Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 31

31
PEN. XXXI.
Cyngor yn erbyn gormod chwant i gyfoeth, ac i fwyd a diod.
1Gwilio am olud #2.Timoth.6.9,10.(sic.)a wna i’r cnawd ddihoeni a gofal am danynt hwy a luddia gwsc.
2Gofalu a gwilio o fynne gael hun, a chwsc a wna glefyd trwm yn hamddenol.
3Y goludog sydd yn cymeryd poen yn casclu cyfoeth, ac yn [ei] esmwythdra ef a lenwir di ddainteithion.
4Y mae y tlawd yn cymmeryd poen ac ei­sieu, er hynn pan beidio efe tlawd yw efe.
5Ni chyfrifir yn gyfiawn yr hwn a hoffo aur, a’r hwn a ddilyno lwgredigaeth a gaiff ei wala [o honi hi.]
6 # Pen.8.2. Llawer a ddifethwyd o achos aur, ac y daeth eu dinistr oi blaen.
7Pren tramgwydd yw efe i’r neb ai haddolo, ac wrtho ef y delir pôb angall.
8 # Luc.6.24. Gwyn ei fyd y goludog yr hwn a geir yn ddifai, ac nid aeth ar ôl aur.
9Pa le y mae y fath vn: ac nyni ai galwn ef yn happus: canys pethau rhyfedd y mae yn ei wneuthur ym mysc ei bobl.
10Pwy a brofwyd trwy [yr aur] hwn, ac a gafwyd yn berffaith: acefe a gaiff fôd yn orfoleddus, pwy a allodd bechu ac ni’s pechodd, ac a allodd wneuthur drygioni, ac ni’s gwnaeth:
11Am hynny y siccrheuir ei dda ef, a’r gynnulleidfa a fynega ei elusenau ef.
12Pan eisteddech di ar fwrdd gŵr mawr na rycha dy gêg arno,
13Ac na ddywet fod llawer arno.
14Cofia mai peth drwg iw drwg lygad.
15Pa beth a wnaeth waeth nâ llygad: am hynny yr ŵyla efe gerbron pôb ŵyneb.
16Nag estyn dy law ar bôb peth a welech di.
17Ac na fydd ar yr vn-waith ag ef yn y ddyscl.
18Ystyria wrthit ty hun beth yw meddwl dy gymydog, a bydd bwyllog ym mhob peth, bwyta fel dŷn yr hyn a osoder o’th flaen di, ac na fydd wangcus rhag dy gasau.
19Paid yn gyntaf o herwydd medrusrwydd, ac nac ymlanwa rhag gweled bai arnat.
20Pan eisteddech di ym mysc llawer, nag estyn dy law yn gyntaf.
21 # Pen.37.29. Mor ddigonol yw ychydig i’r medrus: ni frytheiria efe ar ei wely, cyscu yn iachus a gaiff yr hwn a fwytu yr gymhesurol, efe a gyfyd yn foreu yn ei hŵyl ai enaid ganddo.
22Gŵr a ymlanwa a gaiff anhunedd, a gofid a dolur.
23Ond os gorchfygir di mewn gwledd, cyfot o’r canol, bwrw ac ymesmwythâ.
24Clyw fi fy mab, ac na ddiystyra fi, ac yn y diwedd ti a gei fyng-eiriau i [yn wir:]
25Yn dy holl waith bydd astud, ac ni ddigwydd vn clefyd i ti.
26Gwefusau [llawer] a fendithiant yr hael oi fara: [a hynny fydd] destiolaeth siccr oi ddaioni ef.
27Yr [holl] ddinas a wrwgnach yn erbyn yr anhael oi fara, a thestiolaeth wastadol oi ddrygioni ef [fydd hynny.]
28Nac ymwrola mewn gwin: gwin a ddifethodd lawer.
29Y tân a brawf yr haiarn caled: felly gwin yng-halon y beilchion yn [eu] meddwdod.
30 # Psal.104.15. Bywiocau dynion a wna gwin od yfi di ef yn gymhesur.
31Beth yw enioes i’r hwn a orchfyger gan win: canys i lawenychu dynion y crewyd ef.
32Llawenydd calon a hyfrydwch meddwl yw ’r gwîn a yfer mewn pryd yn gymhesurol.
33Chwerwder meddwl yw ’r gwîn yr yfer llawer o honaw mewn dig a thramgwydd.
34Meddwdod yr angall a chwanega ddig a thramgwydd, a wanhâ gryfder, ac a bair archollion,
35 # Pen.20.1. Na cherydda dy gymydog wrth yfed gwîn, ac na ddirmyga ef: pan fyddo efe llawen na dywet air gwradwyddus.
36Na ddywet air gwradwyddus am dano ef, ac na wrthwyneba lawer arno ef.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda