Doethineb 4
4
PEN. IIII
Clôd y duwiol, ai diwedd: 19 Diwedd yr annuwiol.
1Gwell yw bod heb plant yn rhinweddol, o blegit tragywyddol fydd y coffa am hynny, ac hyspys fydd i Dduw a dynion.
2Dilynant hi pan fyddo presennol, a dymunant hi pan elo ymmaith, y mae hi yn gorfoleddu wedi ei choroni byth am ennill o honi hi gynglwyst dihalogedig wobr.
3Eithr tŷlwythoc dyrfa yr annuwiol ni bydd fuddiol, m ddwfn-wreiddia ychwaith yr hon sydd yn dyfod o blanhigion bastardaidd, ac ni seilir hi yn siccr.
4O blegit er iddi dyfu dros amser yn wrysc, #Math.7.19.gwynt ai symmud hwynt pan fyddant yn tyfu yn weniaid, ac hi a ddiwreiddir gan chwyrnder y gwynt.
5Yr amherffaith ganghennau a dorrir, ai ffrwyth hwynt a fydd difudd, heb fod yn addfed iw fwyta, nac yn gymmwys i ddim.
6O herwydd y plant a genhedler yn y gwelŷ anheilwng a fyddant dystion o anwiredd yn erbyn eu rhieni pan holer hwynt.
7Eithr os diweddir y cyfiawn yn gynnar, efe a fydd mewn esmwythdra.
8O herwydd nid yr henaint hîr hoedloc sydd barchedic, na ’r hon a fesurir wrth rifedi blynyddoedd.
9Synnwyr sydd ben-llwydni i ddynion, a henaint oedranus yw buchedd ddihalog.
10Yr hwn a #Gen.5.24.|GEN 5:24. Hebr.11.5.oedd gû gan Dduw a hoffwyd: a’r hwn oedd yn byw ym mysc pechaduriaid a fudwyd ymmaith.
11Efe a gippiwyd ymmaith rhag i ddrygioni newidio ei feddwl, ac i dwyll dwyllo ei enaid ef.
12O blegit ofer raib a dywylla bethau da, ac anwadal chwant a symmud feddwl difalis.
13Er iddo ef ddiweddu yn fuan, efe a gyflawnodd hir amser.
14Canys cu oedd ei enaid ef gan yr Arglwydd: am hynny yr aeth efe ar frŷs o fysc drygioni.
15Y mae y bobl yn gweled ac heb ddeall, nac ystyried, fod gras a thrugaredd iw sainct ef, ac ymgeledd iw etholedigion ef.
16Pan fyddo y cyfiawn marw y mae efe yn rhoddi barn yn erbyn y rhai annuwiol byw: felly y mae yr ieuenctid a ddiweddir yn fuan yn erbyn hir hoedloc henaint yr anghyfiawn.
17O blegit hwy a gânt weled diwedd y doeth, ac ni feddyliant beth a amcanâsant iddo ef, ac i ba beth y cadwodd yr Arglwydd ef yn ddiogel.
18Gwelant a diystyrant, eithr yr Arglwydd [ai] gwatwar [hwynt.]
19Wedi hyn hwy a syrthiant yn amharchedic, ac yn wradwyddus ym mysc y meirw byth, efe ai dryllia hwynt i lawr yn ddidrwst, ac ai sigl hwynt o’r sylfaen, hwy a anrheithir hyd yr eithaf, ac a fyddant mewn gofid, ai coffadwriaeth hwynt a ddifethir.
20Hwynt a ddeuant yn ofnus trwy feddwl am eu pechodau, ai hanwireddau ai ceryddant hwynt o flaen [eu hwynebau.]
Dewis Presennol:
Doethineb 4: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.