Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 1

1
PENNOD. I.
Mor ddaionus yw doethineb, ofn yr Arglwydd, a gostyngeiddrwydd.
1Oddi wrth yr Arglwydd [#1.Bren.3.9. & 4.19.y daeth] pob doethineb, a chyd ag ef y mae hi byth.
2Pwy a rif dywod y môr: na’r dafnau glaw: na dyddiau y bŷd:
3Pwy a ôlrhain allan vchder y nefoedd: na llêd y ddaiar: na’r dyfnder: na doethineb:
4Crewyd doethineb yn gyntaf o’r cwbl, a deall synwyr erioed.
5Ffynnon doethineb yw gair yr Arglwydd [yr hwn sydd] yn y goruchelder: ai ffyrdd hi yw y gorchymynnion tragywyddol.
6I #Rhuf.11.34.bwy y dadcuddiwyd gwreiddin doethineb, a phwy a ŵybu ei chyfrwysdra hi:
7Vn sydd ddoeth iw ofni yn fawr, [ac] yn eistedd ar ei orsedd-faingc.
8Yr Arglwydd ai creawdd hi, ac [ai] gwelodd, ac ai rhifodd.
9Ac ai tywalltodd hi ar ei holl waith, yng­hyd â phob cnawd yn ôl ei ddawn ef, ac efe ai rhoddes hi i’r neb ai carant ef.
10Gogoniant ac hyfrydwch a llawenydd a choron gorfoledd yw ofn yr Arglwydd.
11Ofn yr Arglwydd sydd ddifyrrwch i’r galon, ac a rydd lawenydd a hyfrydwch a hir hoedl.
12Diwedd da fydd i’r hwn a ofno yr Arglwydd, ac efe a fandithir yn ei ddydd diwedd.
13Dechreu doethineb yw ofni yr Arglwydd, ac efe a grewyd gyd a’r ffyddloniaid yn y groth.
14Hi a osododd sylfaenau tragywyddol gyd â dŷnion, ac ym mysc eu hiliogaeth hwynt fe a gredit iddi hi.
15 # Psal.111.10. Dihar.9.10. Iob.28.28. Ofni yr Arglwydd yw cyfiawnder doethineb, ac sydd yn eu llenwi hwynt ai ffrwyth hi.
16Hi a lanwodd eu holl dai hwynt âi thlyssau, ai hyscuboriau hwynt âi chnwd hi.
17Dawn Duw i heddwch yw pob vn o’r ddall.
18Coron doethineb yn dwyn allan ffrwyth heddwch, ac iechydwriaeth iachol yw ofni yr Arglwydd: canys y mae gorfoledd yn ymhelaethu i’r rhai ai carant ef.
19Doethineb a lawiodd ddeall a gwybodaeth synŵyr, ac a dderchafodd ogoniant y rhai ai meddiannent hi.
20Gwreiddin doethineb yw ofni yr Arglwydd, ai changhennau ydynt hir hoedl.
21Ofn yr Arglwydd sydd yn gyrru pechodau ymmaith, ac (os peru) sydd yn troi digofaint ymmaith.
22Ni ddichon gŵr digllon gael ei gyfrif yn gyfiawn: oblegit bôd athrylith ei ddigllonedd ef yn dramgwyddus iddo ef.
23Y dioddefgar a ddioddef tros amser, ac wedi hynny y blagura llawenydd iddo ef.
24Efe a guddia ei eiriau tros amser, a gwefusau llawer a fynegant ei synnwyr ef.
25Yn nhryssorau doethineb y mae parablau gwybodaeth: eithr ffiaidd yw duwioldeb gan bechadur.
26Os chwennychi ddoethineb cadw y gorchymynnion, a’r Arglwydd ai rhydd hi i ti.
27O blegit doethineb ac athrawiaeth yw ofn yr Arglwydd, a’r hyn sydd fodlon ganddo ef yw ffydd ac addfwyndra,
28Nac amme ofn yr Arglwydd pan fyddech mewn angen, ac na ddos atto ef â chalon ddau ddyblyg.
29Na ragrithia o flaen dynion, eithr gochel rhag dy wefusau.
30Na dderchafa dydi dy hun rhag i ti syrthio a dwyn anniwarthrwydd i’th enaid dy hun.
31O blegit yr Arglwydd a ddadcuddia dy holl gyfrinach di, ac a’th fwrw di i lawr yng­hanol y gynnulleidfa.
32Canys ni ddaethost ti mewn gwirionedd ofn yr Arglwydd, eithr y mae dy galon yn llawn twyll.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda