Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 10

10
PEN. X.
Am amryw gynneddfau llywodraethwyr. 6 Biau dîg balchder a chybydd-dod. 23 Gwir barch dyn.
1Barnwr doeth a ddysc ei bobl, a thywysogaeth y synhwyrol a estynnir.
2Fel y byddo barnwr y bobl y bydd ei swyddogion ef, ac fel y byddo tywysog dinas y bydd y rhai oll a ydynt yn presswylio ynddi hi.
3 # 1.Bren.12.1. 13.14. Brenin diddysc a ddifetha ei bobl, a thrwy synnwyr [ei] chedyrn y bydd cyfannedd dinas.
4Yn llaw yr Arglwydd y mae meddiant y ddaiar, ac efe a gyfyd vn buddiol mewn pryd.
5Yn llaw yr Arglwydd y mae gwynfyd gŵr, ac i wyneb scrifennydd efe a esyd ei anrhydedd.
6 # Lefit.19.17. Na ddigia wrth dy gymydog am bob cam, ac na wna ddim mewn gweithredoedd tra­haus.
7Câs ger bron yr Arglwydd a dynion yw balchder, ac amryfusedd anghyfiawn [a fwrir] oddi wrth y ddau.
8 # Ier.27.6. Dan.4.14. Brenhiniaeth a symmudir o’r naill genhedlaeth i’r llall o achos anghyfiawnder, a thraha, a chyfoeth trwy dwyll: pa ham y mae pridd a lludw yn falch.
9Nid oes dim anwirach na’r cubydd.
10O blegit y mae y cyfryw yn rhoddi ei enaid ei hun ar werth: o herwydd ei ymyscaroedd ai bwrrasant [ef] allan yn ei fywyd.
11Meddig a dyrr ymmaith hir glefyd, a’r hwn sydd frenin heddyw a fydd marw y foru.
12Canys pan fyddo marw dŷn, efe a gaiff seirph a bwyst-filod a phryfed yn etifeddiaeth.
13Dechreuad balchder yw myned o vn oddi wrth Dduw, ac ymado oi galon ef oddi wrth yr hwn ai gwnaeth ef.
14Dechreuad pechod yw balchder, a’r hwn sydd yn ei ddal ef a wna ffieidd-dra yn drahaus, ac efe a ddinistrir byth.
15Am hynny y dur yr Arglwydd gospedi­gaeth ryfedd, ac y dinistriodd hwynt byth.
16Yr Arglwydd #Luc.1.52. & 14.11. & 18.4. 1.Sam.2.7.a ddinistriodd orseddfeing­ciau tywysogion, ac a wnaeth i’r rhai llednais eistedd trostynt hwy ynddynt hwy.
17Yr Arglwydd a dynnodd ymmaith wraidd y rhai beilchion, ac a blannodd y rhai gostyngedig yn eu lle hwynt mewn gogoniant.
18Yr Arglwydd a ddinistriodd wledydd y cenhedloedd, ac ai difethodd hwynt hyd sylfei­ni y ddaiar.
19Tynnodd [rai] o honynt ymmaith, difethodd hwynt hefyd,
20A gwnaeth iw coffadwriaeth hwynt ddarfod o’r tir.
21Ni chrewyd balchder i ddynion, na digter meddwl i blant gwragedd.
22Hâd diogel yw y rhai sy yn ofni yr Arglwydd, a phlanhigyn gwerthfawr yw y rhai sy yn ei garu ef: hâd amharchus yw y rhai nid ystyriant y gyfraith, hâd cyfeiliornus yw y rhai a droseddant y gorchymynnion.
23Parchedig ym mysc brodyr yw eu tywysog, felly y mae y rhai sy ’n ofni yr Arglwydd yn ei olwg yntef.
24Tywysogaeth gynnar yw ofn yr Arglwydd: eithr dinistr tywysogaeth yw creulondeb a balchder.
25Ofn yr Arglwydd sydd ogoniant, yn gystal i’r cyfoethog, i’r anrhydeddus, ac i’r tlawd.
26Nid cyfiawn yw amherchi tlawd syn­hwyrol, ac nid gweddus anrhydeddu gŵr pechadurus.
27Pendefigion, a barnwŷr, a chedyrn a anrhydeddir, ac nid mwy neb o’r rhai hynny na’r hwn sydd yn ofni yr Arglwydd.
28Rhai rhyddion a wasanaethant wâs synhwyrol, #Dihar.17 2.|PRO 17:2. 2.Sam 12 13.a gŵr doeth ni wrwgnach pan ei cerydder ef.
29Na chymmer arnat fod yn ddoeth wrth wneuthur dy waith, ac na chais anrhydedd tra fyddech mewn ing.
30O blegit #Dihar.12 9.gwell yw yr hwn sydd yn gweithio ac mewn amldra o bob peth, na’r hwn sydd anrhydeddus ac arno eisieu bara.
31[Fy] mab anrhydedda dy enaid yn llednais: a dod iddo y peth sydd addas iddo.
32Pwy a gyfiawnhâ yr hwn a becho yn erbyn ei enaid ei hun: a phwy a barcha yr hwn a amharcho ei fywyd ei hun:
33Y mae tlawd mewn parch o herwydd ei wybodaeth, ac y mae cyfoethog mewn parch o herwydd ei gyfoeth.
34Yr hwn sydd barchedic mewn tlodi, pa faint mwy pe bydde efe cyfoethog:

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda