Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 8

8
PEN. VIII.
Y modd y mae i vn ein ymddwyn ei hun tu ag ar amryw fath a’r ddynion.
1Nac ymgynhenna â dŷn cadarn, rhag syrthio o honot ti yn ei law ef.
2 # Matth.5.25. Nac ymsywyn â dyn cyfoethog, rhag iddo roddi pwys i’th erbyn di.
3Oblegit #Pen.31.6.3aur a ddifethodd lawer, ac a ŵyrodd galonnau brenhinoedd.
4Nac ymgynhenna â gŵr siaradus, ac na osod goed ar ei dân ef.
5Na chware a’r annyscedig, rhag amherchi dy rieni di.
6 # Galath.6.1. Na ddannod i’r dŷn a drôdd oddi wrth bechod, cofia ein bod ni oll tan gerydd.
7Nac #Lefit.19.32.amharcha ddŷn yn ei henaint: canys y mae [rhai] o honom ninnau yn heneiddio.
8Na lawenycha am farw yr hwn sydd fwyaf gelyn i ti: cofia ein bod ni oll yn darfod.
9 # Pen.6.35. Na ddiystyra draethiad y doethion: eithr ymdroa di ym mysc eu diharebion hwynt.
10O blegit ganddynt hwy y dysci di addysc, a gwasanaethu pendefigion yn hawdd.
11Nag ymado a thraethiad henuriaid: o blegit hwynt hwy a ddyscasant gan eu tadau.
12Canys ganddynt hwy y dysci di ddeall, a rhoddi atteb pan fyddo rhaid.
13Na chynneu farwor pechadur, rhag dy losci yn ei flam dân ef.
14Na chyfot o flaen y trahaus, thag iddo eistedd fel cynllwyn yn erbyn dy enau.
15 # Pen.29.4. Na echwyna i ddŷn cryfach nâ thi, ac os echwyni bydd fel vn yn colli.
16Na fachnia am fwy nag a allech, ac os machnii, meddwl am dalu.
17Nag ymgyfreithia ag vstus, o blegit wrth ei feddwl ei hun y barnant hwy ef.
18Na #Gen.4.8.ddos ar hŷd y ffordd gyd a’r ffrom rhag iddo fod yn drwm wrthit ti, oblegit wrth ei ewyllys ei hun y gwna efe, a thrwy ei anghalli­neb ef y derfydd am danat tithe.
19 # Psal.22.24. Na wna gynnen a’r dillon, ac na ddos gyd ag ef i anialwch, felly diddim [y gwelid] gwaed yn ei olwg ef, ac efe a’th gwympe di yno lle nid oes help.
20Nac ymgynghora a’r ffôl, o herwydd ni all efe gelu [vn] gair.
21Na wna beth cyfrinachol o flaen y di­eithr: o blegit ni ŵyddost ti beth a escor efe.
22Na amlyga dy galon i bob dŷn, rhag iddo roddi gau ddiolch i ti.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda