Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 35

35
PEN XXXV.
I ba aberthau y mae Duw bodlon. 14 Gweddi yr ymddifad a’r weddw a’r gostyngedic.
1 # 1.Sam.15.22. Ier.7.3. Y Mae y neb sydd yn cadw y gyfraith yn dwyn digon o offrymmau.
2Y neb sydd yn dilyn y gorchymynnion sydd yn aberthu iechydwriaeth.
3Ac y mae yr hwn a dalo ddiolch megis yn offrymmu peillied, #Phil.4.18.ar hwn a roddo elusen yn aberthu moliant.
4Ewyllys yr Arglwydd yw troi oddi wrth ddrygioni: #Exod.23.15. & 34.20.a bodloni yw ymado ag anghyfiawnder.
5Nac ymddangos ger bron yr Arglwydd yn wag-law.
6O blegit hyn oll a wneir o achos y gorchymyn.
7 # Gen 4.4. Y mae offrwm y duwiol yn gwneuthur yr allor yn frâs, a pheraidd yw ei arogl ef ger bron y Goruchaf.
8Aberth y gŵr cyfiawn sydd gymeradwy, ac nis gollyngir tros gof ei goffadwriaeth ef.
9Gogonedda Dduw yn ewyllyscar, ac na ddod flaen-ffrwyth dy ddwylo yn brin.
10 # 2 Cor 9 7. Dangos dy wyneb yn llawen ym mhob rhodd: a chyssegra dy ddecfed yn siriol.
11 # Tobit 4 8. Dod i’r Arglwydd megis y rhoddes yntef i tithe, ac fel y mae dy allu yn ewyllyscar.
12O blegit diolchgâr yw yr Arglwydd, ac efe a dâl saith gymmaint: na wna dy rodd yn brinnach.
13 # Deut.10.17. 2.Cron.19.7.|2CH 19:7. Iob 34.19.|JOB 34:19. Doeth.6.7. Act.10.34. Rhuf.2.11. Galat.2.6.|GAL 2:6. Ephes.6.9.|EPH 6:9. Colos.3.25.|COL 3:25. 1.Pet.1.17. Na phrinhâ mo’th offrwm, canys ni dderbyn efe mo honaw: ac nac edrych ar aberth anghyfiawn.
14O blegit yr Arglwydd sydd farn-wr, ac nid yw efe yn ystyried wyneb neb.
15Nid ystyria efe berson yn erbyn y tlawd, eithr efe a wrendu weddi y gorthrymedic.
16Ni ddiystyra efe ddeisyfiad yr ymddifad na’r weddw, pan dywallto hi ei gweddi.
17Onid yw dagrau y weddw yn descyn ar ei gruddiau hi, ai llefain yn erbyn y neb sydd yn eu peri:
18Yr hwn a addôlo [Dduw] a fydd cymmeradwy, ai weddi ef a gyredd hyd y cwmylau.
19Gweddi y gostyngedic a aiff trwy y cwmylau, ac nis diddenir hi nes ei dyfod yn agos, nid ymmedu hi nes i’r Goruchaf edrych arni hi a barnu y cyfiawn, a gwneuthur barn.
20A’r Arglwydd nid oeda, ac nid erys y cadarn wrthynt hwy, nes dryllio cefn y rai creulon.
21A rhoddi dial ar y cenhedloedd a dwyn ymmaith luosogrwydd y rhai trahaus, a dryllio lwynau y rhai anghyfiawn.
22Nes iddo ef dalu i [bob] dŷn yn ôl eu haeddedigaethau: a gobrwyo dynion yn ôl eu meddyliau.
23Nes iddo farnu ei bobl, ai llawenychu hwynt ai drugaredd ef.
24Mor hyfryd yw trugaredd yn amser adfyd: fel y cwmylau glaw yn amser sychder.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda