yn dal sylw arno o'r blaen ei fod#9:8 Neu oblegyd ei fod. yn gardotyn#9:8 gardotyn א A B C D K L X Brnd. ddall C3., a ddywedasant, Onid hwn yw yr un sydd yn eistedd ac yn cardota? 9Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe; eraill a#9:9 a ddywedasant, Nag ê א B C L X. Gad. A D. ddywedasant, Nag ê, ond y mae yn debyg iddo: yntau a ddywedodd, Myfi yw. 10Gan hyny hwy a ddywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di? 11Ac efe a atebodd#9:11 ac a ddywedodd A X Δ. Gad. א B C D L Brnd., Y#9:11 Y dyn א B L. Dyn A D. dyn a elwir Iesu a wnaeth glai, ac a eneiniodd fy llygaid i, ac a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith i Siloam#9:11 i Lyn A. Gad. א B D L X., ac ymolch. Wedi myned ymaith gan hyny ac ymolch mi a dderbyniais fy ngolwg#9:11 Llyth.: mi a edrychais i fyny.. 12A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Y mae efe yn dywedyd, Ni wn i.
Ei holiad gan y Phariseaid.
13Y maent yn ei ddwyn ef at y Phariseaid, sef, yr hwn oedd gynt yn ddall. 14Ac yr oedd yn Sabbath ar#9:14 ar y dydd א B L X Brnd.; pan A D. y dydd pan wnaeth yr Iesu y clai, ac yr agorodd ei lygaid ef. 15Gan hyny y Phariseaid hefyd oeddynt yn gofyn iddo drachefn, pa fodd y derbyniodd ei olwg. Ond efe a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled. 16Gan hyny dywedodd rhai o'r Phariseaid, Nid yw y dyn hwn oddiwrth Dduw, canys nid yw yn cadw y Sabbath#9:16 Yr oedd yn ddywediad nad ydoedd gyfreithlawn i osod poeryn ympryd ar y llygaid ar y dydd Sabbath.. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymraniad yn eu plith. 17Y maent yn dywedyd gan#9:17 gan hyny א A B D L X. Gad. E. hyny drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am dano ef? oblegyd#9:17 Neu, gan iddo agoryd dy lygaid. efe a agorodd dy lygaid di. Ac efe a ddywedodd, Proffwyd yw.
Holiad ei rieni.
18Yr Iuddewon gan hyny ni chredasant am dano ef, mai dall fuasai, a derbyn o hono ei olwg, hyd nes galw o honynt rïeni y dyn ei hun a dderbyniasai ei olwg. 19A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? Pa fodd gan hyny y mae efe yn gweled yn awr? 20Ei rïeni ef a atebasant ac a ddywedasant#9:20 wrthynt A D. Gad. א B L X Brnd., Nyni a wyddom mai ein mab yw hwn, ac mai yn ddall y ganwyd ef. 21Ond pa fodd y mae efe yn awr yn gweled, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid, nis gwyddom ni: gofynwch#9:21 Felly B D L X: y mae efe o oedran; gofynwch iddo ef ei hun A. Gadewir allan yn א gofynwch iddo ef. iddo ef ei hun; y mae efe o oedran: efe ei hun a lefara am dano ei hun. 22Y pethau hyn a ddywedodd ei rïeni ef, am eu bod yn ofni yr Iuddewon: canys yr oedd yr Iuddewon wedi gwneyd cytundeb#9:22 Suntithemi, llyth.: gosod yn nghyd, yna, cynllwyn, cytuno, penderfynu. Defnyddir y gair dair gwaith yn y T. N. — am y cytundeb a wnaeth y Iuddewon â Judas (Luc 22:5); a chytundeb yr Iuddewon i ladd Paul (Act 23:20). eisioes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y byddai yn esgymunedig o'r Synagog#9:22 aposunagogos, llyth.: o'r Synagog. Yr oedd tri gradd yn yr esgymuno: (1) cau allan o'r teulu a'r Synagog am ddeg niwrnod ar hugain, heb gyhoeddi melldith, (2) estynid yr amser, a chyhoeddid Melldith ar yr esgymunedig, (3) esgymunid am byth o gymdeithas ac o bob gwasanaeth addoliad. Efallai mai y cyntaf a olygir yma. Gellid galw y tri Esgymuniad, y Rhybudd, y Felldith, a'r Gwahaniad.: 23o herwydd hyn ei rieni efe a ddywedasant, Y mae efe o oedran; gofynwch iddo ef.
Ei‐groes‐holiad a'i esgymuniad.
24Gan hyny hwy a#9:24 Felly א B D L; a alwasant yr ail waith A X. alwasant y dyn yr ail waith, sef yr hwn a fuasai ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro y gogoniant i Dduw#9:24 Ffordd ddifrifol i roddi dyn ar ei lw (Gweler Jos 7:19; 1 Sam 6:5; Jer 13:16). ‘Dyro y gogoniant i Dduw trwy ddywedyd y gwirionedd.’: nyni a wyddom mai pechadur yw y dyn hwn. 25Efe gan hyny a atebodd#9:25 ac a ddywedodd E X Δ; gad. א A B D L Brnd., Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, fy mod i, ddyn dall, yn awr yn gweled. 26Gan#9:26 Gan hyny B D K L X. hyny hwy a ddywedasant wrtho#9:26 drachefn A; gad. א B D., Beth a wnaeth efe i ti? Pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di? 27Efe a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisioes, ac ni wrandawsoch#9:27 Neu, ac oni chlywsoch?; paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? A ydych chwithau hefyd#9:27 “fel y rhai sydd yn ei ganlyn yn barod,” ac nid “fel myfi.” yn ewyllysio bod yn ddysgyblion iddo ef? 28A hwy a'i difenwasant, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddysgybl iddo ef; ond nyni ydym ddysgyblion Moses. 29Yr ydym yn gwybod fod Duw wedi llefaru#9:29 “ac y mae y geiriau a lefarodd wrtho wyneb yn wyneb yn aros yn eu grym hyd heddyw” Ex 23:11. wrth Moses; ond hwn, nis gwyddom o ba le y mae. 30Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Wel#9:30 Gr. gar, Yn sicr! Yn wir! Beth!! yn hyn y mae y#9:30 rhyfeddod A D Al. y rhyfeddod א B L Ti. Tr. WH. Diw. rhyfeddod! na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac eto efe a agorodd fy llygaid i. 31Ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid#Salm 66:18; ond os yw neb yn addolwr Duw#9:31 Gr. theosebês, addolwr Duw, duwiol‐frydig; theosebeia, duwioldeb, parchedig ofn, 1 Tim 2:10. [Yma yn unig yn y T. N.], ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnw y mae yn ei wrando. 32O'r Dechreuad#9:32 ek aiônos, o'r oes, yna, o'r oes ddiddechreu, o'r Dechreuad. Golyga eis aiôna, i dragywyddoldeb.; felly ek aiônos, o dragywyddoldeb. Yma yn unig yn y T. N. Col 1:26 “O amseroedd tragywyddol.” ni chlybuwyd i neb agor llygaid yr hwn a anesid yn ddall#9:32 Nid oes hanes am roddi llygaid i ddeillion yn yr Hen Destament.. 33Oni bai fod hwn oddi wrth Dduw, ni allai efe wneuthur dim. 34Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti yn gyfan‐gwbl, ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a'i bwriasant ef allan#9:34 H. Y. hwy a'i hesgymunasant ef..
Ei dderbyniad gan Crist.
35Yr Iesu a glybu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan; a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu yn Mab#9:35 Mab y Dyn א B D Ti. WH.; Mab Duw A L Δ Tr. Al. La. Diw. [Y mae yn fwy tebygol i Mab y Dyn i gael ei gyfnewd i Mab Duw na'r gwrth wyneb. Gwel Canonau Beirniadaeth Destynol.] y Dyn? 36Yntau a atebodd ac a ddywedodd, A phwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo? 37Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt hyd y nod wedi ei weled, a'r hwn sydd yn ymddiddan#9:37 Laleô, siarad, ymddiddan, mewn modd isel a chartrefol. â thi, hwnw yn efe#9:37 Dadguddiodd Crist ei hun fel y Messïa i ddau esgymunedig (y Wraig o Samaria, yr esgymunedig o'r Genedl, a hwn, yr esgymunedig o'r Synagog) fel na wnaeth i neb arall. Gweler 4:6. 38Ac efe a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a'i haddolodd ef.
Cosp Phariseaid anghrediniol.
39A'r Iesu a ddywedodd, I farn#9:39 krima (yma yn unig yn Efengyl Ioan) a ddynoda barn fel effaith, ac nid barn (krisis) fel gweithred. Dyben ei ddyfodiad oedd achub, ond canlyniad ei ddyfodiad oedd gwahanu dynolryw i gredinwyr ac anghredinwyr, ac y mae y gwahaniad mewn effaith yn farn. y daethum i'r byd hwn, fel y gwelai y rhai nad ydynt yn gweled, ac fel yr elai y rhai sydd yn gweled yn ddeillion. 40Hwy o'r Phariseaid a oedd gyd âg ef a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, A ydym ni hefyd yn ddeillion? 41Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe fyddech ddeillion, ni fuasai arnoch bechod; ond yn awr yr ydych yn dywedyd, Yr ydym yn gweled: y#9:41 gan hyny A Γ Δ La. Gad. א B D L Brnd. ond La. mae eich pechod yn aros.
Dewis Presennol:
Ioan 9: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.