Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 45

45
PEN. XLV.
Clôd Moses Aaron a Phinees.
1Moses yr hwn a oedd #Exod.11.3. Act.7.22.hoff gan Dduw a dynion, ac y mae ei goffadwriaeth yn fendigedic.
2Efe ai gwnaeth ef yn debyg i ogoniant y sainct, ac ai mawrygodd ef gan beri iw elynion ei ofni ef: trwy ei eiriau ef y gwnaeth efe i ryfeddodau beidio.
3Efe ai gwnaeth ef #Exod.6.7.|EXO 6:7. 8.9.yn ogoneddus yng-olwg brenhinoedd, efe a roddes gyd ag ef orchymyn at ei bobl, ac a ddangosodd iddo ef ei ogoniant.
4Efe #Num 12.3.ai sancteiddiodd ef mewn ffydd a gostyngeiddrwydd, ac ai dewisodd ef o flaen pob dŷn.
5Efe a wnaeth iddo ef glywed ei lais ef, ac ai dug ef i’r cwmwl,
6Ac efe a roddes y gorchymynnion oi flaen ef, sef cyfraith bywyd a gŵybodaeth, efe a ddys­codd y cyfammod i Iacob, ai farnedigaethau i Israel.
7Efe a #Exod.4.28.dderchafodd Aaron sanct, ei frawd ef; yr hwn a oedd debyg iddo ef o lwyth Lefi.
8Efe a siccrhaodd iddo ef gyfammod tragywyddol, ac a roddes iddo ef offeiriadaeth y bobl: efe ai gwnaeth ef yn ddedwydd mewn harddwch,
9Ac efe ai gwiscodd ef â gwisc ogoneddus efe ai gwiscodd ef â gorfoledd cyflawn, ac ai gwrgysodd ef ag offer cadernid,
10Llawdr-wisc, pais ac Ephod.
11Efe ai hamgylchodd ef â phomgrana­dau [ac] â chlychau aur lawer o amgylch, i seinio#Exod.28.35.pan gerdde efe, i wneuthur sŵn yr hwn a glywid yn y deml, ac i fod yn goffadwriaeth i feibion ei bobl ef.
12Ac â gwisc sanctaidd o aur, â sidan glâs, â phorphor, ac amryw waith, â dwyfronnec barn ag arwyddion gwirionedd,
13Ac â gwaith cywraint o scarlat ac â mei­ni gwerthfawr wedi eu cerfio fel sêl, ai gosod mewn aur trwy waith eurych er coffadwriaeth: ac scrifen wedi ei cherfio yn ôl nifer meibion Israel.
14Ar y meitr [y gwiscase efe] goron o aur fel cerfiedic bortreiad sancteiddrwydd yn harddwch anrhydeddus, yn waith godidog, yn hyfryd i’r llygaid, yn hardd ac yn dêg.
15Ni bu y fath oi flaen ef,
16Ac er ioed ni wiscodd neb dieithr hwynt, eithr ei feibiō ef yn vnic, ai ŵyrion ef bob amser.
17Dwy waith yn y dydd yn wastadol y poeth offrymmid eu haberthau hwynt.
18Moses ai cyssegrodd ef, ac ai heneiniodd ag olew sanctaidd.
19Aeth yn gyfammod tragywyddol iddo ef, ac iw hâd cyhŷd ag y parhao y nefoedd, gael gwasanaethu iddo ef, ac offeiriadu hefyd a ben­dithio y bobl yn ei enw ef.
20Efe ai dewisodd ef o flaen pob [dŷn] byw i offrymmu offrwm i’r Arglwydd a phêr arogldarth er coffadwriaeth, i wneuthur cymmod tros y bobl.
21Efe a #Lefit.8.12. Deut.17.10. & 21.5.roddes iddo ef ei orchymynnion ac yng-hyfammod y gyfraith awdurdod i ddyscu ei destiolaethau ef i Iacob, ac i egluro ei gyfraith ef i Israel.
22 # Num.16.1. Dieithriaid a safasant iw erbyn ef, ac a genfigennasant wrtho ef yn yr anialwch, (sef y gwŷr y rhai a oeddynt gyd â Dathan ac Abiram a chynulleidfa Core) mewn llid a digter.
23Yr Arglwydd a welodd hyn, ac ni bu fodlon: eithr hwy a ddifethwyd yn llidiaw­grwydd ei ddigter ef.
24Efe a wnaeth arnynt hwy wrthiau gan eu difetha â flam dân.
25Ac #Num.17.8.efe a roddes chwaneg o ogoniant i Aaron, ac a roddes iddo etifeddiaeth blaen ffrwyth, y cyntaf-anedic a rannodd efe iddo.
26Yn gyntaf efe a arlwyodd iddo ef ddigon o fara: o blegit y maent hwy yn cael bwyta a­berthau yr Arglwydd y rhai a roddes efe iddo ef, ac iw hâd.
27Eithr #Deut.12.12.ni roddes efe etifeddiaeth iddo ef o dir y bobl, ac nid oes iddo ef etifeddiaeth ym mysc y bobl: oblegit efe ei hun yw rhan ei etifeddiaeth ef.
28 # Num.25.12. 1.Mac.2.54. Phinees mab Eleazar a oedd y try­dydd mewn gogoniant: am iddo ef ddwyn zêl yn ofn yr Arglwydd:
29A sefyll o honaw ef i fynu ag ewyllys da a pharod, a gwneuthur cymmod tros Israel, pan droasse y bobl ymmaith.
30Am hynny y gwnaeth efe ag ef gyfammod heddychlon, y cae efe fod yn swyddog ar y cyssegr, ac ar ei bobl, fel y bydde braint yr offeiriadaeth iddo ef ac iw hâd byth.
31[Efe a wnaeth] gyfammod â Dafydd mab o lwyth Iuda, [y bydde] etifeddiaeth y brenin o fab i fab yn vnic: eithr etifeddiaeth Aaron a oedd iw hâd ef. Rhodded [Duw] ddoethineb yn eich calō chwi i farnu ei bobl ef yn gyfiawn fel na ddeleer eu daioni hwynt, ac [y coffânt hwy] ei ogonant ef trwy eu cēhedlaethau.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda