Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 7

7
PEN. VII.
Bod yn rhaid cilio oddi wrth ddrwg heb ein cyfiawnhau ein hunain. 19 Y modd y mae i ni arfer cyfaill, gwraig, gweision, plant, tâd a mam, ac eglwys­wyr.
1Na wna ddrwg, ac ni oddiwes drwg dy di.
2Ymado ag anwiredd, ac fe a gilia pechod oddi wrthit ti.
3[Fy] mab na haua ym mysc cwysau ang­hyfiawnder, rhag i ti eu medu yn saith ddyblyg.
4Na chais gan yr Arglwydd lywodraeth, na chadair gogoniant gan y brenin.
5Nac #Iob.9.2. Psal.143.2. Preg.7.18. Luc.18.11.ymgyfiawnha ger bron yr Arglwydd, ac na chymmer arnat fod yn ddoeth yng­ŵydd y brenin.
6Na chais fod yn farn-wr rhag na allech dynnu anghyfiawnder ymmaith, rhag vn amser i ti ofni rhag y cadarn, a gosod o honot dramgwydd ar dy iniawn-ffordd.
7Na pecha yn erbyn torf dinas, ac nac ym­mwthia i dyrfa.
8Na #Pen.5.5ymrwym â phechod ddwywaith, o herwydd ni byddi di ddifai o vn.
9Na ddywet, efe a edrych ar luosogrwydd fy rhoddion i, a phan offrymmwyf i’r goruchaf Dduw, efe a dderbyn: na fydd egwan yn dy weddi, ac nac esceulusa wneuthur elusen.
10Na watwar y dŷn a fyddo yn chwerwder ei enaid, o herwydd y mae #1.Sam.2.7.gostyngudd a derchafudd.
11Na ddychymmyg gelwydd ar dy frawd, ac na wna y fath beth i’th gyfaill.
12Na fyn ddywedyd dim celwydd, o herwydd ni [ddaw] mynych arfer o honaw ef i ddaioni.
13Na fydd siaradus ym mysc llawer o henuriaid, ac #Math.6.5.7.nac ail-draetha dy ymadrodd yn dy weddi.
14Na #Rhuf.12.11.chasâ waith poenus, nac hwsmonnaeth yr hon a greodd y Goruchaf.
15Na chyfrif di dy hun ym mysc pechadu­riaid.
16Cofia, nad oeda digofaint.
17Darostwng dy enaid yn ddirfawr: canys dialedd yr annuwiol fydd tân a phryf.
18Na newidia dy gyfaill am ddim cyffre­dinol, na’th wir frawd am aur da.
19Nac ymado â gwraig ddoeth dda: canys gwell ym ei grâs hi nag aur.
20Na #Lefit.19.13.|LEV 19:13. Pen.33.29|SIR 33:29 & 34.23.wna niwed i wenidog a fyddo yn gweithio mewn gwirionedd, na’r gwâs cyflog yr hwn sydd yn rhoddi ei enioes.
21Cared dy enaid, ei wenidog synhwyrol, ac na thwylla ef am ei rydd-did.
22[Os] #Deut.25.4.anifeiliaid sy gennit, edrych arnynt: ac os buddiol ydynt i ti, arhosant gyd â thi.
23[Od] #Pen.30.11oes i ti blant dysc hwynt, a chrymma eu gyddfau hwynt oi hieuengtid.
24[Od] oes merched i ti gwilia eu cyrph hwynt, ac na ddangos dy wyneb yn llawen wrthynt hwy.
25Dôd dy ferch allan, a thi a fyddi wedi gwneuthur gwaith mawr: eithr dôd hi i wr synnhwyrol.
26[Os] bydd i ti wraig wrth dy feddwl na fwrw hi ymmaith, ac na ddôd ti dy hun i [vn] at­câs.
27 # Pen.3.9|SIR 3:9. Tob.4.3. Anrhydedda dy dad â’th holl enaid, ac na anghofia ofidiau dy fam.
28Cofia mai trwyddynt hwy i’th anwyd ti, a pha beth a deli di iddynt hwy o’r fath [a wnaethant] hwy i ti:
29Ofna yr Arglwydd â’th holl enaid, a pharcha ei offeiriaid ef: câr yr hwn a’th wnaeth di a’th holl nerth, ac #Deut 12.18.na âd ei wenidogion ef.
30Ofna yr Arglwydd, ac anrhydedda yr o­ffeiriad:
31A dôd ti iddo ef #Lefit.2.3. Num.18.15.ran fel y gorchymynnwyd i ti:
32[Sef] y blaen ffrwyth, ac [aberth] tros gamwedd:
33A rhodd y palfeisiau, ac aberth y cyssegriad, a blaen-ffrwyth y pethau sanctaidd.
34Estyn hefyd dy law i’r tlawd fel y perffeithier dy fendith di.
35Cymmwynas rhodd [a welir] o flaen pob vn byw, ac #Tob.2.4,7. & 4.17.na orafyn di gymmwynas tros y marw.
36Na #Rhuf.12.15.phalla i’r ŵylofus: eithr ŵyla gyd a’r ŵylofus.
37Na #Matth.25.36.fydd ddiog i ofwyd y claf: canys trwy y cyfryw bethau i’th gerir di.
38Yn dy holl eiriau meddwl am dy ddiwedd ac ni phechi di byth.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda