Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 44

44
PEN. XLIIII.
Clôd Enoch, Noe ac Abraham.
1Canmolwn y gwŷr enwoc y rhai a oeddynt dadau i ni wrth hiliogaeth.
2Llawer o ogoniant a gafodd yr Arglwydd iw fawredd erioed trwyddynt hwy.
3Y rhai a lywodraethasant ar eu teyrnasoedd, ac a oeddynt wŷr enwoc o allu yn ymgynghori yn synhwyrol, ac yn treuthu prophwydoliaethau.
4Hwy #Exod.18.25.a flaenorasant y bobl trwy gyngor a thrwy ddeall cyfraith y bobl: geiriau doethion oeddynt yn eu hathrawiaeth hwynt.
5Hwy a geisiasant allan felusdra cerdd, ac a draethasant ganiadau scrifennedic.
6Gwŷr cyfoethogion cedyrn o nerth a heddychlon yn eu cartref oeddynt hwy.
7Y rhai hyn oll yn eu cenhedlaethau a gawsant ogoniant, a gorfoledd yn eu dyddiau.
8Bu [rhai] o honynt hwy y rhai a adawsant enw [ar eu hôl] fel yn mynegu [eu] clôd [hwynt.]
9Bu hefyd rai heb fod coffa am danynt hwy, ac #Gen.7.22.a ddifethwyd fel pe na’s buassent, ac a aethant fel pe na’s ganesid hwynt, ai plant gyd â hwynt.
10Eithr gwŷr trugarog oedd y rhai hyn, cyfiawnder pa rai ni’s anghofiir.
11Gyd ai hiliogaeth hwynt yr erys etifeddi­aeth dda: y mae eu hiliogaeth hwynt yn y cyfammod.
12Y mae eu hiliogaeth hwynt yn y cyfammod, ai plant hwynt gyd â hwythau.
13Byth y peru eu hiliogaeth ai gogoniant ni ddeleuir.
14Eu cyrph a gladdwyd mewn heddwch: ac y mae eu henw yn byw byth.
15Y bobl #Pen.39.10.a fynegant eu doethineb hwy, a’r gynnulleidfa a draetha eu clôd hwynt.
16 # Gen.5.24.|GEN 5:24. Heb.11.5. Enoch a ryglyddodd fodd i Dduw, ac a fudwyd ymmaith yn siampl o edifeirwch i’r cenhedlaethau.
17 # Gen.6.9.|GEN 6:9 & 7.1.|GEN 7:1. Hebr.11.7. Noe a gafwyd yn berffaith [ac] yn gyfiawn: ac yn amser digter efe a wnaed yn gymmod.
18An hynny [pan] fu y diluw,
19Cyfammod tragywyddol a wnaed ag ef, #Gen.9.11.na ddifethid pob cnawd trwy ddiluw [mwy.]
20 # Gen.12.3.|GEN 12:3 & 15.5.|GEN 15:5 & 17.4. Abraham sydd dâd mawr i lawer o genhedloedd, ac ni chafwyd ei fath ef mewn gogoniant: efe a gadwodd gyfraith y Goruchaf, ac a ddaeth mewn cyfammod ag ef.
21Hefyd efe a osododd y cyfammod #Gen.21.4.yn ei gnawd, ac wrth ei brofi, efe a gafwyd yn ffyddlon.
22Am hynny y siccrhaodd efe iddo ef #Gen.22.16.|GEN 22:16. Gal.3.8.trwy lw: y bendithid y cenhedloedd yn ei hâd ef,
23Yr amlheid ef fel llwch y ddaiar, ac y caent hwy etifeddu o fôr i fôr, ac o’r afon i eithaf y ddaiar.
24Felly #Gen.26.2.3.y siccrhaodd efe i Isaac (er mwyn Abraham ei dad) fendith pob dŷn a’r cyfammod, ac a wnaeth iddynt orphywyso ar ben Iacob.
25Efe ai hadnabu ef #Gen.27.28.gan ei fendithio, ac a roddodd iddo ef etifeddiaeth, ac a nailltuodd ei rān ef, ac ai rhānodd ym mysc y deuddec llwyth.
26Ac efe a ddug allan o honaw ef wŷr trugarog, y rhai a gawsant ffafor yng-olwg pob dŷn.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda