Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 49

49
PEN. XLIX.
Clôd Iosias, Hezecias, Dafydd, Ieremi, Ezechiel, Zorobabel, lesus, Nehemias, Enoch, Ioseph, Sem a Seth.
1Coffadwriaeth #2.Bren.22.1. 2.cron.34.3.Iosias sydd fel cymmysciad arogl-darth trwy gyfarwydd waith yr apothecari.
2O mae hi cyn felused â’r mêl ym mhob genau, ac fel cerdd mewn gwledd o wîn.
3Efe a gafodd gyfarwyddyd i ddadtroi y bobl, ac a ddug ymmaith ffieidd-dra anwiredd.
4Efe a gyfeiriodd ei galon at yr Arglwydd, #2.Bren.23.5.ac a gadarnhaodd dduwioldeb yn amser pecha­duriaid.
5Pob [brenin] ond Dafydd, Ezecias ac Iosias a wnaethant fai.
6Canys brenhinoedd Iuda hefyd a adawsant, ac a wrthodasant gyfraith y Goruchaf.
7Yntef a roddes eu corn hwynt i arall, ai gogoniant i genedl ddieithr.
8[Am hynny] y lloscasaut hwy y ddinas etholedic sanctaidd, ac #2.Bren.25.9.yr anrheithiwyd ei heolydd hi yn ôl prophwydoliaeth Ieremi.
9Canys efe ai cystuddiodd ef, ac yntef #Iere.1.5.wedi ei sancteiddio yn brophwyd o groth ei fam i ddiwreiddio, a niweidio, a difetha, felly hefyd i adailadu ac: blannu.
10 # Ezec.1.3. Ezeciel yntef a welodd weledigaeth ogoneddus, yr hon a ddangoswyd iddo ef ar ger­byd o gerubiaid.
11Efe a feddyliodd am y gelynnion yn y gafod, #Ezec 13.9.|EZK 13:9 & 38.11.ac a gyfarwyddodd y rhai iniawn eu ffyrdd.
12Felly bendigedic fyddo coffadwriaeth y deuddec prophwyd.
13Pa fodd#Hag.2.2|HAG 2:2. 4.esdr.4.2.y mawrygwn ni Zorobabel, ac yntef megis yn sel ar y llaw ddehau.
14Felly #Zach.3.1.|ZEC 3:1. age.1.12.|HAG 1:12. nehem.7.1.Iesus fab Iosedec: y rhai hyn yn eu dyddiau a adailasant y tŷ, ac a gyfodasant Deml sanctaidd i’r Arglwydd yr hon a ddarparwyd yn ogoniant tragywyddol.
15Nehemias hefyd a oedd o’r rhai etholedic, am yr hwn y mae mawr goffa, yr hwn a gododd i ni y caerau a syrthiasent, #Gen.5.24.|GEN 5:24. pen.44.16.|SIR 44:16. heb.11.5.ac a osododd i fynu y pyrth ar barrau, ac a gyfododd ein tai ni.
16Ni chreuwyd ar y ddaiar fath #Gen.41.44.|GEN 41:44 & 42.6.|GEN 42:6 & 45.8.Enoch, yr hwn a gyfodwyd i fynu oddi ar y ddaiar.
17Ac ni bu y fath ŵr ag #Gen.5.3.|GEN 5:3 & 11.10.Ioseph yr hwn a oedd bennaeth ar ei frodyr,
18A chynhaliwr y bobl, am escyrn yr hwn yr edrychodd yr Arglwydd.
19Sem a Seth a gawsant barch gan ddynion: ac Adda oedd yn y greadwriaeth goruwch pôb peth.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda