Doethineb 3
3
PEN. III.
Diogelwch y duwiol 11 a thrueni yr annuwiol.
1Eithr y mae#Deut.33.3.eneidiau y rhai cyfiawn yn llaw Dduw, ac ni chyffwrdd cystudd â hwynt.
2Y#Pen.5.4.rhai angall oeddynt yn tybied eu bod hwynt yn meirw: niweidiol hefyd y cyfrifyd eu diwedd hwynt,
3Ai mynediad oddi wrthym ni yn ddinistr: eithr y maent hwy mewn heddwch.
4O blegit er eu cystuddio hwynt yng-olwg dynion, y #Rhuf.8.24. 2.Cor.5.1. 1.Pet.1.13.mae eu gobaith yn llawn tragywyddoldeb.
5Ac lle y cospir hwynt ychydig, hwynt a gânt lawer o fudd: #Exod.16.4. Deut.8.2.o blegit Duw sydd yn eu profi hwynt, ac yn eu cael yn addas iddo ei hun.
6Y mae efe yn eu profi hwynt fel aur yn y ffwrn, ac yn eu derbyn hwynt fel perffeith ffrwyth aberth.
7Ac #Math.13.43.yn amser eu gofwy y discleiriant hwy, ac y rhedant fel gwreichion mewn sofl.
8Hwynt #Math.19.28. 1.Cor.6.2.a farnant genhedloedd, ac a lywodraethant bobloedd, ai Harglwydd hwynt a deyrnasa byth.
9Y rhai a ymddyriedant iddo ef a ddeallant y gwirionedd, a’r rhai ffyddlon mewn cariad a arhosant gyd ag ef: oblegit grâs a thrugaredd sydd yn ei sainct ef, ac fe a synnir ar ei etholedigion ef.
10Eithr #Math.25.41.yr annuwiol (fel y meddyliâsant) a gafant gospedigaeth, y rhai a ddiystyrasant y cyfiawn, ac a wrthodâsant yr Arglwydd.
11Annedwydd yw yr hwn a ddiystyro ddoethineb ac addysc: ac ofer yw eu gobaith: o blegit eu llafur a fydd ddiffrwyth, ai gwaith yn ddifudd.
12Eu gwragedd ydynt yn angall, ni plant yn ddrygionus.
13Melldigedic yw eu heppil hwynt. Canys dedwydd yw ’r amhlantadwy ddihalogedic yr hon ni phrofodd wely mewn pechod, hi #Esa.56.5.a gaiff ffrwyth pan ymweler a’r eneidiau.
14Felly yr dispaidd yr hwn ni wnelo anwiredd ai ddwylo, ac ni feddwl ddrygiom yn erbyn yr Arglwydd: canys iddo ef y rhoddir dewisol râd ffydd, a’r rhan gymeradwyaf yn nheml yr Arglwydd.
15Enwoc yw ffrwyth poen dda, a gwreiddin synnwyr yr hon ni ddiflanna.
16Eithr plant y godinebus fyddant ammherffaith, a’r hâd [a gaffer] o wely amwir a ddiwreiddir.
17O blegit os hir hoedloc fyddant ni wneir dim cyfrif o honynt hwy, ai henaint fydd amharchus yn y diwedd.
18Eithr os yn fuan y diweddir hwynt ni chânt obaith, na chyssur yn nydd cydnabyddiaeth.
19O blegit aruthrol fydd diwedd cenhedlaeth anghyfiawn.
Dewis Presennol:
Doethineb 3: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.