Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 46

46
PEN. XLVI.
Clôd Iosua, Caleb a Samuel.
1Cryf mewn rhyfel oedd #Num.27.18. Deut.34.9. Ios.1.2.Iesus mab Nafe, dilynwr Moses mewn prophwydoliaethau.
2Yr hwn (yn ôl ei enw) a oedd fawr ei iechydwriaeth i etholedigion Duw i ymddial ar y gelynion a gyfodent iw herbyn hwynt fel y cae Israel ei etifeddiaeth.
3Pa #Ios.8.1.ogoniant a gafodd efe yn derchafu ei ddwylo, ac yn tynnu ei gleddyf yn erbyn dinasoedd:
4Pwy #Ios.10.12.a safodd felly oi flaen ef: canys efe oedd dywysog ar ryfel yr Arglwydd.
5Onid er ei fwyn ef y safodd yr haul, ac y gwnaed vn diwrnod cyhŷd â dau:
6Efe a alwodd ar y llywydd goruchaf, pan oedd y gelynion yn ei orthrymmu ef o bob parth a’r mawr Iôr ai gwrandawodd ef #Ios.10.11.gan roddi cerrig cessair mawr odieth.
7Efe a ruthrodd ar y cenhedloedd â rhyfel, ac yn y goriwared efe a ddifethodd y gwrthwynebwŷr.
8Fel y galle y cenhedloedd adnabod ei ar­fogaeth ef, maio flaen yr Arglwydd yr oedd efe yn rhyfela, o blegit efe oedd yn ymlid ar ôl [vn] cadarn.
9Yn#Num.14.8. 1.Mac 2.55.amser Môses hefyd y gwnaeth efe â Chaleb hefyd fab Iephun waith elusen, gau sefyll yn erbyn y gelynion, ac attal y bobl rhag pechu, a lluddio y grwgnach drygionus.
10Ac hwynt hwy ill dau a ddianghasant: #Num.26.65. deut.1.35.o chwe chant mîl o wŷr traed, iw dwyn hwynt i mewn i’r etifeddiaeth, sef i’r wlâd a oedd yn llifeirio o laeth a mêl.
11I Caleb hefyd y rhoddes yr Arglwydd gryfoer, #Ios.14.11.11.(sic.)ac efe a arhoes gyd ag ef hyd ei henaint fel yr aeth efe i vchelder y wlâd, ai hâd ef ai gorescynnodd yn etifeddiaeth.
12Fel y galle holl feibion Israel weled mai da yw dilyn yr Arglwydd.
13Y barnwyr hefyd bôb vn erbyn ei henw,
14Y rhai oll ni phutteiniodd eu calon, a pha rai bynnac ni throasant oddi wrth yr Arglwydd a ydynt yn caffael coffadwriaeth enwoc.
15Y mae #Pen.49.10.eu hescyrn yn ireiddio yn eu lle, ac y mae eu henw hwynt yn cyfnewidio ym mhlant y rhai a gânt anrhydedd.
16Samuel y prophwyd yr hwn a oedd hoff gan yr Arglwydd #1.Sam.10.1. & 16.13.a osododd frenhiniaethau, ac a eneiniodd dywysogion ar ei bobl.
17Trwy gyfraith yr Arglwydd y barnodd efe y gynnulleidfa, a’r Arglwydd a ystyriodd wrth Iacob.
18Y prophwyd a gafwyd yn ddiwyd wrth ei ffydd, ac efe a adnabuwyd wrth ei eiriau.
19Canys efe #1.Sam.7.9.a alwodd ar yr Arglwydd galluoc, pan orthrymmodd y gelynnion ef o amgylch wrth offrymmu yr oen sugno.
20A’r Arglwydd a daranodd o’r nefoedd, ac a wnaeth glywed twrwf ei daran a sŵn mawr.
21Felly y drylliodd efe dywysogion y Ty­riaid a phenaethiaid y Philystiaid oll.
22A #1.Sam.12.3.chyn amser ei hîr hun, efe a destiolaethodd o flaen yr Arglwydd ai eneinioc, na ddygase efe o dda neb gymmaint, ac escid: ac nid achwynodd neb rhagddo ef.
23Ac #1.Sam.28.18.wedi iddo ef huno, efe a brophwydodd ac a ddangosodd i’r brenin ei ddiwedd, ac a dderchafoed ei lef o’r ddaiar gan brophwydo y deleid anwiredd y bobl.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda