Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 36

36
PEN. XXXVI.
Gweddi y ffyddloniaid yn erbyn gelynnion yr eglwys. 22 Clôd gwraig dda.
1Cymmer drugaredd arnom ni ô Arglwydd, Duw pawb, ac edrych.
2A gyrr dy ofn ar y cenhedloedd y rhai ni’th geisiasant.
3 # Ier.10.25. Cyfot di law ar y cenhedloedd dieithr: gâd iddynt weled dy allu di.
4Megis i’th sancteiddir yn ein mysc ni ger eu bron hwynt, felly mawrhaer di yn eu mysc hwythau ger ein bron ninnau.
5Fel i’th adwaenant megis yr ydym ninnau yn dy adnabod, canys nid oes Duw ond tydi oh Arglwydd.
6Adnewydda yr arwyddion, a chyfnewidia y rhyfeddodau.
7Dangos dy law a’th ddeheu-fraich yn ogoneddus, fel y mynegant dy wrthiau.
8Cyffroa dy lid a thywallt dy ddigter.
9Cymmer y gwrthwynebwr ymmaith a dryllia y gelyn.
10Gwna i’r amser ddyfod yn fuan, cofia y digofaint fel i’th ddadcano dy ryfeddodau di.
11Gâd i ddigofaint tanllyd ddifa y neb a ddiango, a chaffed y rhai a wnant niwed i’th bobl eu difetha.
12Dryllia bennau tywysogion y cenhedloedd y rhai a ddywedant, nid oes ond nyni.
13Cascl holl lwythau Iacob, a chymmer di hwynt yn etifeddiaeth i ti megis o’r dechreuad.
14Oh Arglwydd trugarha wrth y bobl y rhai a elwir ar dy enw di, ac wrth Israel yr #Exod.4.22.hwn a elwaist di yn gyntaf-anedic.
15Tosturia wrth Ierusalem dinas dy gyssegr, a’th orphywysfa dy hun.
16Llanw Sion â’th anfeidrawl rinwe­ddau, a’th bobl â’th ogoniant.
17Dod destiolaeth i’r pethau a greaist ti yn y dechreuad, a chyfot brophwydi yn dy enw.
18Dod wobr i rhai ydynt yn aros wrthit ti, a chaffer dy brophwydi di yn ffyddlon.
19Gwrando ô Arglwydd weddiau dy weision tros dy bobl #Num.6.23.yn ôl bendith Aaron i’r bobl fel y gwypo y rhai oll a ydynt ar y ddaiar dy fod ti yn Arglwydd tragywyddol.
20Y bol a dreulia bob bwyd, ond y mae rhyw fwyd yn well na bwyd arall.
21Y genau a edwyn fwyd hela, felly yr edwyn calon gall eiriau celwyddoc.
22Calon wrthnysig a bair dristwch, ond dyn a ŵyr lawer a feddiginiatha hynny.
23Gwraig a dderbyn bob gŵr: eithr y mae rhyw ferch yn well na merch arall.
24Tegwch gwraig a lawenycha wyneb ei gŵr, ac a ddwg i ddŷn yr hyfrydwch mwyaf.
25Os bydd yn ei thafod hi [ymmadrodd] trugaroc, llednais, ac iachol, nid fel eraill y mae ei gŵr hi.
26Y mae perchen gwraig [dda] yn dechreu cael cyfoeth, sef help fel ef ei hun, a cholofn gorphywysdra.
27Lle nid oes cae yr anrheithir y cnwd, ac lle nid oes gwraig yr ochneidia vn dā gyrwydro.
28Pwy a goelia williad wedi ymdaclu, ac yn gwibio o ddinas i ddinas: felly y mae am y dŷn nid oes ganddo nyth, eithr lletteu ym mha le bynnac yr elo hi yn nos arno ef.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda