Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 48

48
PEN. XLVIII.
Clôd Elias, Elizeus, Ezechias ac Esai.
1Yna y cododd #1.Bren.17.1.Elias y prophwyd fel tân, ai air ef a losce fel lusern.
2Yr hwn a ddug arnynt hwy newyn mawr a thrwy ei zêl ai gwnaeth hwy yn ychydig.
3Efe a gaeodd y nefoedd trwy air yr Arglwydd, a #1.Bren.18.38. & 2.bren.1.10.thair gwaith y dug efe dân: ô Elias mor ogoneddus fuost ti yn dy ryfeddodau:
4Pwy a ddichon ymffrostio [ei fod] fel ty di:
5Yr hwn #1.Bren.17.21.a gyfodaist [y] marw o farwolaeth, a dŷn o’r bedd trwy air y Goruchaf.
6Yr hwn a ddygaist frenhinoedd i ddinistr, a phendefigion oi heisteddfa.
7Yr hwn a glywaist gerydd yr Arglwydd yn Sina, a barnedigaethau dialedd #1.Bren.19.15.yn Ho­reb.
8Yr hwn #1.Bren.19.16.a eneiniodd frenhinoedd i dalu y pwyth, a phrophwydi i ddilyn ar ei ôl ef.
9 # 2.Bren.2.11. malach.4.5. Yr hwn a godwyd i fynu mewn tro-wynt o dân, ac mewn cerbyd meirch tânlyd.
10Yr hwn a ordeiniwyd i geryddu mewn prŷd, ac i ostegu digter yr Arglwydd cyn iddo lidio, ac i droi calon y tadau at y meibion, ac i grynhoi llwythau Iacob.
11Gwyn eu byd hwy a’th welsant di, ac a hunasant mewn cariad:
12Canys nyni a fyddwn byw.
13Elias #2.Bren.2.11.a orch-guddiwyd yn y dymestl, ac Elizeus a lanwyd âi yspryt ef: ni syflodd efe er tywysogion yn ei ddyddiau, ac ni allodd neb ei feistroli ef.
14Ni orchfygodd dim ef, ac wedi ei huno ef, #2.Bren.13.21.fe a brophwydodd ei gorph ef.
15Efe a wnaeth ryfeddod yn ei fywyd, ac yn ei ddiwedd rhyfedd oedd ei weithredoedd ef.
16Er hyn oll ni chymerodd y bobl edifeirwch, ac ni chiliasant oddi wrth eu pechodau, #2.Bren.18.11.hyd oni chaethgludwyd hwynt oi gwlâd, ai gwascaru ym mhob gwlâd:
17A gadel ychydig bobl a thywysog yn nhy Ddafyd.
18Rhai o honynt hwy a wnaethant yr hyn a oedd yn rhyglyddu bodd, a rhai a wnaethant lawer o bechod.
19 # 2.Bren.18.2. Ezecias a gadarnhaodd ei ddinas, ac a ddug ddwfr iw chanol hi: efe a gloddiodd y graig â haiarn, ac a wnaeth ffynhōnau i’r dwfr.
20Yn ei ddyddiau ef #2.Bren.18.13.y daeth Senacharib i fynu, ac a anfonodd Rabsaces o Lachis, ac a dderchafodd ei law yn erbyn Sion, ac a ymffrostiodd yn ei falchder.
21Yna y crynnodd eu calonnau, ai dwylo hwynt, ac yr ymofidiasant hwy fel gwragedd yn escor.
22Ond hwy a alwasant ac yr Arglwydd trugarog, gan estyn eu dwylo atto ef.
23A’r hwn sanctaidd ai gwrandawodd hwynt o’r nefoedd, ac ai gwaredodd hwynt trwy law Esai.
24Efe #2.Bren.19.35.|2KI 19:35. esa.37.36.|ISA 37:36. tob.1.18.|TOB 1:18. 1.mac.7.41.|1MA 7:41 2.mac.8.19.a ddifethodd lu yr Assyriaid, ai angel ef ai dinistriodd hwynt.
25O blegit Ezecias a wnaethe yr hyn a oedd fodlon gan yr Arglwydd, ac a ddilynodd ffyrdd Dafydd ei dad yn lew, fel y gorchymynnase y prophwyd Esai, yr hwn oedd fawr a pharchedic yn ei olwg ef.
26Yn #2.Bren.20 10|2KI 20:10. esa.38.8ei ddyddiau ef yr aeth yr haul yn ei ôl, ac efe a estynnodd hoedl y brenin.
27Trwy yspryd godidog y gwelodd efe y pethau a fyddent yn ddiweddaf, ac y cyssurodd efe y rhai a oeddynt athrist yn Sion tros byth.
28Efe a ddangosodd y pethau a ddeuent, byth, a phethau a oeddynt ddirgel cyn eu dyfod.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda