Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 30

30
PEN. XXX.
Am gospedigaeth plant 14 mor felus yw iechyd a llawenydd.
1Yr hwn sydd yn caru ei fab ai mynych #Dihar.13.24|PRO 13:24 & 23.13.ffrewylla ef, fel y llawenycho efe yn ei ddiwedd ef.
2Yr hwn a addysco ei fab a gaiff lawenydd o honaw ef, ac a orfoledda oi achos ef ym mysc ei gydnabod.
3Yr hwn sydd #Dan. 6.7yn dyscu ei fab a ddigia ei elynion, ac a orfoledda oi blegit ef o flaen ei gyfeillion.
4Er marw ei dad ef, etto y mae efe megis heb farw, am adel o honaw ef ar ei ôl vn cyffelyb iddo ei hun.
5Yn ei fywyd efe ai gwelodd ef, ac a fu lawen oi blegit: ac yn ei ddiwedd ni bu efe athrist.
6Efe a adawodd vn i ddial yn erbyn ei elynion, ac vn i dalu diolch iw gyfeillion.
7Yr hwn sydd yn cospi ei fab a rwym ei ar­chollion ef, er cythryblu ei emyscaroedd ef ar bob bloedd.
8March gwyllt a aiff yn sceler, a mab a a­dewir iddo a aiff yn anllywodraethus.
9Llocha dy fab, ac efe ath ddychrynna di: chware ag ef, ac efe a’th dristâ di.
10Na chyd chwardd ag ef rhag gofidio o honot, ac escwyd dy ddannedd o’r diwedd.
11Na #Pen.7.23.ddod iddo ef rydd-did yn ei ieuenc­tid, ac na fydd ddiystyr am ei annwybodaeth ef.
12Gostwng ei warr ef yn ei leuēgtid, a thorr ei ystlys tra fyddo efe plentyn, rhag iddo annufyddhau i ti pan galedo efe, a bod yn ofid calon i ti.
13Addysca dy fab, a chymmer boen gyd ag ef, fel na thramgwyddech trwy ei anniwarth­rwydd ef.
14Gwell yw ’r iach cryf ei gyfansoddiad, na’r cyfoethog yr hwn y curwyd ei gorph.
15Iechyd a chyfansoddiad da sydd well na phob aur, a chorph iachus na golud anfeidrol.
16Nid oes gyfoeth gwell nag iechyd corph: ac nid oes llawenyd gwell na llawenydd calon.
17Gwell yw marwolaeth nag enioes chwerw, neu nychtod barhaus.
18Pethau da wedi eu cau mewn safn caead yw gwledd wedi ei gosod ar fedd.
19Pa fudd a wna diod offrwm i eulyn? o blegit ni fwyttu efe, ac ni arogla: felly yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei erlid.
20Yr hwn sydd yn gweled âi lygaid ac yn tuchan, sydd fel dispaidd yn canfod morwyn, ac yn vcheneidio.
21Na ddod dy enaid i dristwch, ac na chystuddia dy di dy hun a’th gyngor dy hun.
22Llawenydd calon yw enioes dyn, a hir­hoedl yw gorfoledd gŵr.
23Hoffa dy enaid, a chyssura dy galon: a gyrr dristwch ym mhell oddi wrthit.
24O blegit tristwch a ddifethodd, ac a laddodd lawer.
25Cenfigen a dig ydynt yn lleihau dyddiau: a gofal sydd yn dwyn henaint cyn yr amser.
26Calon hoiw a da a ofala [yn vnic] am ei bwyd yn [ei] gwledd.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda