Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 2

2
PEN. II.
Ymma y cynghorir y ffyddloniald i ddilyn amynedd a gobaith.
1Fy mâb os deui i wasanaethu yr Arglwydd, paratoa dy enaid i brofedigaeth.
2Iniona dy galon a dioddef: ac na wna frys yn yr amser y dygir [profedigaeth.]
3Glŷn wrtho heb ymmado, fel i’th gynnydder hyd dy ddiwedd.
4Derbyn yn llawen yr hyn a ddigwyddo, a bydd ymarhous am gyfnewid dy ostyngiad.
5 # Doeth.3.6. Dihar.17.3. O blegit aur a brofir yn tân: a dynion cymmeradwy yn ffwrn gostyngiad.
6Creda iddo ef, ac efe a’th dderbyn di: iniona dy lwybrau, a gobeitha ynddo ef.
7Y rhai ydych yn ofni yr Arglwydd credwch iddo ef, ac ni phalla eich gwobr chwi.
8Y rhai ydych yn ofni yr Arglwydd gobei­thwch am ddaioni, ac am lawenydd tragywyddoldeb a thugaredd.
9Y rhai ydych yn ofni yr Arglwydd ymarhoswch am ei drugaredd ef, ac na chiliwch rhag eich syrthio.
10Edrychwch ar y cenhedloedd gynt a gwelwch: pwy a ymddyriedodd i’r Arglwydd ac a wradwyddwyd:
11Neu pwy a arhosodd yn ei ofn ef ac a a­dawyd: #Psal.37.25.neu pwy a alwodd arno ef ac yntef yn ei ddiystyru ef:
12O blegit tosturiol, a thrugarog, ymarhous, ac aml ô drugaredd yw ’r Arglwydd: ac y mae efe yn maddeu pechodau, ac yn achub yn amser trallod.
13Gwae galonnau ofnus, a dwylo llesc, a’r pechadur a gerddo #1.Bren.18.23.ddau lwybr.
14Gwae yr galon lesc: o herwydd nid yw yn credu: am hynny ni amddeffynnir hi.
15Gwae chwi y rhai a gollasoch amynedd.
16A pha beth a wnewch chwi pan edrycho yr Arglwydd:
17Y rhai a ofnant yr Arglwydd ni anghredant ei esriau ef: #Io.14.23.24.a’r rhai ai carant ef a gad­want ei ffyrdd ef.
18Y rhai a garant yr Arglwydd a geisiant ewyllys da ganddo ef.
19A’r rhai ai carant ef a lenwir a’r gyfraith.
20Y rhai a garant yr Arglwydd a baratoant eu calon, ac a ostyngant eu heneidiau ger ef fron ef
21[Gan ddywedyd,] syrthiwn yn nwylo Duw, ac nid yn nwylo dynion.
22O herwydd fel y mae ei fawredd ef: felly y mae ei drugaredd ef.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda